Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Stopio a chwilio

Er mwyn helpu i atal troseddu a gwarchod diogelwch y cyhoedd, gall yr heddlu stopio pobl a gofyn iddyn nhw egluro'u hunain dan rai amgylchiadau. Fodd bynnag, chân nhw ddim stopio rhywun oherwydd eu hymddangosiad.

Beth yw stopio a chwilio?

Stopio a chwilio yw un o'r pwerau a ddefnyddir weithiau gan yr heddlu i atal troseddu yn y gymuned leol. Mae hyn yn golygu bod gan swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr hawl i'ch stopio a gofyn ychydig o gwestiynau i chi am beth rydych chi'n ei wneud yn yr ardal honno. Fe allwch gael eich stopio ar y stryd neu yn eich car.

Mae stopio a chwilio hefyd yn golygu y caiff yr heddlu eich chwilio os byddan nhw'n amau eich bod yn cario sylwedd anghyfreithlon neu rywbeth y gellid ei ddefnyddio'n arf.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cael eich stopio

Os cewch eich stopio gan heddlu, nid yw o reidrwydd yn golygu eu bod nhw'n amau eich bod chi wedi gwneud rhywbeth o'i le, ac nid eich arestio y maen nhw. Fe allen nhw fod yn gofyn am eich help, neu fe allen nhw fod eisiau gwybod a ydych chi newydd weld unrhyw beth amheus yn digwydd.

Oni fyddwch yn ffitio disgrifiad rhywun sydd dan amheuaeth o droseddu, ni chaiff yr heddlu eich stopio ar sail eich hil, crefydd, oedran na'r dillad rydych chi'n eu gwisgo.

Beth fydd rhaid i'r heddlu ei wneud

Os cewch eich stopio gan heddlu a'u bod yn gofyn i chi ymhle y buoch yn yr oriau diwethaf a beth fuoch chi'n ei wneud, mae sawl peth y mae'n rhaid iddynt ei wneud.

Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r swyddog heddlu dweud eu henw wrthych, a dweud ym mha orsaf heddlu y maent yn gweithio. Hefyd, bydd rhaid iddynt ddweud wrthych pam eu bod wedi'ch stopio a beth maen nhw'n chwilio amdano. Yn olaf, rhaid iddyn nhw gofnodi holl fanylion y stopio a'r chwilio ar ffurflen, ac yna rhaid iddyn nhw roi'r ffurflen honno i chi.

Os ydyn nhw am eich chwilio, rhaid iddyn nhw wneud hynny mewn man cyhoeddus. Mae'n bosibl y byddan nhw'n gofyn i chi wagio'ch pocedi, agor eich bag neu dynnu'ch cot er mwyn sicrhau nad ydych yn cuddio unrhyw arfau na nwyddau wedi'u dwyn.

Chân nhw ddim gwneud chwiliad y tu hwnt i hynny, oni bai fod ganddynt dystiolaeth gref eich bod o bosibl yn gysylltiedig â therfysgaeth, neu eu bod yn credu eich bod yn defnyddio'ch dillad i guddio pwy ydych chi. Os felly, rhaid i chi gael eich chwilio mewn man preifat, a rhaid i'r swyddog sy'n eich chwilio fod o'r un rhyw â chi.

Sut mae cwyno

Os ydych yn credu i chi gael eich trin yn annheg, ac yn teimlo mai'r unig reswm dros eich stopio oedd ar sail eich hil, eich crefydd neu'r dillad yr oeddech yn eu gwisgo, gallwch wneud cwyn am wahaniaethu.

Dylai'r ffurflen a roddwyd i chi ar ôl eich stopio gynnwys holl fanylion y swyddog a wnaeth eich stopio, felly gallwch gwyno'n syth wrth swyddfa heddlu lle maen nhw'n gweithio.

Oni fyddwch yn fodlon gyda'r atebion a gewch, neu os oes eisiau cyngor pellach arnoch cyn gwneud cwyn, gall eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol eich helpu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU