Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael trefn ar ôl tân

Gall cael trefn ar eich tŷ ar ôl tân yn y cartref gymryd llawer o amser a bydd rhai o'r pethau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud yn newydd i chi. Dylai'r wybodaeth ganlynol eich helpu i gael trefn ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud.

Trydan, nwy a dŵr

Os difrodwyd eich cyflenwad trydan, nwy neu ddŵr yn y tân, neu os cafodd ei ddatgysylltu yn dilyn y tân, dylech gysylltu â'ch cyflenwr i drefnu bod y gwasanaeth yn cael ei ailgysylltu. Ni ddylech geisio ailgysylltu'r cyflenwad na throi'r cyflenwad ymlaen eich hun.

Cael dogfennau a chofnodion newydd yn lle'r rhai gwerthfawr a ddifrodwyd

Os bydd dogfennau personol pwysig yn cael eu colli neu'u difrodi yn y tân yn eich tŷ, bydd angen i chi gysylltu â gwahanol sefydliadau i gael rhai newydd yn eu lle. Defnyddiwch y rhestr isod i gael gwybod â phwy y dylech gysylltu ynghylch y canlynol:

  • trwydded yrru - cysylltwch â'r DVLA, i gael trwydded newydd yn lle'r un a ddifrodwyd ar y we, defnyddiwch y ddolen isod
  • llyfrau banc - eich banc, cyn gynted ag sy’n bosib
  • polisïau yswiriant - eich yswiriwr
  • pasport - gwasanaeth pasport y DU, mor fuan ag sy'n bosib; defnyddiwch y ddolen isod i gael un newydd yn lle'r un a ddifrodwyd
  • tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth - Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol; dilynwch y ddolen isod i wneud hyn ar-lein
  • papurau ysgariad - naill ai'r llys a roddodd y dyfarniad neu'r Gwasanaeth Dyfarniadau Absoliwt; defnyddiwch y gwasanaeth Chwilio am Lys isod, neu dilynwch y ddolen i gael manylion cyswllt y Gwasanaeth Dyfarniadau Absoliwt
  • budd-daliadau a thaliadau nawdd cymdeithasol - yr Adran Gwaith a Phensiynau; gallwch ddod o hyd i'r budd-dal neu'r hawliad perthnasol yn y rhestr isod, sydd yn nhrefn yr wyddor
  • cardiau credyd - y cwmni neu'r banc a'u rhoddodd i chi
  • teitlau neu weithredoedd eiddo - y Gofrestrfa Dir; defnyddiwch y ddolen isod i gysylltu â hwy
  • stociau a bondiau - y cwmni a'u rhoddodd i chi, neu'ch brocer
  • ewyllysiau - eich twrnai
  • cofnodion meddygol - eich meddyg
  • cofnodion treth incwm - y swyddfa Cyllid a Thollau EM lle gwnaethoch ffeilio'ch cyfrifon, neu'ch cyfrifwr personol; defnyddiwch y ddolen isod i ganfod manylion cyswllt swyddfeydd Cyllid a Thollau EM unigol
  • dogfennau cofrestru cerbyd - gallwch wneud hyn ar-lein, dilynwch y ddolen isod

Glanhau ar ôl tân

Offer coginio

- dylid golchi llestri, sosbenni a chyfarpar cegin mewn dŵr a sebon, cyn rhoi dŵr drostynt a'u sgleinio (os oes angen).

Cyfarpar trydanol

- ni ddylid defnyddio unrhyw gyfarpar a all fod wedi bod mewn cysylltiad â dŵr neu stêm nes i drydanwr gael golwg arnynt a dweud wrthych eu bod yn ddiogel i'w defnyddio.

Bwyd

- gellir golchi caniau a jariau mewn dŵr a sebon, ond dylech daflu unrhyw ganiau os ydynt wedi chwyddo, os oes tolciau ynddynt neu os ydynt wedi rhydu. Mae gan rewgelloedd fel arfer ddigon o ddeunydd inswleiddio i gadw bwyd wedi rhewi am o leiaf diwrnod. Os ydych mewn pryd, gallech symud eich bwyd i rewgell cymydog neu berthynas, neu gallech rentu locer i roi'r bwyd ynddo. Peidiwch byth ag ail rewi bwyd sydd wedi dadmer neu sydd wedi dechrau dadmer.

I gael gwared ar arogl mwg o'ch oergell neu'ch rhewgell, golchwch y tu mewn â chymysgedd o soda pobi a dŵr. Bydd rhoi darn o siarcol, neu soda pobi mewn cynhwysydd agored, yn yr oergell neu'r rhewgell yn helpu i amsugno'r arogleuon.

Lloriau a rygiau

– gall dŵr dan y leino greu arogleuon yn ogystal ag anffurfio'r lloriau pren oddi tano. Os bydd hyn yn digwydd, dylech dynnu'r leino – os yw'n fregus yn aml gellir defnyddio lamp wres i'w feddalu fel y gellir ei rowlio heb ei dorri. Gellir ei roi yn ei le eto ar ôl i'r llawr sychu'n gyfan gwbl. Gellir cael gwared ar chwysigod mewn leino (gan ddefnyddio hoelen, er enghraifft) ac yna'u rhoi yn ôl at ei gilydd drwy chwistrellu past leino wedi'i wanhau drwy'r twll.

Dylid gadael i rygiau a charpedi sychu'n gyfan gwbl, yna'u curo, eu hysgubo neu dynnu'r llwch oddi arnynt cyn eu golchi â siampŵ. I gael gwybodaeth am lanhau a chadw carpedi, cysylltwch â gwerthwr carpedi, rhywun sy'n gosod carpedi, neu lanhawr carpedi proffesiynol.

Matresi a chlustogau

– mae bron yn amhosib cael gwared ar arogl mwg oddi ar glustogau gan fod plu a sbwng yn cadw'r arogl. Os nad ydynt wedi baeddu rhyw lawer, gallech geisio'u sychlanhau, ond mae'n debygol y bydd angen i chi gael rhai newydd yn eu lle.

Mae'n anodd iawn ail-gyflyru matres hefyd. Efallai y gwnaiff cwmni arbenigol adnewyddu matres sydd wedi'i difrodi, ond os bydd angen i chi ei defnyddio dros dro, dylech ei rhoi yn yr awyr agored i sychu cyn rhoi cynfas blastig neu rwber amdani.

Lledr a llyfrau

– sychwch nwyddau lledr â chadach tamp, ac yna gyda chlwt sych. Dylai gwthio papur newydd i byrsiau, esgidiau a bagiau helpu i gadw'u siâp wrth iddynt sychu. Ni ddylid defnyddio gwres i sychu nwyddau lledr, ac ni ddylid eu rhoi allan yn yr haul i sychu, oherwydd gall hyn achosi iddynt gyrlio a chracio. Pan fydd eich pethau'n sych, gallwch eu glanhau â sebon (defnyddiwch wlân dur neu frwsh swêd ar eitemau sydd wedi'u gwneud o swêd).

Dylid gofalu am lyfrau gwlyb mor sydyn â phosib. Y ffordd orau yw eu rhewi mewn rhewgell wactod – sy'n tynnu'r lleithder heb ddifrodi'r tudalennau. Gellir eu cadw mewn rhewgell arferol nes i chi allu dod o hyd i rewgell wactod.

Cloeon a cholfachau

– dylid tynnu cloeon (yn enwedig cloeon haearn) oddi wrth ei gilydd, cyn eu sychu â cherosin a rhoi olew arnynt. Os na ellir eu tynnu, chwistrellwch olew peiriant drwy'r bolltau neu drwy dwll y clo, a symud y bollt neu'r allwedd i ledaenu'r olew. Dylid glanhau colfachau'n drylwyr a rhoi olew arnynt.

Waliau a dodrefn

– i gael gwared ar huddygl a mwg oddi ar waliau, dodrefn a lloriau, cymysgwch:

4 i 6 llwy fwrdd o drisodiwm ffosffad (ar gael o siopau caledwedd)
1 llond cwpan o gannydd â chlorin y gellir ei ddefnyddio yn y cartref
1 galwyn o ddŵr cynnes

neu defnyddiwch lanedydd neu sebon gwan. Gwisgwch fenig rwber wrth lanhau ac, ar ôl golchi pob eitem, rinsiwch hwy â dŵr cynnes clir a sychwch hwy'n drwyadl.

Gellir golchi waliau pan fyddant yn dal yn wlyb. Golchwch rannau bach ar y tro a rinsiwch y wal â dŵr clir yn syth. Y nenfydau ddylai gael eu golchi ddiwethaf. Peidiwch ag ail beintio'r waliau a'r nenfydau nes eu bod yn gwbl sych.

Gellir atgyweirio papur wal hefyd. Defnyddiwch bâst masnachol i bastio dros unrhyw ymylon neu rannau sydd wedi dod yn rhydd. Gellir golchi papur wal 'golchadwy' fel unrhyw wal arferol, ond rhai cymryd gofal rhag gwlychu gormod ar y papur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU