Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
I wneud cais am basbort cyfunol mae angen i chi ddarparu dogfennau ategol, yn ogystal â ffurflen gais. Mae dogfennau ategol yn cynnwys ffurflenni caniatâd rhieni wedi'u llofnodi ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc a llythyr cefnogi ar gyfer pob cais neu fudiad sy'n gysylltiedig.
Bydd angen i chi gael ffurflen gais benodol ar gyfer pasbortau cyfunol. Gweler 'Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol' am fanylion llawn.
Mae'r ffurflen hon yn galluogi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i gadarnhau cenedligrwydd pob plentyn ac i wneud yn siŵr ei bod yn iawn iddynt deithio. Rhaid i chi gynnwys ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn ar gyfer pob plentyn.
Ceir dwy fersiwn o’r ffurflen:
Dylech roi copi o'r ffurflen berthnasol i bob plentyn er mwyn i'w rhieni neu'u gofalwyr ei llenwi a'i llofnodi.
Gallwch argraffu copïau o ffurflenni CPNQ1 a CPNQ2.
Os yw rhieni'r plentyn yn briod
Caiff y naill riant neu'r llall lofnodi'r ffurflen.
Os yw rhieni'r plentyn bellach wedi ysgaru
Caiff y naill riant neu’r llall lofnodi’r ffurflen cyn belled â’u bod wedi bod yn briod naill ai:
Fodd bynnag, os mae llys wedi gwneud gorchymyn ynghylch cyfrifoldeb rhiant neu ynghylch rhoi pasbort i'r plentyn, mae hwn yn effeithio ar bwy y gall lofnodi’r ffurflen. Mae’n rhaid anfon unrhyw orchymyn fel hwn gyda'r cais.
Cofiwch, nid yw'r ffaith bod gan un rhiant orchymyn cystodaeth neu gytundeb cynhaliaeth yn golygu bod y rhiant arall yn colli cyfrifoldeb rhiant.
Os nad yw rhieni plentyn yn briod nac erioed wedi bod yn briod â'i gilydd
Caiff y fam lofnodi'r ffurflen.
Dim ond yn yr achosion canlynol y caiff y tad lofnodi'r ffurflen:
Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau.
Os yw'r plentyn yn byw gyda gwarcheidwad cyfreithiol
Caiff y gwarcheidwad cyfreithiol lofnodi'r ffurflen.
Os yw'r plentyn yn byw gyda gofalwr maeth
Caiff y gofalwr maeth lofnodi'r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau'r plentyn. Dylai'r llythyr nodi dan pa adran o'r Ddeddf Plant y mae'r plentyn mewn gofal.
Os yw'r plentyn dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol
Caiff y gweithiwr cymdeithasol neu reolwr y cartref gofal lofnodi'r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau'r plentyn. Dylai'r llythyr nodi dan pa adran o'r Ddeddf Plant y mae'r plentyn mewn gofal.
Bydd arnoch angen cerdyn-llun pasbort cyfunol ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc sy'n bwriadu teithio ar y pasbort cyfunol.
Gallwch archebu'r cardiau hyn gan Swyddfa Basbort Durham dros e-bost
durhamcollectives@ips.gsi.gov.uk
neu drwy ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Rhaid llenwi pob cerdyn â manylion y plentyn, yn union fel yr ymddangosant ar y ffurflen gais. Dylid rhoi llun maint pasbort diweddar ar bob cerdyn hefyd.
O ran y lluniau:
Gallwch ddefnyddio lluniau digidol neu luniau ysgol unigol ar gyfer pasbort cyfunol ar yr amod eu bod yn bodloni canllawiau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Allwch chi ddim defnyddio llun ysgol os yw'r gair 'PROOF' wedi'i ysgrifennu arno.
Dylai Arweinydd y Grŵp lenwi eu manylion eu hunain ac ardystio'r cardiau drwy'u llofnodi cyn cyflwyno'r ffurflen gais.
Rhaid i bob plentyn lofnodi eu cerdyn cyn teithio.
Ar gyfer pob cais am basbort cyfunol (nid ar gyfer pob unigolyn sy'n teithio), bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gael llythyr (ar bapur swyddogol) yn cadarnhau bod y daith wedi'i hawdurdodi a'i bod wedi cael caniatâd. Mae'n ofynnol bod llofnod gwreiddiol ar y llythyr (ni dderbynnir llofnod digidol na llofnod wedi'i lungopïo).
Os yw'ch grŵp yn cynnwys plant o fwy nag un mudiad, bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau angen llythyr cefnogi gan bob mudiad. Mae'r ddolen isod yn dangos enghraifft o'r hyn y dylai llythyr cefnogi ei gynnwys.
Ni chaiff Arweinydd na Dirprwy Arweinydd y parti cefnogi'r cais.
Math o fudiad | Pwy ddylai lofnodi |
---|---|
Ysgolion | Pennaeth, aelod o fwrdd y llywodraethwyr neu awdurdod addysg pob ysgol sy'n rhan o'r parti |
Grwpiau sgowtiaid neu geidiaid | Dylid darparu 'Llythyr cyflwyno' neu lythyr cefnogi gan y Comisiynydd Ardal/Sir Cynorthwyol neu gan Bencadlys y Gymdeithas |
Clybiau pêl-droed neu rygbi | Dylid darparu llythyr gan y gymdeithas bêl-droed leol neu gan gadeirydd neu ysgrifennydd y gynghrair |
Clybiau nofio neu judo | Dylid darparu llythyr o'r pencadlys cenedlaethol |
Cerddorfeydd ieuenctid, corau ac ati | Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod addysg lleol neu gan y ficer os mai mudiad eglwysig ydynt |
Cadetiaid yn y Fyddin neu Awyrlu | Dylid darparu llythyr gan y prif swyddog neu gan yr awdurdod gwasanaethau |
Clybiau neu clybiau ieuenctid | Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod lleol y cofrestrwyd ag ef neu gan y pencadlys cenedlaethol |
Elusennau cofrestredig | Dylid darparu llythyr gan y cyfarwyddwr neu gan unigolyn mewn sefyllfa debyg yn y mudiad |
Os fydd grŵp o blant yn mynd dramor i berfformio at unrhyw ddiben (gan gynnwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu gystadleuaethau), rhaid i'r llythyr cefnogi ddweud:
Os ydych chi'n barod i wneud cais, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell eich bod yn darllen 'Rhestr wirio gan gynnwys ffioedd ar gyfer pasbortau cyfunol'.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus