Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Delio â phroblemau a achosir gan lwynogod

Gall llwynogod achosi problem yn eich cymdogaeth ond nid oes rheidrwydd ar gynghorau lleol i gael gwared arnynt. Yma, cewch wybod sut mae gwneud eich ardal yn llai deniadol i lwynogod, a all helpu i osgoi problemau.

Problemau a achosir gan lwynogod yn eich cymdogaeth

Gall llwynogod achosi problemau yn eich cymdogaeth oherwydd:

  • eu bod yn marcio'u tiriogaeth gyda baw ac arogleuon annymunol
  • eu bod yn chwilota drwy'ch sbwriel neu'ch biniau compost
  • y gallant ddiwreiddio’ch planhigion, eich blodau neu'ch lawntiau wrth chwilio am bryfetach a phryfed genwair neu er mwyn claddu bwyd dros ben
  • y gallant fwyta anifeiliaid anwes bach, fel bochdew
  • eu bod yn 'sgrechian' yn uchel yn y nos - gan amlaf rhwng mis Rhagfyr a mis Mai
  • eu bod yn defnyddio ardaloedd o dan dai, siediau ac adeiladau allanol er mwyn gwneud eu ffau

Cewch ddysgu am arferion bwyta a magu llwynogod trefol drwy ddilyn y ddolen isod.

Cael gwared ar ffynonellau bwyd

Y ffordd orau o rwystro'ch ardal rhag bod yn ddeniadol i lwynogod yw drwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a llefydd i fyw. Gwnewch yn siŵr:

  • nad ydych yn gadael bwyd allan
  • eich bod yn defnyddio bwrdd bwydo adar sydd wedi ei orchuddio ac o leiaf 1.5 medr i fyny o'r llawr
  • eich bod yn clirio unrhyw fwyd a gollwyd ar lawr os ydych chi'n bwydo adar yn eich gardd
  • nad ydych yn cadw sbwriel y tu allan mewn bagiau plastig
  • eich bod yn defnyddio biniau sbwriel a biniau compost o fetel neu blastig gwydn, a'ch bod yn cau'r caeadau'n ddiogel
  • eich bod yn clirio unrhyw ffrwythau sydd wedi syrthio a gwastraff bwyd sy'n pydru
  • eich bod yn defnyddio mesh wedi'i weldio yn hytrach na mesh arferol (gallwch hael hwn o siop DIY leol)


Os oes gennych chi broblem ddifrifol gyda llwynogod yn gwneud llanast o'ch lawnt, gallech ddefnyddio plaladdwr wedi'i gymeradwyo er mwyn lleihau nifer y pryfed genwair (sy'n denu llwynogod) yn eich lawnt.
Gallai tipio anghyfreithlon yn eich cymdogaeth ddenu llwynogod.

Os ydych chi'n byw yn Lloegr gallwch ddilyn y ddolen isod er mwyn rhoi gwybod i'ch cyngor lleol am hyn.

Cael gwared ar lefydd byw posibl

Os ydych chi'n credu bod llwynogod yn defnyddio mannau cuddiedig neu dyllau fel ffau, edrychwch i weld a ydynt yn dal yno gyntaf. Gallwch wneud hyn drwy lenwi'r twll yn ysgafn gyda phapur newydd neu wellt. Os nad yw hwn wedi ei dynnu oddi yno ar ôl o leiaf wythnos, ond mwy na hynny yn ddelfrydol, mae'n annhebygol bod y lle'n cael ei ddefnyddio ac felly gallwch ei gau.


Cau llefydd byw gwag
Os defnyddir y lle gan lwynogod (neu anifeiliaid eraill) mae'n anghyfreithlon eu trapio drwy gau'r fynedfa. Yn hytrach, arhoswch nes bod y llwynogod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r lle, yna caewch y fynedfa cyn y tymor magu nesaf, sy'n para rhwng mis Rhagfyr a mis Mai.


Gwarchodaeth gyfreithiol i foch daear
Os credwch fod moch daear yn defnyddio'r lle, rhaid i chi beidio â chau'r fynedfa gan fod moch daear a'r mannau lle maen nhw'n byw wedi'u hamddiffyn, ac mae gwneud hynny'n anghyfreithlon. Yn hytrach, cysylltwch â Natural England i gael cyngor drwy ddilyn y ddolen isod.

Gwarchodaeth gyfreithiol i lwynogod

Mae’n anghyfreithlon i drin llwynogod mewn modd creulon. Cewch ragor o wybodaeth am lwynogod a'r gyfraith ar dudalennau chwech a saith o 'Y llwynog coch mewn ardaloedd gwledig'.

Amddiffyn eich hun rhag afiechydon heintus gan lwynogod

Gall llwynogod gario parasitiaid ac afiechydon heintus. Fodd bynnag, gallwch eich amddiffyn eich hun mewn modd effeithiol iawn drwy olchi'ch dwylo a dwylo'ch plant ar ôl bod yn gweithio neu'n chwarae yn yr ardd. Dylech sicrhau hefyd bod cŵn a chathod anwes yn cael eu trin yn rheolaidd rhag llyngyr.

Defnyddio cemegau

Os byddwch chi'n defnyddio cemegau i atal llwynogod neu er mwyn lladd pryfed genwair, dim ond sylwedd a gymeradwyir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y dylech ei ddefnyddio. Mae sylwedd sy'n cynnwys alwminiwm amoniwm sylffad yn enghraifft o sylwedd a gymeradwyir. Fel arfer, gallwch brynu cemegau o'r fath mewn siopau nwyddau trymion neu ganolfannau garddio.

Dilynwch y dolenni isod i gyrraedd cronfa ddata'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o gynnyrch a gymeradwyir a'r Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaladdwyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU