Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am hawlio iawndal, efallai y bydd angen cyngor neu help arnoch. Mae'n werth cael cyngor am ddim yn gyntaf. Os byddwch yn defnyddio cyfreithiwr neu gwmni hawliadau, gallai gostio arian i chi. Mynnwch wybod sut i dalu am eich achos a beth i chwilio amdano wrth gymryd camau cyfreithiol.
Ni allwch gael cymorth cyfreithiol (arian cyhoeddus) i'ch helpu i dalu am y rhan fwyaf o achosion anaf personol.
Mae'n werth cael cyngor cychwynnol cyn i chi fynd at gyfreithiwr neu gwmni rheoli hawliadau i ddechrau hawliad. Bydd hyn yn eich helpu i gael gwybod beth fydd ynghlwm wrth gymryd camau cyfreithiol a faint y bydd yn ei gostio i chi.
Gall canolfannau cyngor lleol, canolfannau'r gyfraith a Chanolfannau Cyngor ar Bopeth roi cyngor am ddim i chi.
Gall cymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun fod yn gostus iawn
Gall cymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun fod yn gostus iawn. Mae'r gyfraith yn gymhleth, felly efallai y bydd angen help gan gyfreithiwr arnoch.
Dylai'r cyfreithiwr roi gwybod i chi beth yw'r costau cyn i chi gytuno i'w gyflogi. Ni ddylai godi tâl arnoch am eich cyfarfod cyntaf i drafod y mater.
Dylech ofyn cwestiynau fel:
Yna byddwch mewn sefyllfa well i weithio allan a yw'n werth cymryd camau cyfreithiol.
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr neu asiantaeth gynghori gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Gall busnesau a elwir yn gwmnïau rheoli hawliadau eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr a setlo hawl am iawndal y tu allan i'r llys.
Nid yw'r rhan fwyaf o drafodwyr hawliadau yn gyfreithwyr, ac felly ni allant eich cynrychioli mewn llys.
Yn gyffredinol, ni chaniateir i gwmnïau rheoli hawliadau:
Os byddwch yn llofnodi contract gyda hwy, mae'n rhaid iddynt roi'r cyfle i chi newid eich meddwl o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad llofnodi.
Caiff cwmnïau rheoli hawliadau eu rheoleiddio gan y llywodraeth, felly dylech sicrhau bod y cwmni wedi'i awdurdodi, gan ddefnyddio'r adnodd yn y ddolen isod, cyn eu defnyddio.
(Os yw cwmni wedi'i awdurdodi - wedi cael caniatâd i gynnal ei fusnes - nid yw hyn yn golygu bod y llywodraeth yn argymell nac yn cymeradwyo'r busnes.)
Gallwch hefyd sicrhau hyn drwy gysylltu â'r Uned Rheoleiddio Cwmnïau Rheoli Hawliadau:
E-bost:
Telephone: 0845 450 6858
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gyflogi cyfreithiwr gan ddefnyddio cytundeb 'dim ennill, dim ffi'. Mae hyn yn golygu mai dim ond os byddwch yn ennill yr achos y bydd yn rhaid i chi dalu ffi'r cyfreithiwr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am rai costau eraill o hyd, fel:
Os byddwch yn ennill, bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd eich cyfreithiwr a chostau eraill, ond dylech allu cael yr ochr arall i dalu'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r costau hyn. Efallai y bydd y cyfreithiwr hefyd yn codi ffi am ennill yr achos.
Os byddwch yn colli, bydd yn rhaid i chi dalu am:
Efallai y byddwch am drefnu yswiriant yn erbyn talu costau cyfreithiol ychwanegol. Bydd cyfreithiwr yn rhoi cyngor i chi ar hyn.
Efallai bod gennych yswiriant eisoes i dalu am gostau cyfreithiol
Dylech ystyried trefnu yswiriant i'ch diogelu rhag bil cyfreithiol mawr. Gall y bil fod yn arbennig o fawr os byddwch yn colli'r achos a'ch bod yn gorfod talu costau'r ochr arall.
Efallai bod gennych yswiriant eisoes i dalu am gostau cyfreithiol. Darllenwch eich polisïau yswiriant presennol i weld a ydynt yn cynnwys yswiriant treuliau cyfreithiol. Efallai bod gennych bolisïau fel:
Efallai eich bod wedi'ch diogelu rhag costau cyfreithiol hefyd os ydych yn aelod o undeb llafur neu sefydliad aelodaeth fel yr RAC neu'r AA.
Fel arfer dim ond ar gyfer rhai mathau o broblemau cyfreithiol y mae polisïau yswiriant yn eich diogelu a bydd ganddynt delerau ac amodau eraill.
Os nad yw eich polisïau yswiriant presennol yn darparu yswiriant treuliau cyfreithiol, efallai y byddwch am drefnu polisi yswiriant 'ar ôl y digwyddiad'.
Gall eich cyfreithiwr neu'ch cwmni rheoli hawliadau eich helpu i ddewis y polisi cywir a bydd weithiau yn ei drefnu ar eich rhan.
Ni fydd rhai cwmnïau yswiriant yn eich yswirio os ydynt o'r farn nad yw'r achos yn debygol o lwyddo, ac mae rhai polisïau yswiriant ar ôl y digwyddiad yn ddrud iawn. Os byddwch yn ennill yr achos, efallai y gallwch gael rhywfaint o gost y polisi yn ôl gan yr ochr sydd wedi colli. Ni fyddwch yn cael y gost yn ôl os byddwch yn colli.