Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adeiladu cartref parod

Mae cartref parod wedi'i wneud o ddeunyddiau parod a gall contractwr adeiladu ei osod.

Beth yw cartref parod?

Ar y cyfan, mae cartref parod yn rhatach ac yn cymryd llai o amser na chynllunio ac adeiladu cartref o'r newydd. Arbedir arian ar y canlynol:

  • cost cynhyrchu'r deunyddiau
  • costau cludo deunyddiau - cludir eich cartref mewn un llwyth
  • gwasanaethau pensaer - does dim rhaid i chi gael cynlluniau pensaernïol manwl gan fod y cynllun wedi'i wneud ar eich cyfer

Adeiladu'ch cartref parod

Byddwch yn dal i orfod mynd trwy'r drefn rheoliadau cynllunio ac adeiladu arferol a chyflogi adeiladwyr i godi'ch cartref. Efallai y bydd gwneuthurwr eich cartref parod yn darparu gwasanaeth hefyd lle gallan nhw drefnu'r gwaith gosod.

Gall y gwaith o godi'r cartref parod eich hun gymryd llawer o amser a bydd angen y sgiliau arnoch ar gyfer y gwaith adeiladu. Os oes gennych chi'r sgiliau adeiladu ond nad ydych chi am wneud y gwaith i gyd eich hun, gallwch ddefnyddio isgontractwyr. Gallan nhw wneud y gwaith mwy penodol a thechnegol megis gwaith weirio trydanol a phlymio.

Darllenwch y llawlyfr gan y gwneuthurwr bob amser a gofynnwch am help proffesiynol os nad ydych chi'n siur o unrhyw agwedd ar y gwaith adeiladu. Efallai y bydd rhai cwmnïau, sy'n darparu cartrefi parod, yn cynnal gweithdai i gwsmeriaid, i'w cynghori am y broses adeiladu.

Cofiwch - os na fyddwch chi'n dilyn cyngor y gwneuthurwr ac yn torri corneli, gallech roi eich hunan mewn perygl ynghyd â dileu contract y warant ar eich cartref.

Penderfynu pa gartref parod i'w brynu

Allweddumynediad llywodraeth y DU