Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gofal i Ddysgu: ydych chi'n gymwys?

Os ydych dan 20 oed, gallai Gofal i Ddysgu gyfrannu hyd at £160 ar gyfer pob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) tuag at eich costau gofal plant a'ch costau teithio tra'r ydych chi'n dysgu. Gweld a ydych chi’n gymwys.

Ydych chi'n gymwys i gael Gofal i Ddysgu?

Gallwch fel arfer hawlio arian Gofal i Ddysgu os ydych chi'n byw yn Lloegr ac yn gallu ateb y cwestiynau canlynol gydag “ydy” neu “ydw”.

Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch y llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr.

Cwestiwn un: ydych chi dan 20 mlwydd oed?

I gael Gofal i Ddysgu, rhaid i chi fod dan 20 oed ar y diwrnod y mae eich cwrs neu'ch rhaglen ddysgu'n dechrau.

Cyn belled â'ch bod yn dechrau'r cwrs cyn i chi fod yn 20 oed, bydd Gofal i Ddysgu yn cyfrannu tuag at eich costau gofal plant nes i'ch cwrs ddod i ben.

Mae'r cymorth sydd ar gael gyda chostau gofal plant yn wahanol os ydych yn 20 oed neu hŷn.

Cwestiwn dau: ydych chi'n gofalu am eich plentyn neu'ch plant eich hun?

Gallwch, fel mam neu dad y plentyn, hawlio Gofal i Ddysgu:

  • cyn belled nad yw'r rhiant arall yn gallu darparu gofal plant (oherwydd eu bod yn gweithio, er enghraifft)
  • cyn belled nad yw'r rhiant arall yn hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith

Os oes gennych fwy nag un plentyn, gallwch gael cymorth ar gyfer pob un ohonynt.

Cwestiwn tri: a ydych yn bodloni'r amodau preswylio?

I gael Gofal i Ddysgu o fis Medi 2009 ymlaen, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn byw yn Lloegr, ac
  • fod naill ai'n ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd yn un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop (AEE)

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, mae'n bosib y byddwch dal yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu. I gael cyngor, ffoniwch y Gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989 - neu darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd a ddaw gyda'r ffurflen gais.

"Er i mi gael plentyn yn 17 oed, dwi dal yn gallu cael yr yrfa yr ydw i wedi bod ei heisiau erioed"

Laura, 18

Cwestiwn pedwar: ydy'ch cwrs dysgu'n gymwys?

Dim ond ar gyfer cyrsiau dysgu sy'n cael rhywfaint o arian cyhoeddus y mae Gofal i Ddysgu ar gael.

Mae eich dewisiadau yn cynnwys:

  • cyrsiau mewn ysgolion, mewn chweched dosbarth, mewn colegau chweched dosbarth, mewn colegau eraill a chan ddarparwyr dysgu eraill
  • rhaglenni Mynediad at Waith (e2e)
  • Prentisiaethau (statws anghyflogedig)
  • cyrsiau yn eich cymuned - er enghraifft, mewn Canolfannau Plant

Ni ellir cael nawdd Gofal i Ddysgu ar gyfer cyrsiau prifysgol a chyrsiau addysg uwch. I gael gwybodaeth am gymorth gyda chostau gofal plant mewn addysg uwch amser llawn, dilynwch y ddolen isod.

Cwestiwn pump: ydy'ch darparwr gofal plant wedi ei gofrestru?

I gael Gofal i Ddysgu, mae'n rhaid i chi ddefnyddio darparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Ofsted Mae'r math hwn o gofrestriad yn golygu bod yn rhaid i'r gofal plant fodloni safonau diogelwch ac ansawdd penodol.

Gall eich opsiynau gynnwys gwarchodwr plant, meithrinfa ddydd, cylch chwarae cyn-ysgol neu glwb y tu allan i'r ysgol.

Os ydych am gael perthynas i ofalu am eich plentyn, byddwch ond yn gallu derbyn Gofal i Ddysgu os mae’r perthynas wedi’i gofrestru gydag Ofsted ac yn darparu gofal dros blant eraill.

Am beth mae Gofal i Ddysgu'n talu

"Newidiodd Gofal i Ddysgu fy mywyd yn llwyr"

Bernice,18

Bydd Gofal i Ddysgu yn talu hyd at £160 ar gyfer pob plentyn bob wythnos (£175 yn Llundain) er mwyn talu am y pethau hyn:

  • gofal plant tra'ch bod chi'n dysgu, ar leoliad sy'n gysylltiedig â'ch cwrs neu'ch rhaglen astudio, yn astudio'n breifat neu'n teithio rhwng eich cartref a'ch darparwr gofal plant
  • unrhyw ffioedd cofrestru (hyd at £80) ac unrhyw flaendal a godir fel arfer (hyd at £250)
  • cyfnod o weld a ydy'ch plentyn yn hapus gyda'r darparwr gofal plant cyn i'r dysgu gychwyn
  • ffioedd y bydd angen i chi eu talu yn ystod y gwyliau i gadw lle eich plentyn yn y lleoliad gofal plant
  • costau teithio ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu talu er mwyn mynd â'ch plentyn at y darparwr gofal plant

Bydd y darparwr gofal plant yn cael ei dalu'n uniongyrchol gan Gofal i Ddysgu. Telir unrhyw arian i'ch helpu gyda chostau teithio yn uniongyrchol i'r darparwr dysgu neu'r darparwr hyfforddiant yn rheolaidd, a byddant hwythau'n ei ad-dalu i chi.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Bydd angen i chi lenwi ‘Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau’ os yw eich cwrs dysgu, eich gofal plant neu'ch manylion personol yn newid tra'ch bod yn cael Gofal i Ddysgu.

Am fwy o wybodaeth, gweler ‘Sut i wneud cais am Ofal i Ddysgu’

Yr effaith ar fudd-daliadau neu lwfansau eraill

Ni fydd Gofal i Ddysgu'n effeithio ar eich budd-daliadau neu'ch lwfansau chi, nac ar rai eich teulu. Nid oes raid i chi fod ar fudd-daliadau i allu ei hawlio.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r Grant Dysgu i Oedolion

Yn ogystal â Gofal i Ddysgu, mae'n bosib y gallwch gael hyd at £30 yr wythnos drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (os ydych yn 18 oed neu iau pan fyddwch yn dechrau eich cwrs) neu'r Grant Dysgu i Oedolion (os ydych dros 18 oed).

Sut i wneud cais

I gael cymorth gyda gofal plant wrth ddysgu, gwnewch gais am Ofal i Ddysgu cyn gynted â'ch bod yn penderfynu beth yr ydych am ei wneud.

Additional links

Gofal i Ddysgu: ateb eich cwestiynau

I siarad â rhywun am Ofal i Ddysgu, ffoniwch 0800 121 8989

Ei wneud ar y we

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU