Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gadael pethau mewn car wedi'i barcio'n gallu ei wneud yn fwy deniadol i droseddwyr. Gall hyd yn oed rhywbeth mor syml â siaced olygu y bydd hi'n fwy tebygol y bydd rhywun yn torri i mewn i'ch car chi. Dysgwch beth allwch ei wneud i gadw eich car a'i gynnwys yn ddiogel.
Y ffordd orau o ddiogelu eich eiddo yw cloi eich car pryd bynnag y byddwch yn ei adael.
Dyma rai o'r pethau eraill y gallwch eu gwneud:
Ar ben hynny, gall defnyddio platiau rhif diogel (na ellir eu dwyn) olygu nad yw eich platiau mor ddeniadol i ladron.
Gall lle rydych chi'n parcio eich car wneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch eich car a'ch eiddo.
Cadwch lygad am feysydd parcio sydd wedi cael eu cymeradwyo gan gynllun Parcio Mwy Diogel yr heddlu. Gallwch ddod o hyd iddynt drwy chwilio am eu harwyddion 'Park Mark'.
Mae meysydd parcio sy'n rhan o'r rhaglen hon yn dilyn rheolau caeth sydd wedi'u dylunio i gadw cerbydau mor ddiogel ag sy'n bosibl. Serch hynny, hyd yn oed yn y meysydd parcio hyn, dylech bob amser gloi eich car.
Gallwch ddod o hyd i restr o feysydd parcio cymeradwy ar y wefan Safer Parking.
Weithiau bydd lladron yn torri mewn i dai i chwilio am allweddi ceir. Gallant ddefnyddio gwifrau a bachau i geisio llusgo eich allweddi drwy'r blwch llythyrau.
Cadwch eich allweddi i ffwrdd oddi wrth ddrysau a ffenestri, ac o'r golwg.
Ysgathrwch rif cofrestru'r car neu saith digid olaf rhif adnabod y cerbyd ar ffenestri eich cerbyd.
Gall hyn wneud i droseddwyr ailfeddwl ynghylch dwyn eich car, gan ei fod yn golygu nad yw mor hawdd gwerthu eich car. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n haws i'r heddlu gael eich car yn ôl i chi os caiff ei ddwyn.
Os ydych chi'n meddwl am brynu car mae'n syniad da gwneud ychydig o ymchwil cyn i chi brynu. Mae rhai cerbydau'n fwy diogel nag eraill.
Mae'r cwmni ymchwil yswiriant Thatcham yn caniatáu i chi gymharu diogelwch ceir, beiciau modur a thryciau newydd.
Mae'n rhoi sgôr i bob cerbyd. Gall y sgôr hwnnw ddangos i chi sut mae'r car rydych chi'n meddwl am ei brynu yn cymharu ag eraill ar y farchnad.
Os ydych chi'n prynu car ail-law, gall y DVLA hefyd ddweud wrthych chi beth mae'n ei wybod am y cerbyd. Gall yr wybodaeth honno gynnwys y gwneuthuriad a'r model, y flwyddyn y cafodd ei adeiladu, ac a oes treth yn ddyledus ar y cerbyd.