Os ydych am ddefnyddio set data Unistats ar gyfer eich cymwysiadau eich hunan, gallwch fynd i'r data yn y dulliau canlynol:
- Trwy Ryngwyneb Rhaglennu Cymhwysiad (API) sy'n caniatáu i ddefnyddwyr trydydd parti fewnosod y data yn eu safleoedd neu gymwysiadau eu hunain mewn amser go iawn.
- Fel llwythiad i lawr Iaith Farcio Estynadwy o'r set ddata gyfan a ddarperir gan HESA. Caiff hon ei diweddaru ar yr un amserlen dreigl â'r prif safle Unistats.
I gael y rhestr lawn o ddata Unistats, gweler y sgema XML a ddarperir fel llwythiad i lawr XML gan HESA, a'r nodiadau canllaw [PDF] ategol. Caiff y sgema ei diweddaru ar yr un amserlen dreigl â'r prif safle Unistats.
Mae'n rhaid i unrhyw drydydd parti sydd eisiau defnyddio'r data hyn at eu pwrpasau eu hunain ddilyn y canllawiau defnydd priodol fel y'u hesbonnir yn y ddogfen Telerau ac amodau am fynd i'r wefan hon a'i defnyddio isod.
Darllener: Telerau ac amodau ar gyfer mynd i'r wefan hon a'i defnyddio