Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi dan 20 oed a bod gennych un neu fwy o blant, gall Gofal i Ddysgu helpu gyda chostau gofal plant wrth i chi ddysgu.
Os ydych chi'n rhiant ifanc, gall Gofal i Ddysgu helpu i dalu am ofal plant a chostau teithio cysylltiedig tra'ch bod chi'n dysgu.
Chi sydd i benderfynu pa bwnc neu gwrs yr ydych am ei ddilyn. Er enghraifft, gallwch ddewis a ydych yn dymuno cael cymhwyster ai peidio, a p'un ai mewn coleg neu drwy weithio yr ydych am ddysgu.
Lle bynnag y byddwch yn penderfynu dysgu, gallwch fod yn hyderus bod eich plentyn yn cael ei warchod yn ddiogel.
Cewch lawer o wybodaeth am Ofal i Ddysgu ar y tudalennau hyn. Ond os bydd gennych fwy o gwestiynau - neu os hoffech gael help gyda'ch ffurflen gais - gallwch naill ai:
Pan fyddwch yn cael Gofal i Ddysgu, eich penderfyniad chi yw beth yr ydych am ei ddysgu.
Gallech ddewis mynd ar gwrs neu ymgymryd â rhaglen ddysgu sy'n para am ychydig ddyddiau'n unig, neu un sy'n para am nifer o flynyddoedd. Nid oes oriau pendant, felly gallech astudio'n rhan-amser neu'n llawn amser.
Tra'ch bod yn dysgu, gallech helpu i adeiladu gwell dyfodol i chi a'ch teulu. Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â lefelau sgiliau a chymwysterau uwch, a dengys yr ymchwil diweddaraf fod pobl sydd â chymwysterau yn tueddu i ennill mwy na'r rhai sydd heb gymwysterau.
Byddwch hefyd yn cwrdd â phobl newydd ac yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael mynd allan o'r tŷ ac yn cael cyfle i fagu mwy o hyder a bod yn fwy annibynnol efallai.
Y peth pwysicaf yw eich bod yn dewis rhywbeth sy'n gweddu i chi ac sydd o ddiddordeb i chi.
Mae miloedd o gyfleoedd ar gael, yn amrywio o gyrsiau byr yn y gymuned a fyddai'n helpu i roi hwb i'ch hyder, i gwrs dwy flynedd yn eich coleg lleol.
Does dim rhaid i chi astudio cwrs sy'n arwain at gymhwyster. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dewis cwrs dysgu sy'n cael cyllid cyhoeddus.
Os ydych chi'n chwilio am syniadau neu am ysbrydoliaeth ynghylch pa fath o gwrs dysgu i fynd arno, ewch i ‘Dewisiadau yn 16: beth sy’n iawn i chi’ neu gysylltu â Connexions Direct:
Gall gadael i rywun arall ofalu am eich plentyn fod yn gam mawr.
Mae Gofal i Ddysgu'n helpu drwy adael i chi ddewis y math o ofal plant sy'n addas i chi ac i'ch plentyn. Gallwch, er enghraifft, ei ddefnyddio i dalu am ofal plant yn unrhyw un o'r lleoliadau canlynol:
Mae'n rhaid i'r darparwr gofal plant fod ar ran gorfodol Cofrestr Gofal Plant Ofsted neu ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar. Rhaid i ddarparwyr gofal plant cofrestredig fodloni'r safonau cenedlaethol, ac fe fyddant yn cael eu harchwilio'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn darparu gwasanaeth gofal o safon.
Os oes gennych unrhyw bryderon am les neu ddiogelwch eich plentyn, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Os nad ydych yn sicr pa fath o ofal plant i'w ddefnyddio, gofynnwch am gyngor – mae holi eich Cynghorydd Connexions Personol neu'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol yn lle da i ddechrau.
Gallant helpu i drefnu eich bod yn cael ymweld â gwahanol ddarparwyr gofal plant, fel y gallwch ddod o hyd i'r un sy'n diwallu'ch anghenion orau.
Yn ystod yr ymweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon bod y lle yn addas ar gyfer eich plentyn chi. Efallai yr hoffech holi am y pethau hyn:
Holwch y darparwr gofal plant i gael copi o'u llyfryn gwybodaeth ar gyfer rhieni. Bydd yn cynnwys manylion beth y byddant yn ei wneud mewn gwahanol amgylchiadau.
Mae llyfryn 'Cod Ymarfer Gofal i Ddysgu' ar gael hefyd. Mae hwn wedi'i anelu at ddarparwyr gofal plant, ond gall eich helpu i benderfynu beth i'w drafod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, eich cam nesaf fydd canfod a ydych yn gymwys.