Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymwelwyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg

Mae amgueddfeydd, orielau, arddangosfeydd a mannau eraill o ddiddordeb yn dod yn fwy hwylus drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae arddangosfeydd ac adeiladau'n cael eu cyflwyno.

Gwybodaeth mewn fformatau cyfatebol a chymhorthion eraill

Gall y mannau hyn gynnig ategolion a chymhorthion megis taflenni mewn print bras, chwyddwydrau a theclynnau tywys.

Teithiau a theithiau tywys

Mae llawer o fannau - yn enwedig amgueddfeydd ac orielau mwy - yn darparu teithiau ar gyfer ymwelwyr dall neu sydd â nam ar eu golwg. Efallai y gallwch drefnu taith 'un-wrth-un' neu fynd fel rhan o grwp. Fel arfer bydd angen rhoi rhybudd o sawl diwrnod.

Rhan fawr o'r teithiau hyn yw'r cyfle i gyffwrdd â'r arddangosion. Gall rhai mannau mwy ganolbwyntio ar un darn neilltuol o gelf neu arddangosyn a chael trafodaeth grwp gydag ymwelwyr eraill.

Teclynnau tywys

Mae teclynnau tywys yn eithaf cyffredin - fel arfer chwaraewr CD cludadwy. Mae rhai wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer ymwelwyr dall neu sydd â nam ar eu golwg. Yn ogystal â gwybodaeth am yr arddangosion, efallai y byddant hefyd yn esbonio cynllun yr adeilad er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yr adeilad.

Darluniau a diagramau cyffwrdd

Mae mwy o ddiddordeb yn y gwaith o gynhyrchu darluniau a diagramau cyffwrdd ar gyfer dehongli. Gall darluniau cyffwrdd fod yn ddefnyddiol iawn er mwyn deall gwrthrych - 2D neu 3D. Gall darluniau cyffwrdd roi argaff gyffredinol o siâp ac amlinell gwrthrych neu gyfansoddiad paentiad.

Mae Ymddiriedolaeth Dog Rose yn gweithio gydag amgueddfeydd ac orielau i ymchwilio i'r defnydd o arddangosion a chynlluniau cyffwrdd. Mae gan y wefan restr o ddarnau celf ac adeiladau nodedig synhwyraidd a clywedol

Allweddumynediad llywodraeth y DU