Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cynghorau lleol ddarparu cymorth dewisol ar gyfer adnewyddu tai i ddeiliaid cartrefi. Gall y cymorth fod ar ffurf benthyciadau cost isel a rhyddhau ecwiti, yn ogystal â grantiau i berchnogion tai preifat ac eraill i helpu i adnewyddu, atgyweirio neu addasu'u cartrefi.
Mae gan awdurdodau lleol cryn hyblygrwydd a rhyddid wrth ddarparu cymorth dewisol ar gyfer gwaith atgyweirio ac addasu. Yr awdurdod lleol sy'n gallu penderfynu hefyd ar yr amgylchiadau ar gyfer rhoi cymorth dewisol, sut ffurf fydd i'r cymorth hwnnw (e.e. grantiau, benthyciadau, cynlluniau rhyddhau ecwiti ayb) a pha amodau, os o gwbl, i'w gosod.
Gall yr awdurdod lleol ddweud wrthych am y polisïau sydd ganddynt ar waith mewn perthynas ag adnewyddu yn y sector preifat yn eich ardal chi.
Gall cyngor ddarparu mathau eraill o gymorth hefyd; er enghraifft helpu rhywun i symud i le mwy addas os yw'n fodlon y byddai hyn yr un mor fuddiol i'r person â gwella neu addasu'r eiddo cyfredol.
Gall cynghorau lleol hefyd roi cymorth dewisol ar ben y grant cyfleusterau i'r anabl sy'n orfodol.
Rhaid i unrhyw gymorth a roddir gydymffurfio â pholisi cyhoeddedig y cyngor ar adnewyddu tai.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Adran Dai neu Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol.