Ynglŷn ag Unistats
Unistats yw'r safle swyddogol sy'n caniatáu i chi chwilio am a chymharu data a gwybodaeth ar gyrsiau mewn prifysgolion a cholegau ledled y DU. Mae'r safle yn casglu ynghyd gwybodaeth gymharol ar y meysydd hynny mae myfyrwyr yn ystyried i fod yn bwysig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â beth a ble i astudio. Mae'r eitemau oedd bwysicaf ym marn myfyrwyr wedi cael eu cynnwys mewn Set Gwybodaeth Allweddol (SGA), y gellir eu canfod ar y tab Braslun ar gyfer pob cwrs.
Mae'r safle yn defnyddio'r data swyddogol canlynol ar gyrsiau addysg uwch:
- Boddhad myfyrwyr o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
- Ble mae myfyrwyr yn mynd ar ôl cwblhau eu cyrsiau o'r arolwg i ben taith y rheiny sy'n gadael Addysg Uwch
- Sut y caiff y cwrs ei ddysgu a phatrymau astudio
- Sut y caiff y cwrs ei asesu
- Achrediad y cwrs
- Cost cyrsiau (megis ffioedd dysgu a llety)
Darparwyd yr wybodaeth hon gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, y Gwasanaeth Data, prifysgolion a cholegau ac Ipsos MORI (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr)
Sut i ddefnyddio Unistats
Gallwch ddefnyddio Unistats i ganfod beth oedd myfyrwyr blaenorol yn ei feddwl am y cwrs, ynghyd â dysgu ynglŷn â'r costau tebygol a'r math o swyddi neu astudiaeth bellach yr aeth myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs ymlaen i wneud.
Mae'n bwysig cofio pan y byddwch yn defnyddio Unistats fod yr wybodaeth yma wedi ei bwriadu i roddi syniad i chi ynglŷn â pha fath o beth allech chi ei ddisgwyl pe baech yn ymuno â'r cwrs 'rydych yn ei ddewis. Wrth reswm, bydd y profiad ar bob cwrs yn amrywio ar gyfer pob unigolyn ac o flwyddyn i flwyddyn.
Mae rhywfaint o'r wybodaeth ar Unistats, er enghraifft parthed â boddhad myfyrwyr a chanlyniadau cyflogaeth, yn adlewyrchu'r flwyddyn a aeth heibio - ac mae rhywfaint, megis gwybodaeth ar ffioedd, ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Dylech sicrhau eich bod yn deall i ba flwyddyn mae'r data yn perthyn.
Wrth gymharu data ar gyfer cyrsiau sy'n deillio o'r arolwg, dylid cymryd gofal, yn arbennig pan fo'r gwahaniaethau rhwng cyrsiau'n fach. I'ch helpu i ddehongli'r data, bydd y safle yn dangos y nifer o bobl a ymatebodd i'r arolwg ar gyfer pob cwrs. Yn achos rhai cyrsiau, gall y data yma gael ei gasglu at ei gilydd i ddangos canlyniadau arolwg ar gyfer mwy nag un flwyddyn neu fwy nag un cwrs. Bydd y safle'n nodi ble mae hyn wedi digwydd a bydd yn dangos cyfanswm y rheiny sydd wedi ymateb ar gyer y data sydd wedi cael ei gasglu ynghyd. Yn gyffredinol, mae'n anhebygol y bydd gwahaniaethau o lai na deg-y-cant rhwng cyrsiau sydd â nifer fach, ond cyffelyb, o bobl wedi ymateb i'r arolwg (e.e. 30) yn arwyddocâol.
Gweler yr adran Pam ei bod yn bosibl nad oes data SGA llawn ar gael am wybodaeth bellach ar sut y caiff data'r arolwg ei gasglu ynghyd ar gyfer cyrsiau sydd â nifer fach o fyfyrwyr, cyrsiau newydd, neu gyrsiau sydd ag ymatebion gan lai na hanner eu myfyrwyr. Noder os gwelwch yn dda ei bod yn bosibl nad oes yno weithiau unrhyw ddata o gwbl, ond nid yw hyn yn arwydd o ansawdd y cwrs.
Mewn achosion lle mae gwybodaeth wedi cael ei chasglu oddi wrth lai na 53 o fyfyrwyr, mae'r canrannau a welwch (e.e. ar y gwahanol graffiau a siartiau) ar Unistats wedi eu crynhoi i'r pump-y-cant agosaf. Er mwyn gweithio allan y canran (i ddangos, e.e. fod 8 allan o 24 o fyfyrwyr wedi cael gradd dosbarth cyntaf) byddem yn rhannu 8 gyda 24, ac yna lluosi gyda 100, sy'n gweithio allan i 33.33% - byddai'r ffigur hwn wedyn yn cael ei grynhoi i 35%.
Yn ôl i ben y dudalen