Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein ond byddwch angen cyfrif Porth y Llywodraeth. Darllenwch ymlaen i ddarganfod beth yw'r camau a sut y gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
Mae'n rhaid i chi fod yn preswylio ym Mhrydain Fawr i ddefnyddio'r gwasanaeth. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon neu yn breswylydd sydd ddim yn y DU, defnyddiwch un o'r cysylltiadau isod i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
I wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein mae'n rhaid i chi:
Mae Porth y Llywodraeth yn llwybr diogel i wasanaethau'r llywodraeth. Fel rhan o gofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth fe ofynnir cwestiynau i chi i gadarnhau pwy ydych chi. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, efallai yr anfonir ID Defnyddiwr a chod ysgogi i chi drwy'r post. Byddwch angen y rhain i ddefnyddio'r gwasanaeth Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
Peidiwch â rhannu'r wybodaeth bersonol neu gyfrinair rydych yn ei rhoi i mewn gydag unrhyw un arall.
Os oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth yn barod, byddwch angen ateb cwestiynau ychwanegol i gadarnhau pwy ydych chi. Efallai yr anfonir cod ysgogi i chi drwy'r post i'w ddefnyddio gyda Phensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
Peidiwch â rhannu'r wybodaeth bersonol neu gyfrinair rydych yn ei rhoi i mewn gydag unrhyw un arall.
Mae rhywfaint o wybodaeth bwysig y byddwch efallai ei angen cyn y gallwch wneud eich cais ar-lein. Dilynwch y cyswllt isod i gael rhestr wirio o beth rydych ei angen.
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Porth y Llywodraeth newydd neu ddiwygiedig. Os bydd angen, ysgogwch y cyfrif gyda'ch cod ysgogi. Yna gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Wedi i chi gwblhau eich cais byddwch yn gweld sgrin sy'n cadarnhau ei fod wedi'i anfon ac yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.
Gallwch ddychwelyd i gais rydych wedi'i ddechrau'n barod, os nad ydych wedi'i anfon hyd yn hyn. Byddwch angen eich rhif cyfeirnod unigryw gwasanaeth Pensiwn y Wladwriaeth. Rhoddwyd hwn i chi y tro diwethaf i chi ddefnyddio'r gwasanaeth.
Ni fyddwch yn gallu cofrestru neu ysgogi eich cyfrif rhwng 9.30 pm a 7.00 am.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau defnyddiwch y cynghorydd budd-daliadau, gwasanaeth ar-lein i'ch helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech fod a hawl iddynt.