Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Adeiladu eich cartref eich hun

Os mai dyma'r tro cyntaf i chi adeiladu tŷ, efallai bod y syniad o wireddu'ch breuddwyd yn peri braw i chi.

Bwrw iddi

Gall adeiladu eich cartref eich hun roi boddhad i chi ac achosi straen hefyd. Felly cynlluniwch ymhell ymlaen llaw ar ddechrau'ch prosiect. Mae'r cynlluniau hyn yn hanfodol gan fod y rhan fwyaf o brosiectau hunan-adeiladu yn aml yn newid yn ystod oes y prosiect, er enghraifft, efallai y byddwch chi'n penderfynu symud ffenestr neu addasu'r lle byw. Yn ddelfrydol, dylid newid cyn lleied â phosib gan geisio sicrhau nad yw'n effeithio'n ormodol ar eich cyllideb. Fodd bynnag, bydd cynllunio brysiog neu amwys yn arwain at gostau uwch ac yn symud y dyddiadau cwblhau ymhellach yn ôl.

Cofiwch y bydd rhaid i chi gyflwyno cais rheoliadau cynllunio ac adeiladu, a gallwch ei gyflwyno i'ch cyngor lleol. Gallech hefyd gael caniatâd rheoliadau adeiladu gan gwmni preifat.

Cynllunio ac adeiladu eich tŷ

Gall twrneiod lleol roi enwau a chyfeiriadau penseiri a chontractwyr adeiladu. Mae enwau gwneuthurwyr a chyflenwyr 'cartrefi parod' ar gael yn Yellow Pages hefyd.

Gall rhai contractwyr adeiladu a chyflenwyr cartrefi parod roi dewis o gynlluniau tai a allai osgoi neu leihau'r angen i gyflogi pensaer, os yw'r cynlluniau'n addas.

Fodd bynnag, gall pensaer profiadol leihau cryn dipyn ar yr amser a'r ymdrech y byddech fel arall yn ei dreulio'n goresgyn y rhwystrau sy'n gysylltiedig ag adeiladu tŷ newydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddod o hyd i bensaer yn y daflen sy'n dwyn yr enw, 'Finding an architect', a gyhoeddwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Pethau i'w hystyried

Cyllideb

Cynlluniwch eich cyllideb yn ofalus dros ben. Edrychwch i weld faint y gallwch chi fforddio'i dalu mewn gwirionedd - yn enwedig os ydych chi'n bwriadu benthyca arian - a chaniatewch ar gyfer y canlynol:

  • cynnydd yn y cyfraddau llog,
  • faint, yn eich tyb chi, y mae'r datblygiad yn mynd i'w gostio i chi
  • caniatewch o leiaf 15 y cant yn ychwanegol ar gyfer cynlluniau wrth gefn o'r dechrau un

Hefyd cofiwch os byddwch chi'n defnyddio'r tŷ fel sicrwydd ar gyfer y benthyciad, bydd y swm y gallwch ei fenthyca yn seiliedig ar amcangyfrif y benthyciwr o beth fydd y gwerth terfynol, ond chewch chi ddim mo'r swm llawn nes y caiff ei gwblhau

Cynllunio prosiectau

Lluniwch gynllun prosiect, gan nodi'r hyn y mae angen ei wneud, erbyn pryd a chan bwy - o'r camau cynharaf o ddod o hyd i safle i ddodrefnu a symud i'r tŷ gorffenedig - mae'n siŵr o gymryd fwy o amser nag y tybiwch.

Hefyd, meddyliwch am y canlynol:

  • a ydych chi'n mynd i werthu'ch cartref presennol i helpu i dalu am y datblygiad
  • lle byddwch chi'n byw wrth i'r adeiladu fynd yn ei flaen
  • faint mae'n mynd i'w gostio

Eich sgiliau

Meddyliwch o ddifrif a yw'r sgiliau a'r profiad gennych i wneud rhannau o'r gwaith adeiladu eich hun, ac a allwch chi ddibynnu ar ffrindiau neu berthnasau o ran eu sgiliau neu eu cymorth ar yr adeg y byddwch chi am i'r tasgau gael eu gwneud - neu dim ond i helpu gyda'r gwaith labro. Bydd yn rhaid i chi, fwy na thebyg, dalu contractwyr arbenigol i wneud rhywfaint o'r gwaith felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi ar gyfer hyn.

Cofiwch - oni bai bod yr holl sgiliau proffesiynol ac angenrheidiol gennych, cyflogwch bensaer cymwys a phrofiadol i gynllunio'ch tŷ, a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cyfarwyddyd clir iddyn nhw o'r hyn rydych chi ei eisiau. Oni bai bod gan eich pensaer gymhwyster a phrofiad ym maes cynllunio hefyd, dylech hefyd ystyried cyflogi ymgynghorydd cynllunio.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU