Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhestr wirio o'r wybodaeth sydd ei angen i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth

Rhestr wirio wrth wneud eich hawliad

Bydd arnoch angen yr wybodaeth ganlynol wrth law wrth wneud hawliad:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a'ch cod post presennol, gan gynnwys eich dau gyfeiriad diwethaf
  • eich cyfeirnod treth (mae hwn i'w weld ar ffurflenni P45 a P60 Cyllid a Thollau EM, neu ar unrhyw lythyr rydych wedi'i gael ganddynt ynghylch treth)
  • os ydych chin briod neu mewn partneriaeth sifil (neu wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn y gorffennol), bydd angen manylion eich gŵr, eich gwraig neuch partner sifil arnom (mae hyn yn cynnwys eu rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad eich priodas neuch partneriaeth sifil)
  • os ydych chi wedi ysgaru, os ywch partneriaeth sifil wedi cael ei diddymu, neu os yw'ch partner priod/partner sifil wedi marw, bydd arnom angen y dyddiad hwn hefyd
  • manylion unrhyw hawl neu fudd-daliadau nawdd cymdeithasol rydych chi neuch gŵr, eich gwraig neuch partner sifil yn eu cael neun aros i gael clywed amdanynt
  • cyfeiriad unrhyw gyflogwr rydych wedi gweithio iddo yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, a'r dyddiadau
  • os ydych erioed wedi byw neu weithio dramor, bydd arnom angen eich rhif nawdd cymdeithasol a'r dyddiadau pan oeddech chi dramor
  • ein polisi yw talu Pensiwn y Wladwriaeth i gyd i un cyfrif yn uniongyrchol (bydd arnom angen rhif y cyfrif rydych am ich Pensiwn y Wladwriaeth gael ei dalu iddo)

Allweddumynediad llywodraeth y DU