Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y diwydiant adeiladu

Os ydych yn mwynhau bod yn rhan o dîm, neu'n hoffi gweithio gyda pheiriannau, efallai yr hoffech ystyried gweithio ym maes adeiladu. Dysgwch am brofiadau pobl, ble i gael cyngor gyrfaoedd a sut i gael help i ddod o hyd i swydd.

A yw gweithio ym maes adeiladu yn addas i chi?

Os ydych yn benderfynol, ac yn meddu ar yr egni a'r uchelgais i ddysgu, gweithio'n galed ac ennill arian da, gallai'r diwydiant adeiladu fod yn addas i chi. Bydd angen adeiladu a thrwsio swyddfeydd, tai, siopau, ffyrdd a phontydd bob amser. Mae dros 700 o wahanol fathau o swyddi yn y diwydiant adeiladu, i bob math o bobl sydd dros 16 oed.

Dyma rywfaint o sylwadau cadarnhaol gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd:

David Raynor, Clerc Gwaith

"Fy ngwaith i yw sicrhau y gwneir gwaith adeiladu'n iawn. Rwy'n cael teithio i bob cwr o'r wlad. Mae'n ffordd wych i gwrdd â llawer o bobl ddiddorol."

Imran Khan, Amcangyfrifwr

"Rwy'n prisio gwaith ac yn paratoi tendrau. Mae fy ngwaith yn cynnwys llawer o gysylltu â chontractwyr dros y ffôn. Mae'n deimlad gwych pan fyddwn yn ennill y contract."

Adeiladu: y ffeithiau

Yn aml mae gan bobl syniadau pendant am swyddi gwahanol. Ond mae'n bwysig cael y ffeithiau bob amser. Dyma rywfaint o gamsyniadau cyffredin, ynghyd â'r ffeithiau go iawn:

  • "Nid oes swyddi gwag ar hyn o bryd" - mae amrywiaeth o swyddi ar gael o hyd yn y diwydiant adeiladu mewn nifer o wahanol rolau
  • "Mae'r gwaith yn fudr ac yn beryglus" - mae llawer o swyddi yn ymarferol ac mae llawer i ddewis ohonynt, mae cwmnïau da bob amser yn darparu hyfforddiant i gadw cyflogeion yn ddiogel ac yn iach
  • "Mae swyddi adeiladu ond ar gyfer dynion" - mae bron i 200,000 o ferched yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, mae llawer o swyddi da ar gael
  • "Rhaid i chi basio arholiadau i gael swydd" - gallech hyfforddi yn y swydd neu fynd i'r coleg, dewiswch chi!

Manteision gweithio yn y diwydiant adeiladu

Mae llawer o fanteision o weithio yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys:

  • cyfleoedd ardderchog - mae amrywiaeth o swyddi ar gael o hyd yn y diwydiant adeiladu
  • cyflog a chyfleoedd da - os byddwch yn gweithio'n galed gallwch symud ymlaen yn eich gyrfa a dechrau eich busnes eich hun hyd yn oed

Enghreifftiau o brofiadau pobl

Julie Bond, Prentis Briciwr

"Fel prentis rwy'n hyfforddi yn y swydd. Rwy'n adeiladu ac yn atgyweirio waliau a chyrn simneiau ar gyfer tai, siopau a swyddfeydd. Mae'n wych gwylio eich gwaith yn tyfu o flaen eich llygaid. Rwy'n cael £16,000 y flwyddyn ar hyn o bryd a gallwn ennill £30,000 pan fyddaf wedi cymhwyso."

Andy Summers, Rheolwr Safle

"Dechreuais fel labrwr. Bellach rwy'n gofalu am y safle cyfan. Mae angen i mi fod yn dda wrth arwain timau, cynllunio a threfnu. Rwy'n gwneud yn siŵr fod pawb ar fy safle'n hapus, yn ddiogel ac yn gweithio'n galed. Rwy'n cael £28,000, sy'n gyflog da, ond gallaf symud ymlaen i safleoedd mwy ac ennill hyd yn oed mwy."

Cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rolau penodol yn y diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio'r ddolen cyngor gyrfaoedd a phroffiliau swyddi isod:

Dewch o hyd i swydd yn y sector hwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu drwy fynd i'r gwefannau canlynol

I chwilio am swyddi sydd ar gael yn y sector hwn, defnyddiwch y ddolen 'Dechrau chwiliad swyddi a sgiliau' isod neu ffoniwch 0845 6067 890 i siarad ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yn gallu rhoi gwybod pa help a chymorth sydd ar gael i'ch helpu i mewn i waith.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU