Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhestr wirio gan gynnwys ffioedd ar gyfer pasbortau cyfunol

A ydych wedi cadarnhau bod eich grŵp yn gymwys, wedi enwebu Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Grŵp, wedi llenwi eich ffurflen gais ac wedi casglu'r dogfennau ategol ynghyd? Yma, cewch wybod am y ffioedd a sut i dalu - a beth i'w wneud unwaith y bydd eich pasbort cyfunol yn cyrraedd.

Y pethau sylfaenol

Os bydd angen ffurflen gais ar gyfer pasbort cyfunol neu wybodaeth am ddogfennau ategol arnoch, darllenwch y canlynol:

  • 'Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol'
  • 'Dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol'

Cyn i chi wneud cais, holwch am y canlynol:

  • y gallwch ddefnyddio pasbort cyfunol yn y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi
  • a oes unrhyw gyfyngiadau ar eich taith neu ble cewch aros
  • a oes angen fisas arnoch

Fisas

Mae'r rheolau ynghylch fisas a phasbortau cyfunol yn amrywio fesul gwlad.

Dylech gysylltu â llysgenhadaeth neu is-genhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi i weld eu rheolau am basbortau cyfunol a fisas.

Y ffi

Y ffi ar gyfer pasbort cyfunol yw £39. Mae'r ffi hon ar gyfer pob ffurflen gais, nid ar gyfer pob person a gaiff ei gynnwys ar y ffurflen gais.

Dylid gwneud y sieciau a’r archebion post yn daladwy i'r 'Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'. Os ydych yn talu gyda siec, dylech ysgrifennu enw eich grŵp ar y cefn.

Gallwch hefyd dalu gyda cherdyn credyd gan ddefnyddio ffurflen talu gyda cherdyn credyd y gellir ei llwytho oddi ar y we. Dim ond pan fyddwch yn gwneud cais am basbort cyfunol y cewch ddefnyddio'r ffurflen dalu hon. Nid yw'n dderbyniol ar gyfer unrhyw fath arall o gais am basbort.

Rhestr wirio derfynol

Cyn i chi anfon eich cais i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau sicrhewch eich bod wedi cynnwys y canlynol:

  • y copi papur o'r ffurflen gais wedi'i argraffu - sicrhewch fod yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi llofnodi hwn a'ch bod eisoes wedi anfon e-bost o fersiwn electronig y ffurflen i'r Swyddfa yn Durham
  • holiadur cenedligrwydd a ffurflen cydsynio rhieni ar gyfer pob plentyn a gaiff ei gynnwys ar y pasbort cyfunol
  • cardiau llun grŵp ar gyfer pob plentyn (sicrhewch fod yr holl gardiau wedi'u llenwi'n gywir ac wedi'u hardystio gan Arweinydd y Grŵp)
  • y llythyr cefnogi
  • y ffi

Unwaith y bydd eich pasbort cyfunol wedi cyrraedd

Darllenwch ef yn ofalus. Os oes camgymeriad arno dylech ei ddychwelyd i swyddfa Durham ar unwaith gyda llythyr yn egluro'r broblem.

Os bydd pethau'n newid

Os bydd angen i chi gywiro eich pasbort cyfunol oherwydd bod rhywbeth wedi newid, dylech ei ddychwelyd i swyddfa Durham gyda llythyr yn egluro'r amgylchiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Os caiff eich taith ei chanslo neu ei gohirio ond eich bod yn trefnu ffordd arall o deithio o fewn yr un tymor, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau fel arfer yn newid y pasbort am ddim. Fodd bynnag, os bydd yn rhaid i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wneud nifer o newidiadau, megis ychwanegu neu ddileu enwau, bydd rhaid i chi dalu am basbort cyfunol newydd (£39).

Mae cyfeiriad Swyddfa Basbort Durham fel a ganlyn:

Collective Passport Applications
Millburngate House
PO Box 302
Durham DH1 9ZL

Os byddwch yn colli eich pasbort cyfunol

Bydd yn rhaid i chi wneud cais arall a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn rhoi pasbort cyfunol newydd i chi ac yn codi'r ffi lawn arnoch (£39).

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU