Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli llygredd - asbestos

Mae llawer o bobl yn poeni am asbestos, ond fel arfer dim ond os byddwch yn ymyrryd â'r asbestos y bydd problemau'n cael eu creu. Fodd bynnag, dylid cymryd gofal i rwystro'r ffibrau rhag cael eu rhyddhau, gan y gallant achosi niwed difrifol i'ch iechyd.

Beth yw asbestos?

Mwyn sy'n digwydd yn naturiol yw asbestos sydd wedi'i ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu i'w gwneud yn fwy anhyblyg ac i allu gwrthsefyll tân. Mae wedi cael ei ddefnyddio hefyd mewn cynnyrch ar gyfer y cartref megis byrddau smwddio a menig popty.

Defnyddiwyd llawer o asbestos fel deunydd adeiladu ym Mhrydain Fawr o'r 1950au i ganol y 1980au.

Mae'r mannau yn eich cartref lle gallech ganfod asbestos yn cynnwys:

  • bargodion, cwterydd a phibellau dur glaw;
  • blancedi tân;
  • toeau garejis a siediau;
  • leinin ar gyfer waliau, nenfydau a drysau;
  • paneli inswleiddio mewn rhai gwresogyddion storio;
  • paneli baddon;
  • ffliwiau gwres canolog;
  • deunydd pacio asbestos llac rhwng lloriau ac mewn parwydydd;
  • teils llawr.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu delio gyda'r meintiau isel o asbestos sy'n bresennol yn yr awyr heb ddioddef unrhyw sgîl effeithiau. Mae llwch a ffibrau asbestos yn gallu bod yn beryglus iawn os cânt eu mewnanadlu mewn crynodiadau uwch dros gyfnod o amser, pan allant achosi clefydau difrifol ar yr ysgyfaint gan gynnwys canser. Yn aml, nid yw symptomau'r clefydau hyn yn ymddangos tan ryw 20 - 30 mlynedd ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos.

Beth i'w wneud os credwch fod gennych asbestos yn eich cartref

Mae'n anodd iawn canfod asbestos, ond os ydych chi'n amau eich bod yn byw gydag asbestos:

  • peidiwch â mynd i banig a gadewch lonydd i'r asbestos. Mae'n ddiogel ond i chi beidio ag ymyrryd ag ef neu ei ddifrodi
  • peidiwch byth â sandio, drilio na llifio deunyddiau asbestos
  • ceisiwch gyngor proffesiynol cyn meddwl cael gwared ar ddeunyddiau asbestos
  • peidiwch â cheisio tynnu lagin, haenau wedi'u chwistrellu neu fwrdd inswleiddio asbestos eich hun. Dim ond contractwr trwyddedig all gael gwared â'r deunyddiau hyn yn ddiogel
  • weithiau, bydd angen cymryd sampl, er enghraifft er mwyn canfod y math o asbestos. Dim ond person sydd wedi'i hyfforddi'n briodol i gymryd y sampl neu wneud arolwg o'r adeiladau y dylech ei gefnogi

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am archwiliadau asbestos.

Cael gwared ar asbestos o'ch cartref

Os byddwch yn dewis cael gwared ar ddeunyddiau asbestos na chaniateir trwydded ar eu cyfer eich hun, byddai'n fuddiol i chi gymryd y rhagofalon canlynol:

  • gwisgo mwgwd llwch sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer asbestos;
  • gwisgo oferôl taflu-ffwrdd;
  • cadw pobl eraill o'r man gweithio;
  • dylid gwlychu'r deunydd yn dda gyda dur sy'n cynnwys ychydig o hylif golchi llestri; gan sicrhau i ddechrau na fydd cyswllt â thrydan;
  • dylid cael gwared ar gydrannau neu lenni cyfan; peidiwch â'u torri'n ddarnau
  • gosod unrhyw eitemau bach neu rydd mewn bagiau plastig cryf wedi'u labelu a'u selio;
  • glanhau'r holl lwch gyda chlwt llaith a'i selio wedyn mewn bag plastig tra'i fod yn llaith;
  • ni ddylid defnyddio sugnydd llwch domestig gan y gallai'r llwch basio trwy'r hidlydd.

Os ydych wedi tynnu asbestos o'ch cartref eich hun, bydd angen ei waredu ar wahân i'ch gwastraff domestig arferol. Efallai y gallwch drefnu i rywun ei gasglu neu efallai fod cyfleusterau arbennig yn eich ardal y gallwch eu defnyddio i gael gwared ar wastraff peryglus. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o fanylion.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am gael gwared ar asbestos.

Beth i'w wneud os oes gennych bryderon am asbestos

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn darparu gwybodaeth a chyngor cynhwysfawr am y defnydd o asbestos a chael gwared arno. Gall aelodau'r cyhoedd gysylltu â llinell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 i gael cyngor cyffredinol am asbestos.

Gall eich cyngor gynnig cyngor i drigolion a busnesau ar beth i'w wneud os tybir bod asbestos yn bresennol mewn adeilad. Gall arolygwyr ymweld â'r adeiladau i gadarnhau bod asbestos yn bresennol a rhoi cyngor am y drefn ar gyfer ei dynnu a'i waredu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU