Y Set Gwybodaeth Allweddol (SGA)
Mae'r Set Gwybodaeth Allweddol, neu SGA, yn cynnwys yr eitemau o wybodaeth mae myfyrwyr wedi dweud eu bod yn eu cael fwyaf defnyddiol pan fyddant yn mynd ati i wneud dewisiadau ynglŷn â pha gwrs i'w astudio. Mae rhai o'r eitemau yn fesurau o foddhad myfyrwyr o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF), a gaiff ei gwblhau gan 220,000 o fyfyrwyr, ar eu blwyddyn olaf yn bennaf, yn y DU bob blwyddyn. Daw rhai o'r eitemau o'r arolwg i ben taith y rheiny sy'n gadael Addysg Uwch sy'n holi myfyrwyr a enillodd gymhwyster o brifysgol neu goleg, chwe mis ar ôl iddynt adael y sefydliad. Mae arolwg DLHE yn gofyn os ydynt mewn cyflogaeth, yn astudio, y naill a'r llall, neu ddim un ohonynt. Yn y SGA, caiff y canlyniadau hyn eu cyfuno â chanlyniadau arolwg cyffelyb, sef y DLHE Hydredol, sy'n holi sampl o'r rheiny a ymatebodd i'r DLHE, 40 mis ar ôl iddynt adael y brifysgol neu'r coleg. Mae'r SGA hefyd yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir gan y prifysgolion a'r colegau. Mae'r eitemau a gynhwysir yn y SGA, ac o ble daw'r eitemau hyn, i'w gweld yn tabl isod:
Cyfran o'r amser a dreulir ar wahanol weithgareddau dysgu ac addysgu - fesul blwyddyn/cam astudio, gyda dolen i fanylion pellach
Eitemau o wybodaeth i'w cyhoeddi yn y SGA | Ffynhonnell yr wybodaeth hon | Ar gyfer SGA Medi 2012, mae'r wybodaeth hon yn perthyn i: |
---|---|---|
Canlyniadau o'r cwestiynau canlynol o'r ACF:
|
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) | Canlyniadau ACF 2012 |
Cyfran o'r amser a dreulir ar wahanol weithgareddau dysgu ac addysgu - fesul blwyddyn/cam astudio, gyda dolen i fanylion pellach | Prifysgolion a cholegau | Y profiad y gall myfyriwr cyffredin ei gael |
Cyfran o asesiad cyfansymiol yn ôl dull - fesul blwyddyn/cam astudio | ||
Cyrff proffesiynol, statudol a rheolaethol sy'n cydnabod y cwrs hwn, manylion o'r math o gydnabyddiaeth gyda dolen i fanylion pellach | Achrediad mewn lle neu ar y gweill ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013-14 | |
Llety sy'n eiddo/wedi ei noddi gan y sefydliad: costau blynyddol ar gyfartaledd - y chwarteri uchaf ac isaf, a'r nifer o unedau (y gall myfyrwyr ddisgwyl yn rhesymol cael mynediad iddynt) Llety preifat ar rent: costau blynyddol ar gyfartaledd - chwarteri uchaf ac isaf | Prisygolion a cholegau | Blwyddyn academaidd 2012-13 |
Cymorth ariannol sydd ar gael oddi wrth y sefydliad: os yw'n cynnig ildiad ffioedd, cynhaliaeth yn seiliedig ar brawf o fodd ariannol, cynhaliaeth sydd ddim yn seiliedig ar brawf o fodd ariannol, Rhaglen Ysgoloriaeth Genedlaethol; a dolen i wybodaeth fanylach | UCAS neu brifysgolion a cholegau (ar gyfer cyrsiau sydd ddim yn recriwtio drwy UCAS) | Cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013-14 |
Ffioedd blynyddol ar gyfartaledd (ag eithrio ildiad ffioedd) yn ôl pa wlad o'r DU mae'r myfyriwr yn byw ynddi fel arfer | UCAS neu brifysgolion a cholegau (ar gyfer cyrsiau sydd ddim yn recriwtio drwy UCAS) | Ffioedd y bwriedir eu codi yn y flwyddyn academaidd 2013-14 |
Pen taith graddedigion chwe mis ar ôl cwblhau eu cyrsiau - gan gynnwys gweithio, astudio, gweithio ac astudio, diwaith a ddim ar gael i weithio | Ffigurau chwe-mis o arolwg pen taith y rheiny sy'n gadael Addysg Uwch (DLHE) | Canlyniadau DHLE 2010-11 a'r DLHE Hydredol 2010 |
O'r rheiny sydd mewn cyflogaeth, y cyfran sydd mewn swyddi rheolaethol/proffesiynol chwe mis ar ôl graddio | ||
Gwybodaeth am gyflogau'r rheiny sydd mewn swyddi llawn-amser:
|
Ffigurau 40-mis o'r arolwg DHLE hydredol |
Pam ei bod yn bosibl nad oes data SGA llawn ar gael
Nid yw diffyg data yn adlewyrchu ar ansawdd y cwrs. Mae yno sawl rheswm pam na fydd gan rai cyrsiau'r data SGA llawn i'w arddangos. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd cyrsiau mwy newydd wedi cael cyfle i gasglu data ar foddhad myfyrwyr o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF), na data cyflogaeth o'r arolwg i ben taith y rheiny sy'n gadael Addysg Uwch. Ni fydd cyrsiau newydd sbon wedi cael amser i gasglu data am barhad, cymwysterau mynediad a'r radd mae myfyrwyr blaenorol wedi ei hennill.
Mae hefyd yn bosibl na fydd rhai cyrsiau sydd wedi cael eu sefydlu ers blynyddoedd yn gallu dangos data boddhad myfyrwyr na data cyflogaeth. Gall hyn fod oherwydd fod y cwrs yn cael ei gynnal gyda nifer fach o fyfyrwyr, fel nad oes yno ddigon o ymatebion i'r arolygon i'r data fod yn arwyddocâol. Gall data fod yn gamarweiniol os nad yw ond yn cynrychioli nifer fach o fyfyrwyr, a/neu lai na hanner y myfyrwyr ar y cwrs.
Mae yno rai cwmnïau preifat sy'n darparu cyrsiau nad ydynt yn cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF), na chynlluniau cenedlaethol eraill ar gyfer casglu data. O'r herwydd, nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer y cyrsiau hyn.
Yn achos rhai cyrsiau sydd â nifer fach o fyfyrwyr, ond sy'n derbyn ymatebion gan dros hanner, bydd Unistats yn dangos data ar gyfer naill ai:
- mwy nag un flwyddyn o'r un cwrs, neu
- data ar gyfer y cwrs yma wedi ei ychwanegu at gyrsiau cyffelyb yn yr un sefydliad. Er enghraifft, os yw'r cwrs dan sylw yn ymdrin â Choedwigaeth, yna gall y data berthyn i'r holl gyrsiau sy'n ymwneud ag amaeth.
Mae'n bosibl na fydd gan rai prifysgolion neu golegau lety ar gael, er enghraifft mae'r Brifysgol Agored yn darparu eu cyrsiau i gyd ar ffurf dysgu dros bellter, fel nad oes angen i fyfyrwyr adael eu cartrefi i astudio. Mae yno hefyd rai colegau nad ydynt yn cynnig eu llety eu hunain (e.e. neuaddau preswyl) ond sy'n gallu darparu gwybodaeth ynglŷn â chostau llety preifat.
Os nad oes yno set gyflawn o ddata am y cwrs 'rydych wedi dangos diddordeb ynddo, dylech gysylltu â'r brifysgol neu goleg am fwy o wybodaeth.
Yn ôl i ben y dudalen