Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Fandaliaeth

Mae fandaliaeth yn drosedd sy’n amharu ar ansawdd bywyd pobl ac sy’n achosi gwerth miliynau o gostau atgyweirio i gymunedau. Mae’n hawdd ei ddiystyru fel mân drosedd, ond mae’n cael effaith fawr ar gymdogaethau. Yma, cewch wybod am yr hyn ydyw a sut i'w riportio.

Beth yw fandaliaeth?

Fandaliaeth yw unrhyw ddifrod bwriadol sy’n cael ei wneud i eiddo rhywun arall.

Er enghraifft:

  • peintio graffiti
  • taflu sbwriel
  • cynnau tanau bach
  • malu ffenestri
  • gwneud difrod i adeiladau neu strwythurau eraill
  • crafu paent oddi ar gar

Effeithiau fandaliaeth

Gall fandaliaeth niweidio ansawdd bywyd pobl gan ei fod yn creu difrod neu’n difetha pethau y maent eu hangen neu y maent yn meddwl y byd ohonynt.

Mae hefyd yn gallu:

  • gwneud i bobl deimlo fod eu bywydau yn llai saff nag ydynt mewn gwirionedd
  • bod yn beryglus – mae pobl wedi marw ar ôl i weithred o fandaliaeth fynd yn rhy bell, neu allan o reolaeth
  • costio arian i chi – rydych chi’n talu am atgyweirio fandaliaeth gyda threthi a thaliadau yswiriant uwch

Riportio fandaliaeth

Os ydych chi’n sylwi fod eiddo wedi ei fandaleiddio, dylech chi gysylltu â’ch cyngor lleol i’w riportio.

Os ydych chi’n gweld rhywun yn fandaleiddio eiddo, dylech chi gysylltu â’ch heddlu lleol neu â’ch tîm plismona cymdogaeth lleol.

Os ydych chi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a’ch bod yn gweld rhywun yn fandaleiddio eich bws neu’ch trên, ffoniwch y cwmni trenau i roi gwybod iddynt. Gallwch hefyd alw’r Heddlu Trafnidiaeth os ydych chi mewn dinas fawr, fel Llundain.

Os ydych chi’n credu fod beth rydych chi wedi’i weld yn beryglus (megis rhywun yn cynnau tân), neu os ydych chi’n teimlo o dan fygythiad yn bersonol, ffoniwch 999.

Cosbi fandaliaeth

Mae’r gosb sy'n cael ei roi i fandaliaid yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y maent wedi difrodi eiddo.

Mae’r rhan fwyaf o droseddau fandaliaeth yn eithaf mân, a delir gyda’r rheini’n arferol gan Lys Ynadon. Bydd y gosb yn dibynnu ar faint o ddifrod a wnaed, faint oedd y gost o’i atgyweirio a faint o drwbl yr achoswyd ganddo.

Os yw gwerth y difrod dros £5,000, gellir rhoi hyd at chwe mis o garchar a dirwy o £5,000 fel cosb. Os yw gwerth y difrod yn llai na £5,000, gellir rhoi hyd at dri mis o garchar a dirwy o £2,500.

Gall yr Heddlu a’r awdurdodau lleol hefyd benderfynu rhoi hysbysiad cosb i fandaliaid. I blant o dan 16 mlwydd oed, canlyniad hyn yw dirwy o £50 yn y fan a’r lle. I’r rheini dros 16, y canlyniad yw dirwy o £80.

Gall gweithred fwy difrifol o fandaliaeth sy’n niweidio neu’n bygwth bywydau olygu dedfrydau mwy o lawer. Y ddedfryd fwyaf ar gyfer rhywun sydd wedi cynnau tân i losgi’n fwriadol a wnaeth fygwth bywyd person arall yw oes yn y carchar.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU