Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Defnyddio sgaffaldiau'n ddiogel

Cael gwybod am logi a thrwyddedu eich sgaffaldiau, yn ogystal ag agweddau diogelwch a rheoliadau adeiladu cysylltiedig.

Llogi sgaffaldiau

I logi sgaffaldiau rhaid i chi gysylltu â chwmni llogi sgaffaldiau. Mae'n bosib bod gan eich cyngor lleol restr o gwmnïau llogi cymeradwy, dylech gysylltu â nhw i gael gwybod.

Dylech gyflogi adeiladwr cymwys neu gwmni sgaffaldiau i wneud gwaith codi sgaffaldiau ac adeiladwr cymwys i i wneud gwaith adeiladau cysylltiedig.

Trwyddedau sgaffaldio

Cyfrifoldeb yr adeiladwr neu'r cwmni llogi sgaffaldiau yw cael trwydded ar gyfer unrhyw sgaffaldiau a godir ar y ffordd fawr (gan gynnwys ar y pafin). Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb yw sicrhau bod y ddogfen gyfreithiol hon ganddyn nhw ac nad yw'n dod i ben cyn i'r gwaith adeiladu orffen.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i wneud cais am fwy o wybodaeth am y drwydded hon.

Diogelwch

Wrth gyflogi pobl gymwys i godi'ch sgaffaldiau a gwneud gwaith adeiladu, dylai hynny fod o helpu i sicrhau bod eich safle adeiladu'n ddiogel. Fodd bynnag, dylech drafod unrhyw faterion gyda'r unigolyn neu'r cwmni y byddwch yn ei gyflogi. Yn benodol, cofiwch y pwyntiau canlynol:

  • dylid codi sgaffaldiau ar sylfaen gadarn wastad
  • os oes perygl i'r cyhoedd, trefnwch wneud y gwaith sgaffaldio ar adeg ddistaw neu gofynnwch i'ch cyngor lleol gau'r ffordd
  • mae'n beryglus codi sgaffaldiau'n rhy agos at wifrau trydan
  • dylai unrhyw fyrddau a ddefnyddir gydymffurfio â Safon Brydeinig BS2482
  • dylid osgoi gwastraff yn disgyn ar bobl sy'n cerdded heibio drwy gadw byrddau sgaffaldiau'n glir
  • dylai'r ysgolion fod yn gryf, wedi'u gosod yn ddiogel ac mewn cyflwr da - gan amlaf nid yw ysgolion domestig yn addas
  • ni ddylid cario llwyth trwm neu swmpus i fyny ac i lawr ysgol
  • dylid edrych yn ofalus ar strwythur sgaffaldiau bob wythnos, a'u harchwilio ar ôl gwneud unrhyw newid, neu os oes unrhyw ddifrod neu os bydd y tywydd yn eithafol
  • ni ddylid byth tynnu unrhyw gydrannau

Rheoliadau adeiladu

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i holi am unrhyw reoliadau adeiladu y dylech fod yn eu hystyried, megis y rheoliad 'deunyddiau a gwaith derbyniol' neu'r rheoliad 'mynediad at adeilad a'i ddefnydd'.

Hefyd, cofiwch fod gennych unrhyw hawl cynllunio angenrheidiol ar gyfer eich prosiect adeiladu rydych yn codi sgaffaldiau ar ei gyfer. Gall eich cyngor lleol eich cynghori am hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU