Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais gwych i'r Gronfa Ieuenctid

Efallai bod gennych syniad ardderchog, ond os nad yw'ch cais yn unigryw ac yn wahanol i geisiadau eraill, efallai na chewch chi'r arian sydd ei angen arnoch. Wrth ysgrifennu cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar bwyntiau penodol i sicrhau bod y panel ieuenctid yn gallu gweld faint y bydd eich prosiect yn gwella'r ardal leol.

Cyn i chi ddechrau eich cais

Efallai eich bod wedi cael syniad, ac wedi meddwl am yr union beth sydd ei angen ar eich cymuned - ond beth mae pobl eraill yn ei feddwl? Ai rhywbeth mai dim ond chi a llond llaw o bobl eraill fydd â diddordeb ynddo yw'r prosiect posib hwn?

Nid yw Paneli Ieuenctid ac awdurdodau lleol yn debygol o roi arian at brosiectau a fydd yn fanteisiol i ychydig o bobl yn unig, felly mae'n syniad da holi'ch ffrindiau a phobl eraill yn yr ysgol neu'r grŵp ieuenctid beth yw eu barn nhw am eich syniad.

Os oes llawer o bobl yn cytuno â chi, mae'n amlwg bod eich syniad yn un da. Holwch a fyddent yn hoffi'ch helpu i wneud cais am arian gan y Gronfa Ieuenctid - mae'n llawer haws cynllunio prosiect mewn grŵp.

Os hoffech wybod am beth y bydd aelodau o Baneli Ieuenctid yn chwilio go iawn wrth ddyfarnu arian, edrychwch ar y cyfweliad fideo.

Ar gael i bawb

Pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro sut y gall unrhyw berson ifanc yn eich ardal leol ddefnyddio'r syniad sydd gennych am brosiect, yn enwedig os yw'n ymwneud ag adeiladu cyfleusterau chwaraeon a hamdden neu wneud gwelliannau i'r ganolfan ieuenctid leol.

Y mwyaf o bobl a fydd yn elwa, y mwyaf tebygol ydych chi o gael arian.

Fodd bynnag, os mai prosiect ar gyfer ychydig o bobl yn unig ydyw, ceisiwch egluro'r rhesymau dros hyn. Gallai prosiectau ar gyfer nifer cyfyngedig o bobl gynnwys rhai tebyg i'r rhain:

  • grwpiau cefnogi ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi dioddef trais yn y cartref
  • gwasanaeth cwnsela ar gyfer pobl ifanc sy'n poeni am gam-drin alcohol a chyffuriau

Sut bydd eich syniad yn helpu pobl?

Mae gan y Paneli Ieuenctid a'r awdurdodau lleol sy'n dosbarthu arian y Gronfa Ieuenctid set o bum canlyniad y byddant yn eu defnyddio i bwyso a mesur eich prosiect. Nodir y canlyniadau hyn gan y llywodraeth, sydd eisiau gwneud yn siŵr y bydd eich prosiectau ieuenctid yn arwain at newidiadau mewn cymunedau, yn enwedig y cymunedau hynny nad ydynt yn meddu ar gyfleusterau y gall pobl ifanc yn eu harddegau eu defnyddio yn eu hamser rhydd.

Wrth ysgrifennu'ch cais, dylech geisio egluro sut bydd eich prosiect yn cyflawni'r canlyniadau hyn. Dyma’r canlyniadau:

  • gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol ac annog pobl ifanc yn eu harddegau i fyw bywyd iach
  • darparu gweithgareddau a llefydd sy'n helpu i amddiffyn pobl ifanc a allai fod mewn perygl yn eu cartrefi
  • dysgu sgiliau newydd a fydd yn edrych yn dda ar CV neu ar ffurflen gais i fynd i goleg neu brifysgol
  • rhoi cyfle i bobl ifanc wneud gwahaniaethau cadarnhaol yn eu hardaloedd, yn enwedig y bobl ifanc hynny sy'n cael eu rhoi dan bwysau i dorri'r gyfraith
  • helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, pwy bynnag ydyn nhw

Os ydy'r canlyniadau hyn yn peri dryswch i chi, ewch i gael sgwrs gyda gweithiwr ieuenctid neu gyda chydlynydd Cronfeydd Ieuenctid yn eich awdurdod lleol - byddan nhw'n gallu eich helpu.

Canllawiau cyffredinol

Ceir hefyd rhai pethau cyffredinol y dylech eu hystyried wrth ysgrifennu cais i'r Gronfa Ieuenctid. Synnwyr cyffredin yw'r rhan fwyaf ohonynt ac maent yn berthnasol i ysgrifennu CV neu lythyr eglurhaol ar gyfer swydd:

  • mae'n debygol y bydd dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich ffurflen mewn da bryd
  • gwnewch yn siŵr bod eich cais yn eglur, yn hawdd ei ddarllen ac nad oes gwallau sillafu na gwallau gramadeg ynddo
  • dylech atodi taflen gyllideb sy'n dangos faint fydd cost debygol y prosiect - bydd gweithiwr ieuenctid neu athro yn gallu eich helpu i wneud hyn

Yn yr adran hon...

Additional links

Gwneud cais am arian

Os ydych am wneud cais am arian Cronfeydd Ieuenctid, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol

Cysylltiadau defnyddiol

need2know

Popeth y mae angen i chi ei wybod gyda need2know

Allweddumynediad llywodraeth y DU