Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
- "Ar ôl i ni roi'r arian, rydyn ni bob amser wedi gofyn am adborth, boed yr adborth hwnnw'n dystiolaeth ar ffurf lluniau, fideo, llythyr neu alwad ffôn, neu efallai y byddwn hyd yn oed yn galw draw i weld prosiect ar waith."
- "Gyda gwerthusiad ysgrifenedig o'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau."
- "Rydyn ni'n gobeithio llunio cytundeb - dyma beth hoffwn i ei wneud - llunio cytundeb a gofyn iddyn nhw anfon tystiolaeth aton ni. Ydy'r prosiect yn gweithio? Gellid gofyn am luniau efallai neu gallent ddod atom i ddweud yr hanes."
- "Rydym wedi gofyn iddyn nhw anfon lluniau a llythyrau atom - ryw fath o dystiolaeth i ni gael gweld beth maen nhw wedi ei wneud."
- "Rydyn ni'n gorfod cael adroddiadau ar y datblygiad a chael gwybod sut mae'n mynd."
- "Bydd yn para dwy flynedd. Cewch aros am faint bynnag o amser rydych chi'n dymuno, a gadael pan rydych chi eisiau gwneud hynny."
- "Am faint bynnag rydyn ni eisiau aros."
- "Rydw i'n meddwl mai dwy flynedd yw cyfnod y gwasanaeth. Dydw i ddim yn gwybod a fydda i'n ddigon ifanc i fynd arno eto."
- "Mae'n dibynnu, dydw i ddim yn gwybod. Bydd ambell aelod o'r panel yn gadael, ond bydd aelodau eraill yn gwneud rhywfaint o waith hyfforddi cyfoedion er mwyn gallu gwahodd pobl ifanc eraill ar y panel."
- "Dydw i ddim yn gwybod. Am y blynyddoedd yr ydw i wedi cael fy ethol gobeithio, a gobeithio am y ddwy flynedd nesaf."
- "Dydw i ddim yn siŵr pa mor hir, ond rydw i'n gobeithio cael aros mor hir ag y gallaf. A gobeithio y gallaf fynd ymlaen at bethau eraill hefyd. Byddwn yn hoffi bod yn rhan o hynny hefyd."
- "Gwnes ffrindiau newydd."
- "Rydych chi'n cael gwneud llwyth o ffrindiau newydd ac yn cael y profiad o adeiladu timau a dysgu sut mae gweithio gyda phobl newydd. Mae wedi rhoi llawer o sgiliau newydd i ni - sgiliau nad oedd gennym cyn hynny."
- "Rhoddodd hwb i'm hyder, gan fy mod yn gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu pobl."
- "Y peth mwyaf amdano yw'r sgiliau adeiladu tîm a dysgu sut i gyfaddawdu - y math o bethau y bydd oedolion yn eu gwneud. Gorfod gweithio'ch ffordd i sefyllfaoedd, peidio â rhoi eich troed i lawr. Mae'n rhaid i chi allu cyfaddawdu gyda'r tîm.
- "Mae gennyf fwy o syniad beth sy'n mynd ymlaen ym mhobman ac mae'n rhoi cyfle i mi ffurfio mwy o farn am bethau."
- "Dim ond dysgu mwy amdanaf fy hun ac am waith grŵp. Hefyd, rydw i wedi dysgu fy mod i'n gallu gwneud pethau i helpu pobl sy'n byw yn yr ardaloedd o'm cwmpas."
- "Doeddwn i ddim wir wedi arfer cyfaddawdu. Roeddwn wedi arfer cael fy ffordd fy hun, ond ers hyn, rwyf wedi gwella ryw fymryn yn hynny o beth."
- "Ar lefel bersonol, rydw i wedi dysgu sut i weithio mewn tîm; sut i fod ychydig yn fwy democrataidd."
- "Rydych chi'n fwy na dim ond plentyn - rydych chi'n bwysig. 'Da chi'n gwybod, mi ddylai'ch llais gael ei glywed, y math yna o beth. 'Dw i'n meddwl ei fod yn eich gwneud yn fwy annibynnol o ran gwneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch y pethau a ddylai gael eu gwneud, yn hytrach na chael pobl eraill yn penderfynu ar eich rhan drwy'r amser."
- "Fe wnes i gwrdd â phobl newydd a dysgu sut i wneud y gwaith, a gweld yr ochr arall i bethau, felly ydy, mae o wedi bod yn fuddiol."
- "Rwy'n meddwl ei fod yn fy helpu i ddod yn fwy o ran o'r gymuned a dweud y gwir. Dyna sut rwy'n teimlo."
- "Rwy'n meddwl ei fod wedi fy ngwneud ychydig yn fwy aeddfed."
- "Rwy'n gobeithio y bydd yn edrych yn beth da o ran fy sgiliau cyfathrebu, ac rwy'n gobeithio y bydd yn edrych yn dda ar fy CV hefyd."
- "Mae'n deimlad da gwybod fy mod wedi gwneud rhywbeth i fy ardal."
- "Byddwn. Mae'n beth da iawn. Rydw i'n meddwl y bydd yn fanteisiol i lawer o bobl."
- "Mae'n gyfle da i bobl feithrin sgiliau newydd, er enghraifft, gallant roi hwb i'w hyder a gwella eu sgiliau cyfathrebu."
- "Byddwn oherwydd yn syml iawn rydych chi'n cael tystysgrif am wneud, ac rydych chi'n cael profiad - profiad o fyd gwaith."
- "Mae'n gyfle da i leisiau pobl ifanc gael eu clywed."
- "Byddwn. Byddwn yn argymell hyn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu pobl yn eu hardal. Mae'n gyfle gwych i bawb."
- "Pan ddes i i'r ysgol hon doedd gen i ddim ryw lawer o hyder. Ond pan ddechreuais ddod yma cododd fy hyder. Pan rydych chi'n dod yma rydych yn cwrdd â phob math o wahanol bobl, pobl o sawl hil wahanol ac o gefndiroedd gwahanol."
- "Gan fy mod wedi dweud, 'Rydw i am wneud hyn', rwyf wedi cwrdd â llwyth o bobl newydd."
- "Byddwn, oherwydd ei fod yn wych, a dweud y gwir! Rydw i'n hoffi dod yma oherwydd ei fod yn wahanol i'r hyn yr oeddwn yn arfer ei wneud, fel mynd allan gyda ffrindiau a phopeth, ond gyda hyn, rydych chi'n cyfarfod pobl newydd ac yn dweud wrthynt am eu bywydau."
- "Rydw i'n bendant yn meddwl ei fod yn ddechrau da gan y llywodraeth, rhoi arian i bobl ifanc a gadael iddyn nhw benderfynu ar beth y maen nhw'n mynd i'w wario."
- "Mae fel rhoi llais i ni ddweud beth ddylai gael ei wneud yn ein barn ni, yn hytrach na'n bod yn gorfod derbyn beth mae'r llywodraeth yn ei benderfynu i ni."
- "Mae'n rhoi cyfrifoldeb i ni hefyd - cyfrifoldeb y dylen ni ei gael yn fy marn i - yn hytrach na'n bod yn cael ein gwthio i un ochr a chael pobl eraill yn gwneud penderfyniadau ar ein rhan."
- "Ydy, yn bendant, drwy roi cyfle i bobl gael gafael ar arian ar gyfer eu grŵp, i gael arian ar gyfer y pethau sydd eu hangen arnynt ac i wneud pethau na fyddent yn gallu eu gwneud fel arfer oherwydd nad yw'r arian ganddynt."
- "Mae'n syniad ardderchog, gobeithio y bydd yn cario 'mlaen yn y dyfodol. Pe baech yn holi pob person ifanc yn yr ardal, byddant yn dweud eu bod yn dymuno cael mwy o gyfleusterau ar gyfer ieuenctid o amgylch rhai pentrefi. Er enghraifft, mewn un pentref, does ganddyn nhw ddim canolfannau ieuenctid a gallwch weld y bobl ifanc yn eu harddegau ar ôl yr ysgol ar nos Wener yn cicio'u sodlau yn y pentrefi ac o amgylch y ganolfan siopau."
- "Rydyn ni'n cael ein clywed ac os na fydden ni'n sefyll i fyny ac yn dweud rhywbeth, efallai na fyddai dim yn cael ei wneud, felly mae'n beth da eu bod yn gwrando."
- "Ydy yn fy marn i, oherwydd mae'n rhoi cyfle i lawer o bobl o ardaloedd difreintiedig weithio ar bethau y mae arnynt eisiau eu gwneud."
- "Ydy, mae hyn yn beth ardderchog, gadael i blant leisio'u barn wrth benderfynu at ba bethau y dylid cyfrannu'r arian, oherwydd y rhan fwyaf o'r amser, bydd yn cael ei roi tuag at bethau gwirion y mae oedolion eu heisiau."
- "Mae'n gyfle gwych oherwydd os yw'r llywodraeth yn dangos diddordeb mewn plant, gobeithio y bydd gan y genhedlaeth hŷn ddiddordeb hefyd, felly rwy'n meddwl ei fod yn gyfle gwych ac yn falch iawn o fod yma."