Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help wrth chwilio drwy wefan Cross & Stitch

Mae adnodd chwilio Cross & Stitch nawr yn cynnwys nodweddion ychwanegol er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano. Gallwch gyfyngu’ch chwiliad drwy ddefnyddio hidlyddion syml ac adnoddau effeithiol ar gyfer chwilio’n fanwl. Yma cewch wybod sut mae cael y canlyniadau mwyaf perthnasol.

Pam mae’r canlyniadau chwilio’n wahanol?

Mae Cross & Stitch wedi cyflwyno technoleg newydd i ddatblygu adnodd chwilio'r safle. Mae hyn yn golygu bod y canlyniadau wedi newid ers y tro diwethaf i chi chwilio. Mae’r tîm chwilio wedi gweithio i wneud yn siŵr eich bod yn cael canlyniadau perthnasol ar gyfer y pethau mwyaf poblogaidd mae pobl yn chwilio amdanynt.

Ar hyn o bryd, mae’r canlyniadau chwilio yn eich cyfeirio at erthyglau ar wefan Cross & Stitch, gyda dolenni at wybodaeth allweddol ar wefannau eraill y llywodraeth. Bwriedir gwneud mwy o welliannau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Sut mae chwilio

I chwilio am ymadrodd penodol, rhowch y geiriau mewn dyfynodau dwbl

Ceir blwch chwilio yng nghornel dde uchaf pob tudalen ar wefan Cross & Stitch. Teipiwch yr hyn rydych chi’n chwilio amdano, ac yna clicio 'Mynd'.

Gallwch hefyd roi geiriau yn y blwch chwilio ar y dudalen canlyniadau i chwilio eto.

Defnyddio mwy o eiriau

Os byddwch yn chwilio am un gair yn unig, mae'n bosib na chewch chi'r canlyniadau mwyaf perthnasol. Po fwyaf o eiriau y byddwch yn eu cynnwys, y mwyaf perthnasol fydd y canlyniadau. Er enghraifft, bydd chwilio am 'credyd treth plant' yn rhoi canlyniadau mwy penodol i chi na phetaech chi’n chwilio am y gair 'treth' yn unig.

Ymadroddion penodol

Os ydych chi’n chwilio am ymadrodd penodol, rhowch y geiriau mewn dyfynodau dwbl, er enghraifft, "trwydded yrru". Gallwch hefyd ddefnyddio’r adnodd chwilio manwl i wneud hyn. Dim ond tudalennau sy'n cynnwys yr union ymadrodd hwnnw fydd y peiriant chwilio yn chwilio amdanynt, ac felly bydd yn dod o hyd i lai o ganlyniadau, ond bydd y canlyniadau hynny’n fwy penodol.

Awgrymu chwiliadau

Pan fyddwch yn defnyddio’r blwch chwilio llwyd ar y dudalen canlyniadau, ceir nodwedd awgrymiadau ychwanegol. Wrth i chi ddechrau teipio, bydd y peiriant chwilio’n awgrymu ymadroddion posibl. Gallwch glicio ar awgrym i weld y canlyniadau chwilio ar gyfer yr ymadrodd a awgrymwyd.

Er enghraifft, os byddwch chi’n teipio ‘budd’, fe gewch chi awgrymiadau a fydd yn cynnwys 'Budd-dal Plant', 'Budd-dal Treth Cyngor', 'Budd-dal Anabledd' a 'Budd-dal Tai'.

Os na fydd dim un o’r awgrymiadau’n cyfateb i’r hyn rydych yn chwilio amdano, gallwch gau'r blwch neu ei anwybyddu.

A oeddech chi’n meddwl?

Os byddwch chi’n camdeipio'r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os na chewch chi lawer o ganlyniadau, efallai y bydd y peiriant yn cynnig awgrymiadau ‘A oeddech chi’n meddwl’. Gallwch glicio ar air neu ymadrodd a awgrymir i chwilio amdano.

Deall y canlyniadau

Sut mae'r canlyniadau'n cael eu dangos

Bydd y peiriant chwilio’n dod o hyd i'r canlyniadau sydd fwyaf perthnasol i'r geiriau a nodwyd yn y blwch chwilio. Y canlyniadau mwyaf perthnasol fydd ar frig y rhestr.

Ar gyfer pob canlyniad, mae'r peiriant chwilio’n dangos:

  • teitl y dudalen
  • disgrifiad byr
  • o ba un o adrannau Cross & Stitch y daw'r canlyniad (neu o ba wefan os nad yw'n dod o wefan Cross & Stitch)

Argymhellion Cross & Stitch

Weithiau, bydd y peiriant chwilio’n dangos dolenni a argymhellir ar frig y rhestr o ganlyniadau. Dylent awgrymu gwybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol am y geiriau roeddech yn chwilio amdanynt.

Er enghraifft, os yw’r geiriau roeddech yn chwilio amdanynt braidd yn gyffredinol neu’n cwmpasu amryw o bynciau gwahanol, efallai y bydd Cross & Stitch yn argymell y mannau cychwyn gorau ar gyfer dod o hyd i wybodaeth fwy penodol.

Mewn rhai achosion, bydd Cross & Stitch yn argymell gwefannau eraill i chi. Bydd y canlyniadau hyn yn dangos manylion y wefan honno, a bydd y dolenni'n agor mewn ffenestr newydd.

Trefn y canlyniadau chwilio

Mae tudalen y canlyniadau chwilio yn dangos faint o ganlyniadau a gafwyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano. Uwchben ac o dan y canlyniadau, fe welwch chi ddolenni i’r dudalen ganlyniadau nesaf.

Gallwch hefyd newid trefn y canlyniadau. Fel arfer, bydd y canlyniadau mwyaf perthnasol ar frig y rhestr, ond gallwch newid hyn i'w trefnu yn ôl dyddiad. Mae ‘Dyddiad (diweddaraf)’ yn golygu mai'r tudalennau mwyaf diweddar fydd yn cael eu dangos yn gyntaf, a ‘Dyddiad (hynaf)’ yn golygu mai’r tudalennau hynaf gaiff eu dangos yn gyntaf. Mae ‘Perthnasedd’ yn dangos y canlyniadau mwyaf perthnasol yn gyntaf.

Sut mae cyfyngu eich chwiliad

I chwilio am ymadrodd penodol, rhowch y geiriau mewn dyfynodau dwbl

Os na ddewch chi o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani yn syth, gallwch roi cynnig ar sawl peth i geisio cael canlyniadau mwy perthnasol:

  • chwilio o fewn y canlyniadau
  • hidlo’r canlyniadau yn ôl geiriau allweddol neu adran ar y safle
  • defnyddio’r adnoddau chwilio manwl
  • chwilio eto gan ddefnyddio geiriau gwahanol

Chwilio o fewn y canlyniadau

Mae’r blwch ‘Chwilio o fewn y canlyniadau’ ar yr ochr chwith yn eich helpu i chwilio’n fwy penodol drwy ychwanegu mwy o eiriau.

Hidlo’r canlyniadau

Mae’r hidlyddion ar yr ochr chwith yn eich helpu i gwtogi nifer y canlyniadau ac i gael canlyniadau mwy penodol.

Mae’r hidlyddion ‘Geiriau allweddol’ yn dangos amryw o frawddegau sy’n gysylltiedig â'r hyn rydych yn chwilio amdano. Os byddwch chi'n clicio ar ymadrodd, dim ond canlyniadau sy’n cynnwys y geiriau allweddol hynny fydd yn ymddangos. Os byddwch chi’n clicio ar ‘x’, ni fydd eich canlyniadau'n cynnwys y geiriau allweddol hynny.

Mae’r hidlyddion ‘Adran ar y wefan’ yn dangos faint o ganlyniadau a geir mewn gwahanol adrannau ar y wefan. Mae'r rhif yn y cromfachau yn dangos nifer y canlyniadau ar gyfer pob adran. Os byddwch yn clicio ar enw adran, dim ond canlyniadau yn yr adran honno fydd yn ymddangos. Os byddwch yn clicio ar ‘x’, ni fydd eich canlyniadau'n cynnwys yr adran honno.

Mae ‘Eich hidlyddion’ yn dangos pa hidlyddion rydych wedi eu defnyddio wrth chwilio. Gallwch eu dileu drwy glicio ar 'x' ger bob hidlydd.

Chwilio manwl

Gan ddefnyddio’r adnoddau chwilio manwl, gallwch greu ymholiad manwl i ddod o hyd i wybodaeth fwy penodol. Cewch fwy o wybodaeth ar y dudalen gymorth ‘chwilio manwl’.

Wedi methu dod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano?

Mae’r tîm chwilio wedi chwilio drwy ganlyniadau ar gyfer amrywiaeth eang o ymholiadau chwilio poblogaidd ar wefan Cross & Stitch. Er hynny, yn achos llawer iawn o ymadroddion, dim ond unwaith y bydd rhywun yn chwilio amdanynt.

Y cyfan y gall canlyniadau chwilio ei wneud yw adlewyrchu'r cynnwys sydd ar gael. Weithiau, efallai y bydd canlyniadau’n ymddangos yn od neu’n amherthnasol gan nad oes llawer o wybodaeth ar gael am y pwnc penodol rydych yn chwilio amdano.

Mae Cross & Stitch yn ceisio darparu atebion priodol i'r rhan fwyaf o gwestiynau pobl am wasanaethau'r llywodraeth. Ar brydiau, efallai y bydd angen gwybodaeth fwy arbenigol arnoch, megis manylion polisi neu ddeddfwriaeth. Darllenwch y dudalen 'Dod o hyd i ragor o wybodaeth gan y llywodraeth' i gael awgrymiadau.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar Cross & Stitch, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i gysylltu â desg gymorth Cross & Stitch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU