Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud yn siŵr fod eich cartref yn addas i fyw ynddo

Mae gan eich cyngor ganllawiau i wneud yn siŵr nad oes problemau yn eich cartref a allai'ch peryglu chi neu eich teulu. Yma, cewch wybod beth all y cyngor ei wneud os na fydd eich cartref yn cyrraedd y safonau cytunedig a sut y gall perchnogion eiddo apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau a wneir gan y cyngor.

Archwilio diogelwch yn eich cartref

Yn ôl y gyfraith, eich cyngor sy'n gyfrifol am gyflwr pob tŷ yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys cartrefi ar rent a chartrefi preifat. Defnyddia system sgorio a elwir yn system Marciau Iechyd a Diogelwch Tai (HHSR) i asesu'r peryglon neu'r risgiau posib mewn cartref. Mae'r peryglon yn codi o ddiffygion a allai achosi niwed i bobl a fyddai'n byw yn y cartref.

Y cynghorau lleol sydd â'r cyfrifoldeb i sicrhau fod perchnogion tai a landlordiaid yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw beryglon.

Categorïau o beryglon yn y cartref

Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai yn asesu 29 o gategorïau o beryglon yn y cartref. Er enghraifft, gallai to nad yw wedi'i gynnal yn briodol arwain at nifer o beryglon megis oerni, sŵn a pherygl cynyddol o dân.

Mae'r daflen 'Rheoliadau Mesur Iechyd a Diogelwch' ar y wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol, yn rhoi mwy o fanylion am y gwahanol fathau o beryglon.

Cysylltu â'ch cyngor ynghylch cartrefi gwael eu cyflwr

Os ydych chi'n denant ac yn poeni am gyflwr eich cartref, cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol a gofyn iddyn nhw wneud asesiad. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Sut fydd eich cartref yn cael ei asesu

Mae'n bosib y bydd swyddog iechyd yr amgylcheddol o'r awdurdod lleol yn gwneud asesiad o'ch cartref. Bydd y swyddog yn edrych ar y tebygolrwydd o ddigwyddiad yn codi o ganlyniad i gyflwr yr eiddo a pha fath o ganlyniadau niweidiol a allai ddatblygu o hyn. Er enghraifft, bydd y swyddog yn asesu'r tebygolrwydd o dân yn cynnau'n ddamweiniol a'r camau nesaf petai hyn yn digwydd. O ganlyniad i'r asesiad, bydd y cyngor yn gallu dweud a oes gan yr eiddo beryglon 'Categori 1' (difrifol) neu 'Gategori 2' (eraill).

Yr hyn y gall eich cyngor ei wneud ynghylch peryglon

Os bydd y cyngor yn dod ar draws peryglon Categori 1 mewn cartref, byddant yn gyntaf yn trafod â pherchennog y cartref neu'r landlord ac yn eu hannog i ddelio â'r problemau. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, yna gall y cyngor wneud y canlynol:

  • rhoi hysbysiad gwella i'r landlord i wneud gwelliannau i'r eiddo
  • gwahardd neb rhag defnyddio'r eiddo, neu ran ohono, neu gyfyngu ar nifer y bobl sy'n byw yno drwy ddefnyddio gorchymyn gwahardd
  • cyflwyno hysbysiad ymwybyddiaeth o berygl i dynnu sylw at y broblem
  • cymryd camau brys i gael gwared ar y perygl pan fo risg frys
  • rhoi gorchymyn i ddymchwel yr eiddo pan mai hynny fo'r peth mwyaf ymarferol i'w wneud

Os na fydd perchennog cartref yn bodloni gofynion hysbysiad cyfreithiol ('statudol') a roddir gan gyngor, gallent wynebu dirwy hyd at £5,000.

Sut i apelio yn erbyn asesiad

Os ydych yn berchen ar eiddo ac yn teimlo fod yr asesiad yn anghywir, mynnwch siarad gyda swyddog iechyd yr amgylchedd. Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch herio penderfyniad y cyngor drwy'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Mae'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn sefydliad anibynnol sy'n datrys anghydfodau'n ymwneud ag eiddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU