Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llogi sgip a'i ddefnyddio'n ddiogel

Pan fyddwch yn llogi sgip, bydd angen i chi gael hawlen sgip cyn i chi ei osod ar briffordd gyhoeddus (sy’n cynnwys palmentydd, ffyrdd a phriffyrdd). Mae angen i chi sicrhau fod yr hawlen yn gyfredol ac yn briodol ar gyfer y math o wastraff y mae arnoch eisiau cael ei wared.

Yr hyn y mae angen hawlen ar ei gyfer

Bydd arnoch angen hawlen ar gyfer:

  • bagiau hipo a bagiau sgip eraill
  • deunyddiau adeiladu
  • sgipiau

Gwneud cais am hawlen sgip

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn gadael i’r cwmni llogi sgipiau wneud cais am yr hawlen, ond mae rhai cynghorau yn gofyn i’r sawl sy'n llogi'r sgip i gael yr hawlen. Bydd eich cyngor yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hawlen a sut mae cael un.

Yn gyffredinol, mae hawlenni sgip yn ddilys am unrhyw gyfnod rhwng un diwrnod a phedair wythnos, ond gallant gael eu hadnewyddu. Mae’n rhaid i’r hawlen gael ei chyhoeddi cyn i’r sgip gael ei osod ar briffordd gyhoeddus.

Os nad oes gennych chi hawlen, gall y sgip gael ei dynnu ymaith a'i atafaelu (a gall hyn gael ei wneud heb rybudd weithiau), a fyddai o bosib yn peri i’r gwaith gael ei oedi.

Dylech holi eich cyngor lle y cewch osod eich sgip, oherwydd gall amrywio o un cyngor i’r llall. Os gosodir eich sgip i gyd ar dir preifat, mae'n debyg na fydd angen hawlen sgip arnoch.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am hawlenni neu drwyddedau sgip gan eich cyngor lleol.

Cludwyr gwastraff cymeradwy

Chi fydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y sawl sy’n cael gwared ar eich gwastraff yn gludwr gwastraff cymeradwy.

Felly, bydd angen i chi sicrhau bod gan y cwmni llogi sgip drwydded cludo gwastraff ddilys a bod y cwmni yn gludwr gwastraff cymeradwy. Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i bob cwmni sy’n cludo a chael gwared ar wastraff gael trwydded cludo gwastraff.

Chwilio am gludwr gwastraff cymeradwy

Gallwch chwilio am gludwr gwastraff cymeradwy ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gosod y sgip a sicrhau bod eich sgip yn ddiogel

Mae’n bwysig gosod sgipiau ar y ffordd yn hytrach nag ar y palmant, oni bai bod eich hawlen yn caniatáu i’r sgip gael ei osod ar y palmant. Peidiwch â gosod sgipiau ar y briffordd mewn mannau lle gallant fod yn niwsans neu'n beryglus i ddefnyddwyr y ffordd.

Mesurau diogelwch

Dyma'r camau diogelwch i'w dilyn:

  • defnyddiwch gonau a goleuadau fflachio oren o gwmpas y sgip pan fydd hi'n dywyll ac/neu yn anodd gweld oherwydd niwl neu darth ac amgylchiadau eraill
  • rhowch farciau adlewyrchol ar ddau ben y sgip
  • osgowch roi'r sgip ar y palmant, dros dyllau draeniau, dros ddraeniau, gratiau neu unrhyw fannau eraill y gall fod angen i weithwyr y prif wasanaethau fynd atynt

Gwnewch yn siŵr:

  • nad yw'r cynnwys yn gwthio allan o ochrau'r sgip: mae hyn yn beryglus i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr
  • nad yw'r sgip yn rhy llawn a bod ei gynnwys yn ddiogel – rhowch rwyd drosto neu wlychu'r deunydd gwastraff fel nad ydynt yn chwythu allan
  • nad yw'r sgip yn cynnwys deunyddiau sy'n debygol o achosi tân neu ffrwydrad ac na fydd yn rhyddhau mygdarth gwenwynol nac yn creu perygl i iechyd nac i'r amgylchedd

Sgipiau amgaeedig

Ystyriwch logi sgip amgaeedig. Gellir cloi sgip amgaeedig er mwyn sicrhau nad oes neb yn mynd i mewn iddo heb ganiatâd. Sgipiau amgaeedig hefyd yw'r math mwyaf diogel o sgip gan eu bod yn atal y cynnwys rhag disgyn allan neu fynd dros yr ochr ac maen nhw’n atal llwch rhag chwythu i'r awyr wrth i bethau gael eu llwytho i'r sgip.

Sicrhewch fod gennych chi’r caniatâd cynllunio angenrheidiol a’ch bod chi’n dilyn rheoliadau adeiladu ar gyfer eich prosiect. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran caniatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU