Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i wneud cais am Ofal i Ddysgu

Os ydych yn iau nag 20 oed, gall Gofal i Ddysgu helpu i dalu am ofal plant tra byddwch chi'n dysgu. Mae'n hawdd gwneud cais: dilynwch y camau syml a welir isod.

Gofal i Ddysgu: cael trefn ar eich cais

"Wrth wneud cwrs, cefais yr hyder i gredu ynof fy hun."

Julie, 18

Gwnewch gais am Ofal i Ddysgu cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu beth yr ydych am ei wneud. Os ydych chi am elwa o'r cynllun dylech wneud yn siŵr eich bod yn dechrau’ch cwrs cyn eich pen-blwydd yn 20 oed.

Er mwyn talu eich darparwr gofal plant o'r diwrnod y byddwch yn dechrau’ch cwrs, bydd angen i chi wneud cais cyn i'ch cwrs dysgu ddechrau - neu o fewn 28 diwrnod ers iddo ddechrau.

Mae'r ceisiadau'n gyflym ac yn hawdd. Fodd bynnag, os bydd angen help arnoch gallwch gysylltu ag un o'r canlynol:

  • Cynghorydd Connexions Personol
  • eich coleg, eich ysgol neu ddarparwr yr hyfforddiant

I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch pwy sy'n gymwys ar gyfer Gofal i Ddysgu, cysylltwch â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.

Cyn i chi wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, bydd angen i chi wybod:

  • pa gwrs neu raglen ddysgu rydych yn gwneud cais amdani
  • pa ofal plant rydych yn bwriadu ei ddefnyddio

Fodd bynnag, nid oes angen cadarnhau eich lle ar y cwrs.

Cael pecyn gwneud cais am Ofal i Ddysgu

Ffoniwch 0870 121 8989 i gael pecyn gwneud cais

I gael pecyn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, cysylltwch â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.

Mae'r pecyn gwneud cais yn disodli'r ffurflen PDF, nad yw ar gael mwyach. Mae'r ffurflen PDF wedi'i disodli gan nad oedd bob amser yn glir pan oedd yn cael ei hargraffu - a oedd weithiau'n achosi oedi wrth ei phrosesu.

Llenwi ffurflen gais Gofal i Ddysgu

"Mae'n haws o lawer mynd i'r ysgol gan wybod bod fy merch yn hapus ac yn cael gofal da."

Katie, 16

Mae angen i chi lenwi ffurflen gais. Os bydd angen cymorth arnoch, holwch eich Ymgynghorydd Connexions, eich rhieni neu eich gofalwr – a darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd a ddaw gyda'r ffurflen.

Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi:

  • gennych chi
  • gan eich darparwr dysgu (ysgol, coleg neu ddarparwr yr hyfforddiant)
  • gan eich darparwr gofal plant

Bydd angen hefyd i’ch darparwr dysgu a darparwr gofal plant lofnodi eu rhannau nhw o’r ffurflen.

Bydd angen i chi fynd â thystysgrif geni eich plentyn (neu lythyr budd-daliadau eich plentyn) i ddarparwr y cwrs wneud llungopi ohonynt. Bydd angen i'r darparwr gofal plant hefyd anfon copi o'u tystysgrif cofrestru Ofsted gyda'r cais.

Os ydych yn cael cymorth i lenwi’r ffurflen

Os ydych yn cael cymorth gan Ymgynghorydd Personol Connexions neu weithiwr cefnogaeth arall, gallwch ofyn iddynt hwy gael eu cysylltu am unrhyw gwestiynau dilynol am eich cais.

Os ydych eisiau hyn, dwedwch hynny ar eich ffurflen a rhowch ei fanylion cysylltu. Sicrhewch eich bod yn gofyn iddynt yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

“Nawr gall y ddau ohonom edrych ymlaen at well dyfodol.”

Rhiann, 18

Ar ôl i'r gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr gael eich ffurflen, byddant yn edrych a yw pob rhan ohoni wedi ei llenwi.

Oni fydd, caiff y ffurflen ei dychwelyd atoch gyda chais am yr wybodaeth sydd ar goll. Efallai yr anfonir y cais atoch dros e-bost (os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost) neu drwy'r post. Os byddwch wedi rhoi'r holl wybodaeth ofynnol a'ch bod yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu, bydd y gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr yn ysgrifennu atoch chi a'ch darparwr gofal plant o fewn tair wythnos. Bydd y llythyr hwn yn cadarnhau beth fydd eich taliadau Gofal i Ddysgu a phryd y cânt eu gwneud.

Os nad ydych yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu, cewch lythyr yn egluro pam.

Ddim yn fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais?

Os nad ydych yn fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.

Caiff ei staffio gan gynghorwyr a fydd yn fwy na bodlon eich helpu i ddatrys eich problem.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Bydd angen i chi lenwi ffurflen 'newid mewn amgylchiadau' os bydd unrhyw newid i'r canlynol:

  • eich manylion personol
  • eich darparwr gofal plant - neu'r ffioedd y mae eich darparwr presennol yn eu codi
  • y costau teithio rhwng eich cartref a'ch darparwr gofal plant
  • eich cwrs neu'ch rhaglen ddysgu
  • faint o oriau a dreuliwyd yn dysgu (efallai eich bod wedi anghofio cynnwys eich astudiaethau preifat, amser i adolygu ac amser i sefyll arholiadau)

I gael ffurflen newid mewn amgylchiadau, ffoniwch y llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.

Os byddwch yn gadael eich darparwr gofal plant presennol, efallai y bydd yn rhaid i chi roi mis o rybudd.


I ble y dylech anfon eich ffurflen

Dylech anfon y ffurflen gais Gofal i Ddysgu a'r ffurflen newid mewn amgylchiadau wedi'u llenwi i'r cyfeiriad canlynol:

Care to Learn
Freepost RSAX-RXKX-GZBZ
Learner Support Service
Manceinion
M3 3JZ

Additional links

Gofal i Ddysgu: ateb eich cwestiynau

I siarad â rhywun am Ofal i Ddysgu, ffoniwch 0800 121 8989

Ei wneud ar y we

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU