Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eithriadau rhag talu treth cerbyd

Mae’r cerbydau sydd wedi'u heithrio rhag talu treth cerbyd yn dal i orfod arddangos disg treth dilys. Wrth drethu eich cerbyd bydd yn cael disg treth ‘am ddim’ a bydd yn rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn. Yma cewch wybod os ydy’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag talu treth cerbyd.

Rhestr o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd

Cerbydau a ddefnyddir gan bobl anabl

Os ydych chi'n berson anabl, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu treth cerbyd os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau penodol. Efallai y gallwch drethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth ‘anabl’.

Sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn â phŵer a cherbydau’r methedig

Bydd y cerbydau hyn gydag uchafswm cyflymder o wyth milltir yr awr ar y ffordd ac wedi’u ffitio gyda dyfais i gyfyngu’r cyflymder i bedair milltir yr awr ar lwybrau troed yn gorfod cael eu trethu yn y dosbarth treth ‘cerbyd anabl’.

Hen gerbydau a gafodd eu hadeiladu cyn 1 Ionawr 1973 (cerbydau hanesyddol)

Os cafodd eich cerbyd ei wneud cyn 1 Ionawr 1973, gallech ei drethu yn y dosbarth treth ‘cerbyd hanesyddol’. Gellir cael mwy o wybodaeth yn y daflen INF34.

Cerbydau trydan

Bydd angen trethu cerbydau sy’n rhedeg ar drydan yn y dosbarth treth ‘cerbyd trydan'. Rhaid i’r trydan ddod o ffynhonnell allanol neu fatri storio trydan, nad yw wedi’i gysylltu ag unrhyw ffynhonnell pŵer pan fydd y cerbyd yn symud.

Peiriannau torri gwair

Bydd angen trethu peiriant torri gwair yn y dosbarth treth ‘peiriant torri gwair’. Rhaid i’r peiriant fod wedi’i gynllunio a’i adeiladu ar gyfer torri gwair yn unig.

Cerbydau stêm

Rhaid trethu pob cerbyd a yrrir gan stêm yn y dosbarth treth ‘gyriant stêm’.

Cerbydau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth

Does dim rhaid talu treth cerbyd ar gerbydau a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yn unig.

Sut i drethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth ‘cerbydau wedi'u heithrio’

Gallwch newid i'r dosbarth treth cerbydau wedi'u heithrio yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol agosaf.

Adnewyddu eich disg treth ‘am ddim’

Bydd DVLA yn anfon ffurflen V11 atoch i'ch atgoffa i adnewyddu’ch treth bob blwyddyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU