Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymdeithasau tai - sut i wneud cais

Bydd cymdeithasau tai'n cynnig eiddo annibynnol ar rent a redir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC). Rhaid i chi gyflwyno cais i'w ystyried ar gyfer llety cymdeithas dai.

Gwybodaeth am gymdeithasau tai

Gallwch ddilyn dau lwybr er mwyn cael eich ystyried am eiddo cymdeithas dai. Cewch wneud cais yn uniongyrchol i'r gymdeithas dai berthnasol neu fe gewch wneud cais i'ch cyngor lleol a all wedyn eich 'enwebu' ar gyfer eiddo. Yn y naill achos a'r llall, bydd rhaid i chi ymuno â rhestr aros, ac fe all hon fod yn rhestr hir iawn, yn dibynnu ymhle rydych chi'n byw. Bydd rhai cymdeithasau tai'n gwrthod eich ystyried oni bai eich bod yn bodloni meini prawf penodol, er enghraifft, efallai na fydd eich oedran neu'ch incwm yn bodloni eu trefn enwebu er mwyn iddyn nhw allu cynnig cartref i chi.

Gallwch hefyd gysylltu'n uniongyrchol â chymdeithasau tai er mwyn cael gwybod sut y maent yn gosod tai. Edrychwch ar y gofrestr gyhoeddus o landlordiaid cymdeithasol ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid er mwyn cael manylion am gymdeithasau tai.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth i'w wneud os ydych chi'n anhapus gyda phenderfyniad y gymdeithas dai

Mae gan bob cymdeithas dai drefn briodol er mwyn delio â chwynion. Os nad ydych yn hapus gyda'r penderfyniad neu gyda'r ffordd y deliwyd â'ch cais, dylech ystyried cysylltu â swyddog cwynion y gymdeithas dai i wneud cwyn swyddogol.

Os nad ydych yn hapus â'r canlyniad ar ôl dilyn y broses hon, yna'ch cam nesaf fydd cyfeirio'ch cwyn i'r Ombwdsmon Tai Annibynnol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU