Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i ddirymu priodas sy'n 'ddi-rym' neu 'y gellir ei dirymu'

Os ydych am ddod â phriodas i ben gan ei bod yn 'ddi-rym' neu 'y gellir ei dirymu' yn eich barn chi, dylech ofyn i lys ei 'dirymu'. Mae hyn yn golygu y bydd fel petai erioed wedi digwydd yn gyfreithlon. Mynnwch wybod sut i ddirymu priodas.

Cadarnhau y gellir dirymu eich priodas

Mae dirymu priodas yn golygu nad yw erioed wedi bodoli yn gyfreithlon. Cyn i chi ddechrau ceisio dirymu priodas, dylech holi a yw'n debygol y bydd llys yn ei dirymu. Am fwy o wybodaeth, gweler 'Pryd y gallwch ddirymu priodas'.

Cyflwyno 'deiseb dirymedd'

Unwaith y byddwch wedi cadarnhau'r rhesymau dros ddirymu'r briodas, rhaid i chi gyflwyno ffurflen o'r enw 'deiseb dirymedd' i'r llys.

Dylech wneud hynny drwy lenwi ffurflen D8N, sy'n dod gyda nodiadau canllaw - gweler y dolenni isod.

Beth fydd angen i chi ei ddweud ar y ffurflen

Efallai y byddwch yn ystyried cael cyngor cyfreithiol os ydych yn llenwi'r ffurflen

Bydd angen i chi ddangos ar y ffurflen eich bod yn gofyn am gael dirymu'r briodas - a pham.

Bydd angen i chi anfon tri chopi:

  • un i chi ei gadw
  • un i'r llys
  • un i'r llys ei anfon i'r unigolyn arall yn y briodas

Efallai y byddwch yn ystyried cael cyngor cyfreithiol os ydych yn llenwi'r ffurflen. Mae'n ddogfen gyfreithiol bwysig a bydd yn arbed amser a straen i chi os gallwch ei chael yn iawn y tro cyntaf.

Costau i wneud cais am ddirymiad

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi - £340 ar hyn o bryd. Ond efallai y gallwch gael gostyngiad os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau.

Os oes gennych blant

Bydd angen i chi lenwi ffurflen D8A hefyd - sef 'datganiad o'r trefniadau ar gyfer y plant' os yw eich plant:

  • o dan 16 oed
  • o dan 18 oed ac yn yr ysgol, y coleg neu'n hyfforddi ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth

Rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon gan gynnwys:

  • enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni, iechyd, addysg ac anghenion hyfforddi eich plant
  • trefniadau o ran gofal plant a p'un a fyddant yn newid os byddwch yn ysgaru
  • manylion y trefniadau cynhaliaeth rydych wedi'u gwneud neu'n bwriadu eu gwneud
  • manylion y trefniadau cysylltiad (neu'r 'mynediad') gyda'ch plant rydych wedi'u gwneud neu'n bwriadu eu gwneud.
  • unrhyw drefniadau presennol o ran y plant gyda gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion prawf neu orchmynion llys

Os yw'n bosibl, dylech gytuno ar y trefniadau ar gyfer y plant gyda'ch gŵr neu'ch gwraig cyn i chi gofnodi'r ddeiseb.

Pan gaiff y llys eich ffurflen

Pan gaiff y llys eich deiseb dirymedd, bydd yn anfon copi at yr unigolyn arall yn y briodas. Bydd y llys hefyd yn anfon 'hysbysiad gweithrediadau' (ffurflen D8) a 'chydnabyddiaeth o gyflwyno' (ffurflen D10).

Rhaid i'r unigolyn arall ddychwelyd ffurflen D10 o fewn wyth diwrnod, gan ddangos p'un a yw'n cytuno y dylid dirymu'r briodas.

Os bydd yn cytuno, gallwch wneud cais am 'archddyfarniad cyntaf'. Bydd angen i chi lenwi 'Cais am gyfarwyddiadau ar gyfer treial (ffurflen D84) ac 'Affidafid ynghylch tystiolaeth' (ffurflen D80).

'Affidafid' (datganiad ar lw) ynghylch eich dirymiad yw ffurflen D80. Mae'n cadarnhau bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eich deiseb dirymedd yn wir. Rhaid i chi gael aelod o staff y llys neu gyfreithiwr i dystio i'r ffurflen hon cyn ei chyflwyno i'r llys. Ni chodir tâl am aelod o staff y llys yn tystio i'r ffurflen. Efallai y bydd cyfreithiwr yn codi ffi arnoch.

Mae fersiwn gwahanol o ffurflen D80 ar gyfer pob math o ddirymiad. Bydd angen i chi ddefnyddio'r fersiwn o ffurflen D80 sy'n cwmpasu'r math perthnasol o ddirymiad (di-rym neu y gellir ei dirymu).

Gallwch weld pob fersiwn o ffurflen D80 drwy ddilyn y ddolen isod a rhoi 'D80' yn y blwch chwilio.

Os na fydd eich gŵr neu'ch gwraig yn cytuno â'r dirymiad

Os na fydd eich gŵr neu'ch gwraig yn cytuno â'r dirymiad na'r trefniadau ar gyfer unrhyw blant ac arian yna bydd rhaid i chi fynd i'r llys. Bydd rhaid i'r ddau ohonoch fynd i'r gwrandawiad llys hwn. Fel arfer bydd rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys a thyngu llw bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn wir. Bydd y barnwr yn penderfynu beth arall ddylai ddigwydd a bydd y llys yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.

Pan fydd y barnwr yn fodlon y gellir dirymu'r briodas, bydd yn cyflwyno 'archddyfarniad cyntaf'. Dyma'r cam cyntaf yn y broses o ddirymu'r briodas. Dywed nad oes gan y barnwr unrhyw reswm pam na ellir dirymu eich priodas. Bydd y barnwr yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf.

Cadarnhau'r dirymiad

Chwe wythnos ar ôl i chi gael yr archddyfarniad cyntaf, gallwch wneud cais am Archddyfarniad Terfynol. Yn yr achosion hyn, caiff ei alw'n 'Archddyfarniad Dirymedd' hefyd. Dyma'r ddogfen gyfreithiol olaf sy'n nodi nad oedd y briodas erioed wedi bodoli yn gyfreithlon.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen D36 a'i dychwelyd i'r llys.

Bydd rhaid i chi dalu ffi o £45. Fodd bynnag, efallai y gallwch dalu llai os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau.

Pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflenni

Unwaith y bydd y llys wedi derbyn y ffurflen a'r ffi, bydd yn sicrhau nad oes unrhyw resymau pam na ellir dirymu'r briodas. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes rhaid i chi fynd i'r llys ar gyfer hyn.

Os bydd y llys yn fodlon, bydd yn anfon yr Archddyfarniad Dirymedd atoch.

Rhoi trefn ar arian ac eitemau personol

Hyd yn oed os caiff eich priodas ei dirymu, efallai y bydd rhaid i chi drefnu sut y byddwch yn rhannu unrhyw arian, eiddo neu eitemau personol y gallai fod gennych o hyd.

Mae'n well cytuno ar hyn rhyngoch chi a'r unigolyn arall os yw'n bosibl. Ond os na allwch gytuno, gallwch ofyn i'r llys eich helpu i gytuno neu benderfynu ar eich rhan. Gwneir hyn drwy wneud cais am 'orchymyn ariannol' (y cyfeirir ato weithiau fel y broses 'cymorth ategol').

Yn yr adran hon...

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU