Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Trawsgript fideo: Prosiectau Cronfeydd Ieuenctid

Sut y daethoch i wybod am y Cronfeydd Ieuenctid hyn?

- "Cawsant eu hysbysebu yn y gymuned."

Beth oedd wrth wraidd y prosiect?

- "Addysg, chwaraeon, hamdden. Pethau felly."

- "Dim ond cyfleusterau'n syml iawn, fel bod gan y bobl ifanc bethau i'w gwneud a'u defnyddio yma."

Sut y gwnaethoch chi feddwl am y syniad?

- "Dyma ni'n penderfynu y byddai'n ddefnyddiol i ni gael nawdd, dim ond fel bod gennym rywfaint o arian i ddechrau o ddifri ar y gwaith o adeiladu'r lle chwarae er mwyn i'r plant gael rhywbeth i'w wneud. Byddwn hefyd yn cael arian i gael mynd ar deithiau, a phethau felly."

- "Cael pobl at ei gilydd, cyfarfod pobl newydd, cael dianc o'r tŷ yn hytrach na gorfod aros i mewn."

- "Mae'r addysg a'r adnoddau hamdden ar gael i bawb. Unrhyw grefydd, unrhyw hil, gall unrhyw un ddod. Ac mae gennym ysgol Bengali y gall unrhyw un ddod iddi ar hyn o bryd."

- "Er mwyn i ni gael bond gyda'n babanod."

- "Rhywle i fynd â nhw heb law am y ganolfan ieuenctid, a rhywle sy'n dipyn o hwyl iddyn nhw hefyd, er mwyn iddynt gael ychydig o antur!"

Sut aethoch chi ati i gynllunio'r prosiect?

- "Fe wnaethom edrych ar y llefydd yr oeddem yn bwriadu mynd iddynt. Er enghraifft, wrth fynd i nofio, efallai y byddem yn codi tâl penodol, ac yna mae'n rhaid edrych ar y gost o logi'r lle a faint o bobl sy'n dod. Felly, wrth fynd i nofio byddai un achubwr bywyd yn gyfrifol am 20 o bobl, a bydden ninnau'n adio'r cyfan ac yn cyfrifo'r cyfanswm terfynol."

- "Yn y gorffennol, rydym hefyd wedi mynd i nofio ac wedi bod yn chwarae badminton, ond doedden ni ddim yn gallu eu gwneud ar raddfa fwy. Felly fe wnaethom gyfrifo faint yr oedd hyn oll wedi ei gostio i ni pan roedden ni wedi eu gwneud, ond ar raddfa fwy, a chyfrifo faint fyddai'r gost.

- "Daeth y penderfyniad gan bawb oedd yn y grŵp. Dyma ni i gyd yn eistedd i lawr ac yn cael sesiwn hel syniadau. Fe wnaeth pawb gyfrannu, a dweud beth roedden nhw eisiau ei gyflawni wrth wneud y prosiect hwn. Cafodd pawb swyddogaeth wahanol - cafodd un y gwaith o fod yn gadeirydd, roedd un arall yn ysgrifennydd ac yn y blaen, felly mae gennym hyder wrth wneud pethau, wrth gyfrannu, wrth siarad a chyfathrebu gyda'n gilydd."

Beth oedd y rhwystrau mwyaf i chi ddod ar eu traws?

- "Yn syml, cael y merched, wyddoch chi, y mamau a'u plant i ddod at ei gilydd i gyfarfod ar amser penodol. Achos weithiau, pan rydych chi'n mynd ati i ffonio pobl, bydd un person wedi cael gwybod droeon gan yr un ffrindiau, ac un arall heb glywed o gwbl, ac mae'n anodd cael un lle penodol i bawb gyfarfod."

- "Mae'n anodd cyfathrebu gyda phobl ar hyn o bryd."

- "Roedden ni'n cyfarfod fel grŵp ac weithiau doedd ambell un ddim yn gallu dod. Roedd hi'n anodd cael cyfraniad gan bawb, ond daeth mwy a mwy o bobl i gyfrannu a chafodd pawb gyfle i ddweud eu syniadau. Weithiau byddai rhywun newydd yn dod i mewn a byddai'n rhaid i ni ailedrych ar yr hyn yr oeddem wedi ei wneud o'r blaen."

Ydy'r prosiect wedi'ch helpu mewn ffyrdd eraill?

- "Rydw i'n meddwl bod pawb wedi dod yn nes at ei gilydd, oherwydd fe wnaeth pob un ohonom gyfrannu a gwneud ein gorau glas gyda phopeth - yr hyn yr oeddem yn ei ysgrifennu, y sillafu, y geiriau a phopeth, felly roedd hynna'n eitha da yn fy marn i."

- "Fe wnaeth ein helpu i fynd allan o'r tŷ ac i gyfarfod pobl newydd, ac mae'r chwaraeon yn ein gwneud yn fwy heini. Mae'r llywodraeth eisiau i chi fynd allan i wneud rhywbeth, ac i gadw'n iach ac yn heini."

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl eraill sy'n dymuno gwneud gwahaniaeth i'w hardal?

- "Wel, ceisiwch gael pobl i gymryd rhan. Peidiwch â'i wneud yn ddiflas, achos does neb eisiau mynd i glwb diflas. Gwnewch rywbeth y bydd pobl yn gallu ei fwynhau."

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU