Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Defnyddiwch yr awgrymiadau yn yr adran hon i gael y gorau o'r cyfleuster chwilio'n fanwl. Mae'n ffordd rwydd o gyfyngu ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano ar Cross & Stitch.
Mae'r cyfleuster chwilio'n fanwl yn ffordd hawdd o deipio meini prawf mwy penodol, sy'n gallu darparu gwell canlyniadau.
Bydd yr opsiwn hwn yn dangos canlyniadau a fydd yn cynnwys pob gair yr ydych wedi'u teipio. Er enghraifft, os byddwch yn teipio 'ad-daliad, treth, incwm', bydd y peiriant chwilio'n dod o hyd i ddogfennau sy'n cynnwys y tair eitem yn unig.
Mae'r opsiwn hwn yn trin y geiriau sydd wedi'u teipio fel ymadrodd. Er enghraifft, bydd teipio 'credyd treth plant' yn dangos canlyniadau sy'n cynnwys yr ymadrodd 'credyd treth plant' yn unig.
Mae'r opsiwn hwn yn chwilio am yr holl eiriau ac yn dangos y canlyniadau lle mae o leiaf un o'r geiriau yn ymddangos ynddynt. Mae'n well defnyddio'r opsiwn hwn pan fyddwch yn chwilio am rywbeth y gellir ei ddisgrifio mewn sawl ffordd. Er enghraifft, os byddwch yn teipio 'Prydain' neu 'DU' neu 'Y Deyrnas Unedig', bydd y peiriant chwilio yn dod o hyd i ddogfennau sy'n cynnwys un neu fwy o'r termau 'Prydain' neu 'DU' neu 'Y Deyrnas Unedig' yn unig.
Defnyddir yr opsiwn hwn er mwyn peidio â chynnwys y geiriau yn y chwiliad. Er enghraifft, efallai eich bod am gael gwybodaeth am 'dâl' ond nid am 'oramser'.
Cewch. Gellir defnyddio'r tri opsiwn cyntaf ('Gyda'r holl eiriau', 'Gyda'r union ymadrodd' a 'gydag o leiaf un o'r geiriau') naill ai ar eu pennau'u hunain neu gyda'r opsiynau eraill. Rhaid defnyddio'r opsiwn 'Heb y geiriau' gydag un o'r opsiynau eraill. Bydd defnyddio'r holl opsiynau yn cyfyngu ar y chwilio'n arw ac efallai na fydd yn dangos y canlyniadau yr ydych eu hangen.
Dewiswch amrediad dyddiadau am bryd cyhoeddwyd y cynnwys.
Gallwch ddewis i chwilio Cross & Stitch i gyd, neu gyfyngu eich chwiliad i un neu fwy o’r adrannau canlynol: Newyddion, Ei wneud ar y we neu Gysylltiadau Defnyddiol.