1. Cyflwyniad
Darperir gwefan Unistats sydd wedi'i lleoli yn http://unistats.direct.gov.uk, ac yn cynnwys unrhyw gynnwys, gwybodaeth a deunyddiau sydd arni (y "Wefan" hon), gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ("ni", "ein"). Mae'n cynnig gwybodaeth safonedig am gyrsiau i israddedigion. Mae'n eich galluogi i gymharu data swyddogol am gyrsiau prifysgolion a cholegau (y "Gronfa Ddata"). Darparwyd y wybodaeth sydd yn y Gronfa Ddata gan brifysgolion a cholegau, arolygon o fyfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf neu sydd wedi gadael a darparwyr data eraill.
2. Derbyniad
Mae mynediad i'r Wefan hon a'r defnydd ohoni yn amodol ar dderbyn darpariaethau'r telerau a'r amodau isod ar gyfer mynediad i'r wefan hon a'r defnydd ohoni ac unrhyw hysbysiadau a/neu gyfarwyddiadau cyfreithiol eraill a fydd yn ymddangos ar y Wefan hon o bryd i'w gilydd (gyda'i gilydd "Telerau Defnydd") a chydymffurfio a'r telerau a'r amodau hynny. Caiff y Telerau Defnyddio eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a'u dehongli yn unol â'r gyfraith honno, a bydd unrhyw anghydfod yn ymwneud â'r amodau hyn yn amodol ar awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.
PWYSIG: Drwy gael mynediad i'r Wefan hon a'i defnyddio cymerir yn ganiataol eich bod wedi darllen, deall a derbyn y Telerau Defnydd hyn. Os na fyddwch yn cytuno i gael eich rhwymo wrth y Telerau Defnydd hyn ni ddylech barhau i gael mynediad i'r Wefan hon a'i defnyddio nac unrhyw gynnwys sydd arni (yn cynnwys unrhyw gynnwys y byddwch wedi'i gopïo neu'i lawrlwytho).
3. Argaeledd y wefan
Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y Wefan ar gael yn gyffredinol, ni fyddwn yn gwneud datganiad neu warantau i'r perwyl hwnnw.
Cadwn yr hawl i dynnu'n ôl fynediad i'r Wefan hon neu ran ohoni am gyfnodau er mwyn addasu ei chynnwys, neu er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i drefnu neu heb ei drefnu ac at ddibenion eraill, heb roi rhybudd i chi.
Gan y byddwch yn cael mynediad i'r Wefan hon drwy rwydweithiau telathrebu trydydd parti, yr ydych yn cydnabod na allwn warantu y bydd y Wefan hon ar gael heb i ddim amharu arni neu heb nam. Yn yr un modd ni allwn warantu y bydd yn ddiogel trosglwyddo unrhyw wybodaeth dros rwydweithiau telathrebu o'r fath nac y byddwch yn gallu cael mynediad i'r Wefan hon bob tro.
PWYSIG: darperir y Wefan hon i chi felly "fel y mae" a "phan fydd ar gael".
4. Defnyddiwr cofrestredig
Gallwch ddewis dod yn ddefnyddiwr cofrestredig y Wefan er mwyn i chi allu arbed eich chwiliadau o'r Gronfa Ddata ("Defnyddiwr Cofrestredig"). Pan fyddwch yn cofrestru fel Defnyddiwr Cofrestredig, yr ydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth gywir, cyfoes a chyflawn, fel y gofynnir amdani gan y Wefan ("Eich Data") a diweddaru Eich Data yn brydlon pan fydd unrhyw newidiadau iddynt.
Yn gyfnewid am hynny yr ydym yn cytuno i ddefnyddio Eich Data dim ond at ddibenion eich galluogi i arbed eich chwiliadau o'r Gronfa Ddata a dim ond yn unol â'r Telerau Defnydd hyn.
5. Cynnwys
Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y Gronfa Ddata ("Gwybodaeth am Addysg Uwch") yn gywir, yn briodol ac yn gyfoes, dylech nodi:
- gan fod y Wybodaeth am Addysg Uwch yn cael ei darparu gan brifysgolion, darparwyr addysg uwch eraill a myfyrwyr, ni allwn fonitro pob eitem ac ni fyddwn yn gwneud hynny;
- nid ydym yn gwneud unrhyw ddatganiad, gwarant neu ardystiad ynghylch y Wybodaeth am Addysg Uwch na'i chywirdeb; ac
- mae unrhyw beth sydd ar y Wefan hon er gwybodaeth yn unig ac nid yw'n gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu broffesiynol.
Er ein bod yn defnyddio meddalwedd chwilio feirysau i wirio cynnwys y Wefan, ni allwn warantu nad oes feirws ac/neu nam arni. Dylech wirio unrhyw gynnwys cyn ei lawrlwytho bob tro. Byddwch yn lawrlwytho unrhyw gynnwys o'r wefan ar eich menter eich hun, ac ar y sail honno chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol neu am golli data a fydd yn deillio o lawrlwytho cynnwys o'r fath.
PWYSIG: Noder mai chi sy'n gwbl gyfrifol am unrhyw benderfyniadau a wnewch yn seiliedig ar y wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod a fydd yn deillio o ddefnyddio'r Wefan.
6. Perchnogaeth a defnyddio'r cynnwys
Yr ydych yn cydnabod mai ni neu ein trwyddedwyr eraill (fel y bo'n briodol) sy'n berchen ar bob hawlfraint, hawliau cronfa ddata, hawliau dylunio, nodau masnach a hawliau eraill yn ymwneud ag eiddo deallusol (p'un a ydynt wedi'u cofrestru neu fod modd eu cofrestru neu fel arall) ledled y byd, am gyfnod llawn hawliau o'r fath ("Hawliau Eiddo Deallusol") sy'n ymwneud â'r Wefan hon (yn cynnwys y Gronfa Ddata).
Eich trwydded ar gyfer y Gronfa Ddata
Yr ydym ni, ar ein rhan ni ein hunain ac ar ran ein trwyddedwyr, yn rhoi trwydded fyd-eang, di-freindal, bythol, anghyfyngol i chi i ddefnyddio'r Wybodaeth am Addysg Uwch yn amodol ar yr amodau isod.
Nid yw'r drwydded hon yn effeithio ar eich rhyddid o dan eithriadau neu gyfyngiadau delio teg neu ddefnydd teg neu unrhyw hawl neu gyfyngiad arall yn ymwneud â hawlfraint neu gronfa ddata.
Mae rhyddid i chi:
- gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo'r Wybodaeth am Addysg Uwch;
- addasu'r Wybodaeth am Addysg Uwch; a
- 6.1.3 manteisio'n fasnachol ar y Wybodaeth am Addysg uwch, er enghraifft drwy ei chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu'ch rhaglen eich hun.
Os byddwch yn gwneud unrhyw un o'r uchod, rhaid i chi:
- cydnabod ffynhonnell y Wybodaeth am Addysg Uwch drwy gynnwys y
datganiad canlynol:
© Atgynhyrchir deunydd hawlfraint HEFCE gyda chaniatâd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) a gellir ei ddefnyddio yn ei ffurf wreiddiol o'r wefan hon: http://unistats.direct.gov.uk. Mae pob hawlfraint a hawliau eraill sy'n ymwneud ag eiddo deallusol yn unrhyw ddeunydd sydd ar wefan Unistats yn eiddo i HEFCE neu ei drwyddedwyr.
a, lle y bo'n bosibl, darparu dolen i'r drwydded hon; - sicrhau nad ydych yn defnyddio'r Wybodaeth am Addysg Uwch mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw statws swyddogol neu ein bod yn eich cymeradwyo chi neu eich defnydd o'r Wybodaeth am Addysg Uwch;
- sicrhau nad ydych yn camarwain eraill neu'n cam-gyfleu'r Wybodaeth am Addysg Uwch neu ei ffynhonnell; a
- sicrhau nad yw eich defnydd o'r Wybodaeth am Addysg Uwch yn torri Deddf Diogelu Data 1998 neu'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddiaeth y CE) 2003.
Mae'r rhain yn amodau pwysig o'r drwydded hon ac os na fyddwch yn cydymffurfio â hwy daw'r hawliau a roddwyd i chi o dan y drwydded hon i ben yn awtomatig.
Eithriadau
Nid yw'r ddogfen hon yn cwmpasu'r defnydd o logos y wefan hon ac eithrio pan fyddant yn rhan annatod o ddogfen neu set ddata.
7. Dolenni i wefannau trydydd partïon
Yr ydym yn darparu dolenni i wefannau a chynnwys trydydd partïon er cyfleustra. Nid argymhellion yw'r dolenni hyn. Noder y gall cynnwys trydydd partïon fod yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd gan berchennog y cynnwys a allai fod yn drydydd parti. Nid yw cynnwys dolenni i wefannau trydydd partïon yn golygu ein bod yn cymeradwyo unrhyw gynnwys sydd ar y gwefannau y gellir cael mynediad iddynt drwy'r dolenni hynny. Nid yw HEFCE yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd partïon o'r fath a thrwy hyn mae'n ymwadu pob atebolrwydd am unrhyw golled a/neu ddifrod y gallech ei ddioddef yn sgil cael mynediad i gynnwys o'r fath a/neu ddefnyddio cynnwys o'r fath.
8. Cwcis y we
Yr ydym yn defnyddio dau fath o gwcis ar ein Gwefan:
- Cwcis y we
Mae cwcis y we yn cynnwys ffeiliau bach, sy'n aml yn cynnwys codau adnabod unigryw, sy'n cael eu hanfon gan weinyddion y we i borwyr y we, ac sydd wedyn yn gallu cael eu hanfon yn ôl i'r gweinydd bob tro y bydd y porwr yn gwneud cais am dudalen gan y gweinydd. Gall gweinyddion y we eu defnyddio i ddynodi ac olrhain defnyddwyr wrth iddynt welywio i wahanol dudalennau gwefannau a dynodi defnyddwyr sy'n dychwelyd i wefan. Os byddwch yn dod yn Ddefnyddiwr Cofrestredig, yr ydym yn defnyddio cwcis i'ch galluogi i arbed eich chwiliadau a dychwelyd atynt yn ddiweddarach. Drwy ddod yn Ddefnyddiwr Cofrestredig, yr ydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio'r cwcis at y dibenion hyn. - Google Analytics
Mae gwefan Unistats yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i werthuso eich defnydd o'r wefan ac yn llunio adroddiadau i ni ar y gweithgaredd ar y wefan.
Mae Google yn storio'r wybodaeth a gasglwyd gan y cwci ar weinydd yn yr Unol Daleithiau. Gall Google drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon hefyd lle mae'n ofynnol iddo wneud hynny o dan y gyfraith, neu os bydd trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Drwy ddefnyddio gwefan Unistats, yr ydych yn cytuno y gall Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac at y dibenion a amlinellir uchod.
Nid oes rhaid i chi dderbyn y cwci hwn a gallwch ei wrthod neu ei ddileu. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar Google:
http://www.google.com/intl/en/privacypolicy.html
9. Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost atom i: kis@hefce.ac.uk
Neu drwy ysgrifennu atom yn:
Y Tîm Darparu Gwybodaeth
Provision of Information team
HEFCE, Northavon House
Coldharbour Lane, Frenchay
Bristol
BS16 1QD