Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
'Cronfeydd Ieuenctid' yw'r enw a roddir i'r Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid a'r Gronfa Cyfalaf Ieuenctid. Mae miliynau o bunnau ar gael i wneud gwell gweithgareddau i bobl ifanc yn eu harddegau yn Lloegr, a gallwch chi helpu i benderfynu ym mhle y bydd yr arian yr cael ei wario.
Pan gynhaliodd y llywodraeth arolwg am gyfleusterau lleol i bobl ifanc yn 2005, dwedoch chi yr hoffech gael mwy o ddewis o ran pa brosiectau fyddai'n cael eu rhoi ar waith. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr y caiff eich llais ei glywed, cyflwynwyd y Cronfeydd Cyfleoedd Ieuenctid a Chyfalaf Ieuenctid. Mae’r ddau bot o arian yn rhoi cyfle i chi ailwampio tipyn ar eich cyfleusterau lleol.
Rhaid gwario’r arian i gyd erbyn mis Mawrth 2011. Dyma'r pethau gorau:
Mae'r arian ar gael i helpu pobl 13-19 mlwydd oed yn Lloegr fel chi i wneud y canlynol:
Gwnewch gais am Gronfeydd Ieuenctid drwy eich awdurdod lleol - does dim ots pwy ydych chi, gall pawb ddweud eu dweud a chymryd rhan.
Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw:
Peidiwch ag anghofio gwirio'r amodau cyllid i wneud yn siŵr bod eich syniad yn gymwys.
Os yw pawb yn eich grŵp dan 18, efallai y bydd rhaid i chi gael oedolyn i lofnodi'r ffurflen.
Pobl ifanc sydd hefyd yn penderfynu i ble'r aiff yr arian. Mae rhai awdurdodau lleol wedi sefydlu paneli o bobl ifanc yn eu harddegau o'u hardal hwy i helpu i ddewis y prosiectau gorau. Mae rhai eraill yn holi holl bobl ifanc eu hardal i weld ym mhle y maent yn meddwl y dylid gwario'r arian.
Bydd gan eich awdurdod lleol 'gydlynydd Cronfeydd Ieuenctid', neu 'gydlynydd YOF', yn gweithio iddynt. Byddant yn gallu dweud wrthych sut y gwneir y penderfyniad yn eich ardal. Os ydych chi eisiau cymryd rhan gyda'ch Panel Ieuenctid lleol, darganfyddwch sut y mae aelodau eraill yn meddwl eu bod wedi elwa drwy wylio fideo
Peidiwch â phoeni os nad ydych erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen. Mae meddwl am gynllun ar gyfer prosiect yn waith i nifer o bobl, a gallwch benderfynu faint o gyfrifoldeb yr hoffech ei gymryd.
Y peth da am Gronfeydd Ieuenctid yw y gallwch ymuno â'ch ffrindiau a gweld beth sydd ar goll yn eich ardal chi. Gallwch helpu i benderfynu pa weithgareddau a chyfleusterau y mae eu hangen, cymryd rhan a gweld eich cynllun yn cael ei wireddu.
Os ydych chi'n gwybod bod angen rhai gwelliannau ar eich cymdogaeth, ond na allwch feddwl am syniad penodol, edrychwch ar ein tudalennau o enghreifftiau bywyd go iawn i weld pa brosiectau sydd eisoes yn cael eu rhedeg o gwmpas y wlad a sut mae arian Cronfa Ieuenctid wedi'u helpu hwy.
Ystyr YOF yw Youth Opportunity Fund neu Gronfa Cyfleoedd Ieuenctid. Fel arfer, rhoddir arian YOF i'r prosiectau eu hunain a gellir defnyddio'r arian i brynu cyfarpar.
Ystyr YCF yw Youth Capital Fund (Cronfa Cyfalaf Ieuenctid). Mae prosiectau YCF yn tueddu i fod yn fwy o ran maint na rhai YOF. Maent yn talu am yr adeiladau a'r cyfleusterau y mae eu hangen ar bob prosiect, yn hytrach na chost rhedeg prosiect.
Does dim rhaid i chi boeni am y termau. Y peth pwysicaf yw eich bod yn meddwl am syniad da ac yn cysylltu â'ch awdurdod lleol. Bydd eu cydlynydd Cronfeydd Ieuenctid yn gallu'ch helpu chi gyda hyn.