Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anghydfodau sy'n ymwneud â damweiniau neu anafiadau - canllaw

Os ydych wedi cael eich brifo mewn damwain ac mai rhywun arall oedd ar fai, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal. Caiff y rhan fwyaf o hawliadau eu setlo y tu allan i'r llys, ond efallai y bydd angen help a chyngor cyfreithiol arnoch. Mynnwch wybod beth y gallwch ei wneud os ydych wedi dioddef anaf personol.

Gweithio allan a oes rhywun arall ar fai

Ni fydd gennych hawl i gael iawndal bob amser

Ni fydd gennych hawl i gael iawndal bob amser os ydych wedi cael eich brifo mewn damwain.

Efallai eich bod wedi cael eich brifo ar ôl:

  • llithro mewn archfarchnad
  • damwain ar y ffordd
  • damwain yn y gwaith

Ym mhob achos, byddai'n rhaid i chi allu dangos y gallai'r ddamwain fod wedi'i hosgoi pe byddai rhywun arall wedi cymryd gofal rhesymol.

Gallai fod ar fai os methodd â glanhau gollyngiad yn yr archfarchnad, neu os gyrrodd yn ddiofal ar y ffordd.

Rhoi gwybod am yr anaf

Ewch i gael help meddygol, hyd yn oed os nad yw'r ddamwain yn ymddangos yn ddifrifol, oherwydd gallai waethygu nes ymlaen. Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng, neu ewch at eich meddyg teulu.

  • os yw'n ddamwain ar y ffordd, rhowch wybod i'r heddlu a'ch cwmni yswiriant os ydych yn yrrwr
  • os yw'n ddamwain yn y gwaith, cofnodwch hi yn y llyfr damweiniau yn y gwaith neu rhowch wybod i'ch cyflogwr
  • os byddwch yn llithro mewn siop, rhowch wybod i'r rheolwr am y ddamwain

Dylech hefyd gael tystiolaeth, megis ffotograffau o'r anaf neu'r fan lle y digwyddodd y ddamwain, neu enwau a chyfeiriadau tystion.

Ysgrifennu llythyr neu wneud cwyn

Os nad yw'n anaf difrifol, efallai y gallwch ymdrin â'r mater drwy ysgrifennu llythyr neu wneud cwyn ffurfiol. Os yw'n sefydliad, gofynnwch a oes ganddo weithdrefn gwyno. Eglurwch beth aeth o'i le a dywedwch wrtho faint o iawndal rydych am ei gael neu sut y gall wneud iawn am yr anaf.

Mae gan sefydliadau'r GIG weithdrefnau cwyno, os oes rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch triniaeth feddygol.

Beth i'w wneud os cewch gynnig anffurfiol

Os cynigir iawndal i chi, efallai y byddwch am dderbyn y cynnig er mwyn osgoi'r gost a'r drafferth o fynd i'r llys.

Efallai na fyddwch am setlo ar unwaith. Fel arfer mae gennych dair blynedd ar ôl y ddamwain i setlo hawliad, felly dylech ystyried eich opsiynau. Gallai'r swm a gynigir i chi fod yn is na'r disgwyl, ond gallech gael yr arian yn gyflymach nag y byddech pe byddech yn mynd i'r llys.

Cyfryngu - trafod y mater gyda chymorth trydydd person

Gwyliwch fideo sy'n dangos sut y gall cyfryngu eich helpu i ddatrys anghydfod

Gallai gwasanaeth cyfryngu eich helpu i negodi gyda'r unigolyn neu'r sefydliad sydd ar fai am eich anaf, yn eich barn chi. Ni fydd y cyfryngwr yn cymryd ochr, ond bydd yn delio â'r drafodaeth rhyngoch chi a'r parti arall.

Fel arfer codir ffi am ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu, ond gall fod yn rhatach, yn gyflymach ac yn haws na mynd i'r llys.

Gall cyfryngu eich helpu i gael:

  • ymddiheuriad
  • iawndal
  • newid mewn polisi neu ymddygiad

Gallwch ddod o hyd i wasanaeth cyfryngu yn eich ardal chi gan ddefnyddio’r teclyn ‘dod o hyd i ddarparwr cyfryngu’ ar y ddolen isod.

Cael cyngor cyfreithiol

Gall cyfreithiwr eich helpu i gael iawndal ond fel arfer bydd yn codi tâl am ei wasanaethau

Mae'n gyffredin defnyddio cyfreithiwr i gael iawndal. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn costio arian i chi. Gofynnwch i'r cyfreithiwr am ei gostau a'i ffioedd cyn llofnodi unrhyw gontract.

Gall cwmnïau rheoli hawliadau hefyd eich helpu i gael iawndal.

Mae'r erthygl ar 'iawndal ar gyfer damweiniau ac anafiadau' yn dweud wrthych beth i chwilio amdano.

Gallwch hefyd gael cyngor am ddim ar wneud hawliad gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, canolfan y gyfraith neu ganolfan cyngor cyfreithiol cymunedol.

Cymryd camau cyfreithiol

Dylech ysgrifennu llythyr at yr ochr arall, gan roi cyfle iddo wneud iawn am bethau, cyn cymryd camau cyfreithiol. Nodwch y ffeithiau a dywedwch y byddwch yn mynd ag ef i'r llys oni fyddwch yn cael iawndal. Gall cyfreithiwr ysgrifennu'r llythyr ar eich rhan am ffi fach.

Bydd cyfreithiwr yn ceisio setlo'r achos y tu allan i'r llys os gall wneud hynny, drwy negodi â'r ochr arall. Caiff y rhan fwyaf o hawliadau iawndal eu setlo heb orfod mynd i'r llys.

Mynd i'r llys

Os byddwch yn mynd i'r llys, fel arfer bydd gwrandawiad gerbron barnwr. Bydd y ddwy ochr yn cyflwyno eu tystiolaeth. Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y barnwr yn penderfynu a yw'r ochr arall ar fai am eich anaf ac a ddylech gael iawndal.

Gellid rhoi iawndal:

  • ar gyfer poen a dioddefiant
  • os bydd yr anaf yn eich atal rhag gwneud tasgau bob dydd, fel garddio
  • i dalu am golli enillion, gan gynnwys enillion yn y dyfodol os na allwch ddychwelyd i'r gwaith

Gall y naill ochr neu'r llall apelio yn erbyn penderfyniad, a allai gynnwys mynd yn ôl i'r llys. Os byddwch yn ennill yr achos, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i orfodi'r penderfyniad.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Cross & Stitch ar Trydar (Twitter)

Allweddumynediad llywodraeth y DU