Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Dirprwyon, Ymwelwyr a Gwrandawiadau'r Llys Gwarchod

Cynhelir gwrandawiadau'r Llys Gwarchod mewn canolfan weinyddol ganolog yn Llundain, ac mewn canolfannau rhanbarthol ledled Cymru a Lloegr. Fe welwch fanylion y rhain isod. Ceir gwybodaeth i Ddirprwyon hefyd, ac ynghylch Ymwelwyr y Llys a'u gwaith.

Canolfannau gwrando achosion

Yn Archway, Gogledd Llundain, y mae gweinyddiaeth ganolog (Cofrestrfa) y Llys Gwarchod. Dyma'r ganolfan wrandawiadau ar gyfer achosion sy'n cael eu gwrando yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr.

Mae gan y Llys nifer o ganolfannau gwrandawiadau rhanbarthol hefyd ledled Cymru a Lloegr. Bydd y llys yn dyrannu achosion i'r canolfannau rhanbarthol pan fydd hynny'n fwy cyfleus i bobl sy'n mynd i'r gwrandawiad, gan ddibynnu a oes Barnwr, a llys, ar gael.

Sut i gysylltu

Nid yw'r canolfannau rhanbarthol yn Gofrestrfeydd llys. Mae hyn yn golygu na allant gyflwyno na phrosesu ceisiadau. Rhaid gwneud ceisiadau a chyfathrebu drwy'r gofrestrfa ganolog yn Archway bob amser. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt.

Ble mae'r canolfannau rhanbarthol?

Ceir canolfannau rhanbarthol yn y mannau canlynol:

  • Birmingham
  • Bryste
  • Caerdydd
  • Manceinion
  • Newcastle
  • Preston

Bydd rhai achosion hefyd yn cael eu gwrando yn y Llysoedd Barn Brenhinol neu yn Llys Ynadon Brent, pan fydd angen llys mwy ar gyfer gwrandawiadau yn Llundain ac yn Ne Ddwyrain Lloegr.

I ddod o hyd i gyfeiriad llys rhanbarthol a chael gwybodaeth am ei gyfleusterau, ei oriau agor a'i fanylion cyswllt, dilynwch y ddolen isod i wasanaeth Chwilio am Lys Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Ymwelwyr y Llys Gwarchod

Bydd Ymwelwyr y Llys Gwarchod yn rhoi cyngor annibynnol i'r Llys. Maent yn rhoi cyngor ar sut y dylai, a sut y mae, unrhyw un sy'n cael grym gan y Llys gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau.

Ceir dau fath o ymwelydd – 'cyffredinol' ac 'arbennig'. Mae ymwelwyr arbennig yn ymarferwyr meddygol cofrestredig a chanddynt wybodaeth arbenigol sy'n berthnasol i'r achos.

Gall y Llys (neu'r Gwarcheidwad Cyhoeddus) anfon pa fath bynnag o ymwelydd sy'n fwyaf priodol i ymweld ag unigolyn sydd ag analluedd o bosib ac i'w gyfweld. Gall ymwelwyr hefyd gyfweld unrhyw un sydd wedi'i wneud yn Atwrnai neu'n Ddirprwy ac archwilio unrhyw gofnodion gofal iechyd neu ofal cymdeithasol.

Rhaid i Atwrneiod a Dirprwyon gydweithredu â'r holl ymwelwyr a darparu'r holl wybodaeth berthnasol iddynt. Os na fyddant yn gwneud hyn, gall y Llys gymryd eu pwerau oddi arnynt, pan mae'n meddwl nad ydynt wedi gweithredu er budd gorau'r unigolyn.

Rôl a dyletswyddau Dirprwy

Os byddwch yn cael gorchymyn Dirprwy gan y Llys, bydd yn pennu faint o rym sydd gennych. Gall fod yn berthnasol i unrhyw faes lle gallai'r unigolyn fod wedi gweithredu neu wneud penderfyniadau drostynt eu hunain petai'r gallu ganddynt i wneud hynny.

Gallai eich pwerau fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • arian
  • lles personol, megis rhoi neu atal cydsyniad i driniaeth feddygol a/neu i ymyriadau gofal cymdeithasol

Bydd y pwerau a roddir yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn y cawsoch eich penodi i'w gynorthwyo a hefyd ar benderfyniad y Llys. A chithau'n Ddirprwy, gall eich penderfyniadau gael effaith fawr ar yr unigolyn sydd ag anallu. Er mwyn ymgymryd â'ch cyfrifoldebau'n synhwyrol, yn drylwyr ac yn gyfrifol, dylech sicrhau bob amser:

  • mai dim ond y penderfyniadau hynny y mae gennych awdurdod i'w gwneud yn ôl gorchymyn y Llys yr ydych yn eu gwneud
  • eich bod yn cadw at y bum egwyddor statudol a nodir yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol (dilynwch y ddolen isod os nad ydych yn gwybod beth yw'r rhain)
  • eich bod yn gwneud penderfyniadau er budd gorau'r unigolyn
  • eich bod yn cyflawni eich dyletswydd i sicrhau sgiliau a gofal o safon benodol ('dyletswydd gofal') wrth wneud penderfyniadau

Rhaid i bob Dirprwy ddilyn y cyfarwyddyd perthnasol o fewn Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Os hoffech wybodaeth fanylach, mae gan y Llys Gwarchod lyfryn y gallwch ei ddarllen a'i lwytho oddi ar y we. Dilynwch yr ail ddolen isod i'w ddarllen.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Fideo Cross & Stitch

Ydy Cross & Stitch yn newydd i chi? Hoffech chi wybod pa wasanaethau sydd ar gael? Gwyliwch y fideo i gael gwybod!

Allweddumynediad llywodraeth y DU