Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymwelwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw

Mae amgueddfeydd, orielau, arddangosfeydd a mannau eraill o ddiddordeb yn dod yn fwy hwylus drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae arddangosfeydd ac adeiladau'n cael eu cyflwyno - gan gynnwys teithiau â chefnogaeth. Mae darlithfeydd mewn amgueddfeydd sy’n fwy mewn maint â dolenni sain wedi’u gosod fel arfer.

Cysylltu

Mewn llawer o achosion, gellir cael gwybodaeth trwy yr e-bost, llyfrynnau neu wefannau. Efallai hefyd bod modd archebu tocynnau dros yr e-bost.

Fel arfer mae gan wefannau adran sy’n rhoi manylion y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw, er enghraifft dolenni sain.

Darlithoedd, sgyrsiau a digwyddiadau

Holwch i weld a yw teithiau tywys yn ymgorffori systemau dolen sain neu chwyddo sain cludadwy. Gofynnwch hefyd a oes digwyddiadau'n cael eu cynnal yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu'n cael eu trosi i Iaith Arwyddion Prydain.

Mae'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o amgueddfeydd neu orielau - oherwydd adnoddau neu gyllid - yn gallu cael dehonglydd iaith arwyddion ymhob digwyddiad. Yn hytrach, efallai y cewch gynnig rhywfaint o sgyrsiau lle bydd dehonglydd iaith arwyddion ar gael, neu efallai y gofynnir i chi roi rhybudd os ydych yn bwriadu mynychu'r ganolfan er mwyn iddynt allu trefnu dehonglydd.

Mae'n bosibl y bydd rhai digwyddiadau'n cynnwys nodiadau wedi'u paratoi'n barod ar y sgwrs.

Is-deitlau neu benawdau

Gellir defnyddio is-deitlau neu benawdau pan ddefnyddir offer clyweledol.

Efallai y bydd palanteipydd yn bresennol mewn rhai darlithoedd a sgyrsiau. Dyma berson sy'n teipio pob gair sy'n cael ei ddweud a'r rheini wedyn yn ymddangos ar gyfrifiadur.

Neu efallai gellir darparu crynodeb o'r hyn sy'n cael ei ddweud.

Allweddumynediad llywodraeth y DU