Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymwelwyr sydd ag anawsterau dysgu

Mae amgueddfeydd, orielau, arddangosfeydd a mannau eraill o ddiddordeb yn dod yn fwy hwylus drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae arddangosfeydd ac adeiladau'n cael eu cyflwyno. Gall ymwelwyr fanteisio ar deithiau â chefnogaeth a gwybodaeth mewn fformatau syml - er enghraifft, symbolau a lluniau ochr yn ochr â thestun.

Gwybodaeth ac arwyddion mewn fformatau cyfatebol a syml

Oherwydd fod gan rai pobl sydd ag anableddau dysgu difrifol namau synhwyraidd, cyfathrebu a symudedd ychwanegol, efallai y bydd gwybodaeth arall yn yr adran hon yn ddefnyddiol.

Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o'r adeiladau, orielau ac amgueddfeydd mwy arwyddion cyffwrdd a gweledol a symbolau hawdd eu deall.

Dylai'r holl lwybrau gael eu harwyddo'n glir a dylid gallu gweld yn hawdd beth yw pwrpas pob ystafell yn yr adeilad - gyda ffyrdd clir i mewn ac allan.

Teithiau a theithiau tywys

Mae llawer o fannau - yn enwedig amgueddfeydd ac orielau mwy - yn darparu teithiau ar gyfer ymwelwyr sydd ag anabledd dysgu. Gall y rhain gynnwys sgwrs fer ragarweiniol am yr amgueddfa neu'r oriel mewn Saesneg clir. Gellir defnyddio teclyn tywys ar gyfer hyn.

Gall teclyn tywys - fel arfer chwaraewr CD neu dâp sain cludadwy - helpu pobl gyda dyslecsia hefyd neu bobl nad ydynt yn ddarllenwyr hyderus. Bydd teclynnau tywys yn ddefnyddiol hefyd i bobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Efallai y gallwch drefnu taith 'un-wrth-un' neu fynd fel rhan o grwp. Fel arfer bydd angen rhoi rhybudd o sawl diwrnod. Mae canolfannau weithiau'n cynnal gweithdai rhyngweithiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU