Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor am ddefnyddio gwasanaethau dymchwel

Os ydych chi'n bwriadu dymchwel adeilad neu ran ohono, mae'n bosib y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio gan eich cyngor lleol. Mae'n syniad da hefyd rhoi gwybod i unrhyw gymdogion a all gael eu heffeithio.

Cael caniatâd cynllunio

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad neu ran o adeilad. Bydd syrfewyr yn ymweld â'ch safle i weld a fydd y dymchwel yn cydymffurfio â Deddf Adeiladu 1984. Mae'n bosib hefyd y bydd angen cymeradwyaeth arnoch dan nifer o Ddeddfau Cynllunio - bydd eich cyngor lleol yn eich cynghori ynghylch hyn, ond yn gyffredinol, dyma ychydig o ganllawiau.

Canllawiau

Does dim angen caniatâd i ddymchwel tai gwydr, ystafelloedd haul, garejys â waliau parod a siediau. Fel arfer, os yw'r adeilad sydd i'w ddymchwel yn llai na 1750 troedfedd giwbig o faint (49.56 metr ciwbig) yna, does dim rhaid cael caniatâd i'w ddymchwel. Fodd bynnag, os yw'r adeilad sydd i'w ddymchwel mewn ardal gadwraeth, bydd rhaid cael caniatâd dan y ddeddfwriaeth gynllunio.

Yn ogystal â dweud wrth eich cyngor lleol, dylech hysbysu pob darparwr gwasanaeth, megis cyflenwyr nwy, trydan a dŵr, ac unrhyw un sy'n byw mewn adeilad cyffiniol.

Mae'n bosib y bydd eich Awdurdod Lleol yn codi arnoch am unrhyw ddifrod a wneir i bafinau, ymyl pafinau neu fin y ffordd.

Cysylltu â'ch cymdogion

Gall gwaith adeiladu neu ddymchwel beri problemau i'ch cymdogion. Gallwch leihau neu osgoi niwsans i'ch cymdogion drwy:

  • roi chwe wythnos o rybudd i'r cyngor am unrhyw waith dymchwel - mae'n bosib y bydd y cyngor yn gosod rhai amodau ynghylch sut y dylid gwneud y gwaith
  • anfon llythyr at y cymdogion cyn i'r gwaith ddechrau'n dweud wrthyn nhw am y gwaith a beth i'w ddisgwyl. Rhowch enw a rhif cysylltu i'ch cymdogion a sicrhau eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd
  • delio ag unrhyw gwynion sy'n cael eu gwneud am eich safle dymchwel ar unwaith

Ceisio sicrhau cyn lleied o lwch, sŵn a mwg ag y bo modd

Llwch

Cadwch y llwch i lawr drwy daenu dŵr drosto ble bynnag a pha bryd bynnag y bo modd.

Sŵn

Does dim gofyniad cyfreithiol i safleoedd adeiladu weithio ar oriau penodol. Fodd bynnag, mae gweithio y tu allan i'r oriau 7.00am a 5.00pm yn debygol o arwain at gwynion. Gallai gweithio ar y Sul ac ar Wyliau Banc gael effaith debyg. Mae'n beth doeth hefyd i ddechrau'n hwyrach ar ddydd Sadwrn a gweithio hanner diwrnod yn unig.

Mwg

Ni chaniateir llosgi ar safleoedd adeiladu oni bai fod gennych Dystysgrif Eithrio gan Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n gadael i chi losgi coed glân, papur a cherdyn. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r dystysgrif hon, mae'n bosib bod Deddf Diogelu'r Amgylchedd, 1990 a Deddf Awyr Iach, 1993 yn dal i fod yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth am y meysydd hyn, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Cael gwybod am waith dymchwel sy'n niwsans yn eich ardal

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU