Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ysgolion a noddir gan y wladwriaeth ar gyfer plant o bob gallu yw Ysgolion am Ddim. Cânt eu sefydlu o ganlyniad i alw rhieni am ragor o ddewis o ran addysg leol. Yma, cewch wybod beth sy’n gwneud Ysgolion am Ddim yn wahanol i ysgolion eraill, pwy all eu sefydlu a sut mae mynd ati i wneud hynny.
Ysgolion dielw ac annibynnol a noddir gan y wladwriaeth yw Ysgolion am Ddim. Yn wahanol i ysgolion arferol a noddir gan y wladwriaeth, nid yw Ysgolion am Ddim yn cael eu rheoli gan yr awdurdod lleol. Mae Ysgolion am Ddim yn debyg i academïau, ond ysgolion newydd fyddant fel arfer. Bydd academïau fel arfer yn ymddangos o ganlyniad i newid yn un o ysgolion y wladwriaeth sydd eisoes yn bodoli.
Gan nad yw Ysgolion am Ddim yn cael eu rheoli gan yr awdurdod lleol, mae'n golygu:
Bydd Ysgolion am Ddim yn cael eu noddi mewn ffordd debyg i ysgolion eraill a noddir gan y wladwriaeth, ac ni chaiff grwpiau sy'n rhedeg Ysgolion am Ddim wneud elw. Bydd Ysgolion am Ddim yn cael yr un archwiliadau Ofsted ag ysgolion eraill y wladwriaeth, a bydd disgwyl iddynt gadw yr un safonau uchel.
Rhaid i drefniadau derbyn disgyblion unrhyw Ysgol am Ddim fod yn ‘deg ac yn dryloyw’. Mae hyn yn golygu y dylai Ysgolion am Ddim fod ar agor i ddisgyblion o bob gallu o’r ardal. Ni fyddant yn gallu dewis disgyblion ar sail eu marciau na’u gallu academaidd. Bydd rhaid i Ysgolion am Ddim gymryd rhan ym mhroses dderbyn gydlynol eu hardaloedd lleol. Mae hyn yn golygu y bydd rhieni yn gwneud cais am lefydd ar gyfer eu plant yn yr un modd ag ar gyfer unrhyw ysgol leol arall.
Gall Ysgol am Ddim gael ei sefydlu gan unrhyw grŵp addas sy'n cynnig gwneud hynny, lle mae tystiolaeth o alw gan rieni amdani. Gallai’r dystiolaeth hon fod yn ddeiseb neu’n ddatganiad gan rieni sydd â diddordeb, ynghyd ag achos busnes clir sydd wedi cael ei ystyried yn ofalus. Ceir dolen i fanylion ynglŷn â sut i sefydlu Ysgol am Ddim, gan gynnwys ysgrifennu achos busnes clir, ar ddiwedd yr adran hon.
Gallai grwpiau sy’n addas i gynnig sefydlu Ysgol am Ddim gynnwys un neu ragor o’r canlynol:
• athrawon
• elusennau
• noddwyr academïau
• prifysgolion
• ysgolion annibynnol
• grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd
• rhieni
• busnesau (ar sail ddielw)
Bydd rhaid i bawb sy’n cynnig sefydlu Ysgol am Ddim gydymffurfio â phrofion addasrwydd ac archwilio cefndir llym cyn dechrau arni. Bydd pob cynnig yn cael ei archwilio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, a fydd yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau.
Gwrthodir cais unrhyw grŵp sy’n hyrwyddo trais, anoddefgarwch neu gasineb, neu y mae ei ideoleg yn groes i werthoedd democrataidd y DU.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael Ysgol am Ddim yn eich ardal chi, mae cyngor ar gael gan y Rhwydwaith Ysgolion Newydd, sef elusen annibynnol. Gall y Rhwydwaith Ysgolion Newydd hefyd gysylltu rhieni â grwpiau mwy profiadol i helpu i wneud ysgol newydd yn realiti.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae sefydlu Ysgol am Ddim ar wefan yr Adran Addysg hefyd.