Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Trwy adeiladu eich cartref eich hun, rydych yn cael cartref a all fodloni eich holl anghenion ac mae'n bosibl y bydd yn costio llai na phrynu tŷ gan ddatblygwr. Mae'n bosibl y bydd cael gafael ar arian i ariannu'r math hwn o waith yn broblem fawr ond fe all rhai benthycwyr morgeisi eich helpu.
Mae mwy o risgiau'n gysylltiedig ag adeiladu eich cartref eich hun, ond gall morgeisi hunan-adeiladu helpu gyda chymhlethdodau ariannol rheoli prosiect o'r fath. Y prif wahaniaeth rhwng morgais hunan-adeiladu a morgais prynu tŷ yw bod yr arian gyda morgais hunan-adeiladu'n cael ei ryddhau fesul cam wrth i'r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen yn hytrach nag fel un swm.
Mae dau fath o forgais y gellid eu defnyddio. Y dewis cyntaf yw morgais traddodiadol seiliedig ar ôl-daliadau, gyda'r arian yn cael ei ryddhau mewn taliadau fesul cam wrth i bob cam gael ei gwblhau. Yr ail ddewis yw cynllun talu ymlaen llaw lle rhyddheir yr arian cyn pob cam yn yr adeiladu sy'n cael gwared â'r angen am fenthyciadau pontio. Gall y camau fod yn osodedig neu'n hyblyg ond ceir pump fel arfer ac mae'r rhain yn dibynnu ar y math o waith adeiladu. Ni fydd llawer o gwmnïau morgais yn cynnig taliad ymlaen llaw, oherwydd y risg sy'n gysylltiedig.
Os ydych am aros yn eich cartref presennol tra bo'r un newydd yn cael ei adeiladu, bydd angen i chi ganfod beth yw agwedd y benthyciwr at unrhyw forgais sy'n weddill ar eich eiddo presennol. Hefyd, bydd angen sicrhau bod gennych ddigon o incwm ar gyfer talu'r ddau forgais.
Mae oddeutu 20,000 o bobl yn adeiladu'u cartrefi'u hunain yn y DU bob blwyddyn ac mae'r nifer yn codi. Mae dros 30 o fanciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig morgeisi i hunan-adeiladwyr. Efallai y gallwch dderbyn rhwng 25% ac 80% o werth y plot adeiladu a rhwng 65% a 95% o gostau'r adeilad.
Bydd angen i chi gynllunio'ch cyllideb yn ofalus er mwyn cael gwybod beth fydd cyfanswm cost y prosiect. Bydd y benthyciwr morgais yn gofyn am hyn a bydd angen ichi sicrhau eich bod wedi cynnwys eich holl gostau gan gynnwys costau tir, ffioedd proffesiynol, gwaith adeiladu, deunyddiau ayb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth y gallwch ei wneud eich hun a chyflogwch bensaer, syrfëwr, ymgynghorydd cynllunio a rheolwr prosiect os oes angen.
Mae'n debyg eich bod am fenthyca swm mawr y bydd rhaid ichi ei dalu'n ôl beth bynnag sy'n digwydd i'r adeilad. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflogi adeiladwr da er mwyn lleihau'r risg.
Mae cael yr yswiriant a'r warant iawn yn hanfodol hefyd er mwyn diogelu'ch hun rhag rhywfaint o'r risg petai pethau'n mynd o chwith. Bydd rhaid i chi gael arian ar gyfer eich costau cyfreithiol hefyd. Mae'n hanfodol cynnwys swm ar gyfer argyfwng - ar gyfer costau annisgwyl a allai godi.