Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych gynlluniau i adeiladu eich cartref eich hun, un o'r pethau cyntaf i'w wneud ar ôl cynllunio'ch arian a'ch cyllideb, yw canfod a phrynu plot adeiladu. Bydd angen i chi wneud arolwg o'r plot a sicrhau ei fod yn bodloni'ch gofynion.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i blot o dir:
Gwnewch gymaint o ymchwil ag y gallwch, er enghraifft, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn darparu adroddiadau ar y farchnad eiddo ddwywaith y flwyddyn a cheir adran ar dir adeiladu preswyl sy'n darparu gwybodaeth megis prisiau a pholisi cynllunio ar draws y DU. Mae'r Gofrestr Tir Ar-lein yn eich galluogi chi i chwilio'r gofrestr a chwilio am wybodaeth am gynlluniau teitl eiddo sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru a Lloegr y gellir eu pennu gyda chyfeiriad.
Dyma rai awgrymiadau gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) ar gyfer asesu plot o dir.
Cyn i chi brynu plot o dir, gwnewch yn siŵr fod caniatâd cynllunio amlinellol dilys ar ei gyfer. Ond cofiwch - nid yw caniatâd cynllunio'n golygu y bydd adeiladu'n bosibl. Gall cyfamodau cyfyngu fod yn rhwym wrth dir gyda chaniatâd a all gyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda'r tir. Os yw'r safle'n gorwedd uwchben gwaith mwyngloddio neu hen dwneli, efallai y bydd yr adeiladu'n ddrud.
Trefnwch werthusiad safle o'r tir. Bydd hyn yn asesu pa mor addas yw'r tir i adeiladu arno, a bydd yn cynnwys tystiolaeth o broblemau posibl y defnydd blaenorol o'r tir, megis hen sylfeini, ffynhonnau, gweithrediadau tipio, ac yn y blaen.
Ystyriwch brynu plot o dir sydd eisoes yn cynnwys adeilad gwael ac wedyn adeiladu rhywbeth newydd. Er y gall y gost gychwynnol fod yn uwch na chost plot gwag, efallai y gallwch fanteisio ar y gwasanaethau sydd eisoes yno megis ffyrdd, trydan a nwy. Efallai y bydd system ddraenio a system cyflenwad dŵr yno'n barod, a fydd yn arbed symiau sylweddol o arian.
Cyn ichi ddechrau gwario unrhyw arian na chyflogi contractwyr, trowch eich hun yn arbenigwr. Ceisiwch gael gafael ar gymaint o wybodaeth ag y gallwch ar bob agwedd ar hunan-adeiladu trwy wneud gwaith ymchwil. Y mwyaf o wybodaeth sydd gennych, y lleiaf tebygol y byddwch o wneud camgymeriadau.