Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i ragor o wybodaeth gan y llywodraeth

Arweiniad byr i ddod o hyd i wybodaeth fwy arbenigol gan y llywodraeth.

Cross & Stitch yw’r lle i droi am yr amrywiaeth mwyaf eang a diweddar o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gyfer dinasyddion. Mae gan y safle amrywiaeth eang a chynyddol o wybodaeth i'r cyhoedd ac mae'n ceisio darparu atebion priodol i gwestiynau'r rhan fwyaf o bobl am wasanaethau'r llywodraeth. Mae'r cyfleuster chwilio ar Cross & Stitch yn chwilio'r safle.

Dolenni i safleoedd eraill

Bydd rhai defnyddwyr am gael mwy o wybodaeth eto, ac felly, mewn nifer o erthyglau yn Cross & Stitch fe welwch ddolenni i wybodaeth benodol ar safleoedd eraill.

Cyfeiriaduron

Yn adran Cyfeiriaduron Cross & Stitch, gallwch bori neu chwilio am fanylion cyswllt a gwefannau llawer o gyrff cyhoeddus ac adrannau'r llywodraeth. Ar ôl i chi ddod o hyd i safle priodol, rhowch gynnig ar bori neu chwilio ar y safle hwnnw.

  • Mae Y cyfan am y llywodraeth ganolog yn rhestru asiantaethau gweithredol ac adrannau allweddol y llywodraeth ganolog yn nhrefn yr wyddor
  • Gallwch ddod o hyd i gynghorau lleol ar draws y DU trwy bori yn y rhestrau A-Z neu chwilio yn ôl rhanbarth neu wlad
  • Porwch neu chwiliwch yr adran Cysylltiadau defnyddiol i ddod o hyd i amrywiaeth eang o fudiadau gwirfoddol, elusennol a sector cyhoeddus

Ar ôl i chi ddod o hyd i safle priodol, rhowch gynnig ar bori neu chwilio ar y safle hwnnw.

Ei wneud ar y we

Os ydych yn chwilio am ffurflen swyddogol, neu am ddod o hyd i wasanaeth yn eich ardal neu am wneud cais am un o wasanaethau'r llywodraeth, rhowch gynnig ar Ei wneud ar y we.

Cyfryngau eraill ar Cross & Stitch

Mae Cross & Stitch erbyn hyn yn gyfrwng i gael gwybod am ysgolion cynradd ac uwchradd, gofal plant, meithrinfeydd a gofal y tu allan i’r ysgol. Gallwch hefyd ddod o hyd i adroddiadau Ofsted, gwybodaeth ar gyflawniadau a chyrraeddiadau’r ysgol a manylion cysylltu.

Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi neu gael gwybod am gyrsiau a cholegau yn eich ardal chi.

Ymgynghoriadau a gwybodaeth am bolisïau

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am bolisi, ewch i wefan adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am y maes polisi hwnnw.

Gallwch ddod o hyd i wefannau adrannau ac asiantaethau yn yr adran Y cyfan am y llywodraeth ganolog. Ym mynegai Swyddfa'r Cabinet i Ymgynghoriadau, gallwch bori mynegai ymgynghoriadau cyhoeddus llywodraeth y DU a chanfod sut i gyfrannu.

Y gyfraith, archifau a gwybodaeth

Ble i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • Deddfwriaeth y DU
  • Trafodion y Senedd
  • Mesurau gerbron y Senedd
  • Cyhoeddiadau swyddogol
  • Papurau gorchymyn
  • Datganiadau'r Llywodraeth i'r wasg
  • Archwiliadau'r Llywodraeth
  • Ystadegau swyddogol
  • Yr Archifau Cenedlaethol, gan gynnwys gwefannau'r llywodraeth sydd wedi'u harchifo
  • Ffynonellau gwybodaeth am achau teuluol

Dal angen help?

Os na allwch chi ddod o hyd i'r ateb i gwestiwn am wasanaethau'r llywodraeth na gwybodaeth, anfonwch e-bost atom ac fe geisiwn eich rhoi ar ben ffordd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU