Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymweld â mannau diddorol - rhagarweiniad

Mae mannau diddorol - megis amgueddfeydd, orielau ac adeiladau hanesyddol - yn amrywio o ran y cyfleusterau sydd ganddynt a'r hyn y gallant ei gynnig i bobl anabl. Mae wastad yn dda i gynllunio cyn mynd.

Hwyluso mynediad

Mae gan y rhan fwyaf o lefydd wefannau sy'n rhoi manylion unrhyw gyfarpar arbennig sydd ar gael a pha mor hwylus yw'r adeiladau o ran mynediad. Gallwch hefyd gael gwybod am deithiau, darlithoedd a gweithdai ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Dyma rai bethau efallai y byddwch am ofyn yn eu cylch:

  • gwybodaeth am fynediad i wahanol rannau o'r adeilad
  • gwybodaeth am deithio a pharcio
  • pa gymorth a ddarperir ac a oes angen eu hysbysu o flaen llaw
  • pa fformatau y mae’r wybodaeth yn cael ei darparu ynddo
  • manylion y gwasanaethau a'r digwyddiadau a dargedir yn benodol at bobl anabl

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau wedi'u gwneud i weithdrefnau, arferion a mynediad i adeiladau. Er enghraifft:

  • teithiau ac arweinlyfrau i bobl ag anableddau dysgu
  • hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o ofynion gwahanol bobl
  • gwybodaeth am yr arddangosion mewn fformatau gwahanol, megis tapiau sain a Braille

Mae ffyrdd newydd o ddarparu gwybodaeth i bobl anabl yn datblygu'n gyson. Er enghraifft:

  • disgrifiad o gasgliadau amgueddfeydd ac archifau ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg
  • systemau o symbolau ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu
  • y defnydd o dechnoleg, er enghraifft fideos ar-lein mewn Iaith Arwyddion Prydain

Mae canolfannau'n dechrau cynnwys anghenion defnyddwyr gyda dyslecsia yn eu gwaith cynllunio a'r ffordd y maent yn arddangos ac yn hyrwyddo'u casgliadau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU