Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Tai fforddiadwy drwy gymdeithasau tai

Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndir am Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC), neu gymdeithasau tai fel y'u gelwir yn fwy arferol, ac mae'n rhoi gwybodaeth am sut i ddod yn denant iddynt neu sut i gael cymorth i brynu cartref.

Beth ydy Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC)?

LCC yw prif ddarparwyr tai cymdeithasol newydd. Ceir dros 1,800 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr, yn gyfrifol ar hyn o bryd am reoli ryw 1.7 miliwn o gartrefi ac yn cartrefu o leiaf ddwywaith gymaint â hynny.

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yw'r enw technegol am landlord cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda'r Gorfforaeth Tai: mae'r rhan fwyaf yn gymdeithasau tai, ond ceir ymddiriedolaethau, cwmnïau cydweithredol a chwmnïau hefyd. Maent yn cael eu rhedeg fel busnesau ond nid ydynt yn masnachu i wneud elw. Mae unrhyw arian dros ben yn mynd yn ôl i mewn i'r busnes i gynnal a chadw'r cartrefi a chynorthwyo i gyllido cartrefi newydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r LCC yn gymdeithasau bychain gyda llai na 250 o gartrefi. Ond mae'r 13 y cant mwyaf o'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig - y rhai gyda thros 2,500 o gartrefi - yn berchen ar dros 80 y cant o holl gartrefi'r sector. Mae llawer o LCC wedi'u ffurfio i reoli a datblygu cartrefi sy'n cael eu trosglwyddo iddynt gan awdurdodau lleol.

Mae Cymunedau a’r Llywodraeth Leol yn noddi'r Gorfforaeth Tai i fuddsoddi arian cyhoeddus mewn LCC ac yn diogelu'r buddsoddiad hwnnw drwy sicrhau eu bod yn darparu cartrefi a gwasanaethau teilwng i'r preswylwyr. Mae’r LCC yn derbyn buddsoddiad i ddarparu cartrefi sy'n diwallu anghenion lleol. Trwy reoleiddio, mae'r Gorfforaeth Tai yn ceisio sicrhau y bydd pobl am fyw, ac yn gallu byw, yn y cartrefi hyn, heddiw ac yn y dyfodol.

Sut i ddod yn denant i LCC neu gael cymorth i brynu cartref

Yn gyffredinol, mae pobl sy'n cael eu cartrefu gan LCC yn cael eu diffinio fel pobl 'mewn angen am gartref' ond mae'r meini prawf cymhwysedd yn amrywio. Er enghraifft, mae rhai LCC yn arbenigo mewn darparu cartrefi i'r rhai y mae angen cymorth arbennig arnynt megis pobl gyda salwch meddwl neu broblemau cyffuriau. Rhaid i bob cymdeithas dai gael polisïau ysgrifenedig ar y math o wasanaethau tai y maent yn eu darparu, pwy sy'n cael gwneud cais am gartref a sut y bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried. Gallwch ofyn am gael gweld y polisïau hyn. Mae'r cymdeithasau tai yn cael y rhan fwyaf o'u tenantiaid newydd trwy restrau aros awdurdodau lleol, felly mae'n well cysylltu ag adran dai eich cyngor lleol i ddechrau.

Perchenogaeth tai cost isel

Yn ogystal â darparu cartrefi ar rent, mae rhai LCC hefyd yn helpu pobl i brynu'u cartrefi'u hunain.

Mae'r cynllun Hawl i Brynu yn rhoi hawl i denantiaid cymwys o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yr hawl i brynu'r cartref y maen nhw'n ei rentu am bris gostyngol. Mae’n bosib byddwch ag hawl hefyd am y cynllun PrynuCartref Cymdeithasol sy’n cynnig cymorth i brynu cyfran o werth y farchnad eich cartref. Gellir dod o hyd i’r manylion llawn ynghylch y ddau gynllun, gan gynnwys pwy sy’n gymwys a phwy i gysylltu ag, drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

I gael gwybod am yr ystod eang o gynlluniau tai fforddiadwy sydd ar gael, darllenwch y canllaw i gynlluniau perchenogaeth tai cost isel o’r ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU