Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae pasbort cyfunol (neu basbort grŵp) yn ffordd hawdd a chost-effeithiol i grwpiau o bobl ifanc fynd ar deithiau i rai gwledydd yn Ewrop. Mae’n rhaid i chi ganiatáu o leiaf chwe wythnos i gael pasbort cyfunol, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais mewn da bryd oherwydd efallai y gwnaiff gymryd fwy o amser. Yn y fan hon, cewch wybod pwy all ddefnyddio pasbort cyfunol a sut mae gwneud cais am un.
Mae cytundeb rhyngwladol yn rheoli’r modd y caiff pasbortau cyfunol eu defnyddio.
Dim ond wrth deithio i rai gwledydd yn Ewrop y cewch ddefnyddio pasbort cyfunol. Ni chewch ddefnyddio un wrth deithio y tu allan i Ewrop. Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn gallu rhoi pasbort cyfunol ar gyfer unrhyw wlad nad yw'n ei dderbyn. Os na ellir rhoi pasbort cyfunol, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cysylltu ag arweinydd y grŵp sydd wedi’i enwi yn y cais.
Gan fod y rheolau’n gymhleth, mae’r Gwasanaeth yn argymell i bobl ifanc deithio ar eu pasbortau eu hunain pan fydd hynny’n bosib.
Mae IPS wedi cadarnhau y cewch chi, ar hyn o bryd, deithio i’r gwledydd canlynol, neu deithio drwyddynt, ar basbort cyfunol a roddir gan y DU:
Mae IPS wedi cadarnhau na allwch chi deithio i’r gwledydd canlynol, na thrwyddynt, ar basbort cyfunol a roddir gan y DU:
Am gwestiynau ynglŷn â phasbortau cyfunol neu ymweld ag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000.
Gellir rhoi pasbort cyfunol i grwpiau cymeradwy o fyfyrwyr, sgowtiaid, geidiaid neu fudiadau ieuenctid eraill sy'n bwriadu teithio dramor gyda'i gilydd. Ni allwch ei ddefnyddio i deithio yn y DU.
Gellir cynnwys rhwng pump a hanner cant o blant a phobl ifanc ar basbort cyfunol. Ar gyfer grŵp mwy (dros 50 o aelodau), dylech wneud cais am ddau neu ragor o basbortau cyfunol a rhannu'r grŵp rhyngddynt.
Rhaid i bawb sydd ar y pasbort cyfunol fod yn iau na 18 oed pan ddaw'r daith sydd wedi'i threfnu i ben. Rhaid iddynt hefyd fod yn ddinasyddion Prydeinig, sy'n golygu un o'r canlynol:
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am bob un o'r grwpiau hyn yn yr adran 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.
Os ydych chi’n ansicr ynghylch cenedligrwydd, neu os ydych chi’n dymuno trafod unrhyw eithriadau i'r uchod, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000.
Mae'n rhaid i bob grŵp enwebu oedolyn yn arweinydd i deithio gyda nhw. Mae IPS hefyd yn argymell bod grwpiau'n enwebu dirprwy arweinydd. Gallai'r person hwn gymryd yr awenau petai'r arweinydd yn sâl, er enghraifft. Os nad oes dirprwy arweinydd wedi'i enwebu, ac nad yw'r arweinydd yn gallu teithio, bydd y pasbort cyfunol yn annilys. Drwy enwebu dirprwy, gall y grŵp osgoi oedi wrth i enw arweinydd newydd gael ei ychwanegu at y pasbort cyfunol.
Rhaid i arweinyddion grŵp a dirprwy arweinyddion fod yn 21 mlwydd oed neu’n hŷn ac mae'n ofynnol bod ganddynt basbort Prydeinig sy’n ddilys am ddeng mlynedd, gan gynnwys dros gyfnod y trip.
Ymdrinnir â'r holl geisiadau am basbortau cyfunol o'r DU yn Swyddfa IPS yn Durham. Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio i amserlen lem ac mae’n rhaid i chi ganiatáu chwe wythnos o leiaf ar gyfer prosesu cais am basbort cyfunol.
Er bod IPS yn ceisio cwblhau ceisiadau erbyn y dyddiadau teithio, ni all warantu anfon pasbortau cyfunol yn ôl mewn llai na chwe wythnos.
Gallwch gael y ffurflen gais a manylion am y dogfennau ategol y bydd eu hangen arnoch yn yr adrannau canlynol:
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus