Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cymorth gyda chostau ar gyfer gwneud gwelliannau i'r cartref

Os ydych yn berchen ar eich cartref neu'n denant preifat, efallai y gallwch hawlio cymorth tuag at gostau atgyweirio, gwella neu addasu eich cartref ac er mwyn eich helpu i aros yn annibynnol. Darperir y cymorth yn ôl disgresiwn eich awdurdod lleol.

Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl

Gallai'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl helpu i dalu am newidiadau angenrheidiol i'ch cartref - megis lifft grisiau, er mwyn ichi allu parhau i fyw'n annibynnol.

Os oes gennych anabledd, efallai y gallech gael grant. Bydd y cyngor yn seilio'r grant hwn ar eich amgylchiadau.

Bydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar lefel y grant y gallech ei gael.

I gael rhagor o wybodaeth am y Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a chymorth arall y gall eich awdurdod lleol ei ddarparu ar gyfer gwaith atgyweirio, gwella ac addasu, ewch i'r adran 'Pobl Anabl'.

Awdurdodau lleol

Mae gan awdurdodau lleol hefyd bwerau disgresiwn eang i ddarparu cymorth tuag at waith atgyweirio, gwella ac addasu.

Gall y cymorth hwn fod ar ffurf grant, benthyciad neu ryddhau rhywfaint o werth eich cartref, neu gymorth mwy ymarferol megis rhoi gwybodaeth a chyngor am waith trwsio.

Asiantaethau Gwella Cartrefi

Os ydych yn berchen ar eich cartref neu'n denant i landlord preifat, gall Asiantaethau Gwelliannau i Gartrefi (a elwir weithiau yn asiantaethau 'Care and Repair' neu 'Staying Put') eich cynghori ynghylch sut i addasu, atgyweirio, gwella a chynnal a chadw eich cartref.

Mae hyn yn cynnwys adolygiad o'r opsiynau tai sydd ar gael i chi, gan gynnwys pa un a oes gennych hawl i gymorth, budd-daliadau lles, materion technegol a gwasanaethau cymorth eraill y gallai fod eu hangen arnoch o bosibl i aros yn eich cartref eich hun.

I gael manylion eich Asiantaeth Gwelliannau i Gartrefi yn lleol, ffoniwch Foundations ar 01457 891 909 ar gyfer Lloegr neu Care and Repair Cymru ar 029 2057 6286 ar gyfer Cymru. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Benthyciadau cost-isel

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau cost-isel ar gyfer perchnogion cartrefi gan yr Ymddiriedolaeth Gwelliannau i'r Cartref, ewch i'w gwefan, neu eu ffonio ar 0800 783 7569 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Allweddumynediad llywodraeth y DU