Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryd y gallwch ddirymu priodas

Os credwch na ddylai eich priodas fod wedi bod yn briodas gyfreithlon o'r cychwyn, gallwch ofyn i lys ei 'dirymu'. Mewn termau cyfreithiol, mae hyn yn golygu na ddigwyddodd y briodas erioed. Gellir dirymu priodasau os ydynt yn 'ddi-rym' neu 'y gellir eu dirymu'. Cadarnhewch a yw'r naill neu'r llall yn berthnasol i chi.

Pan fydd priodas yn 'ddi-rym'

Nid yw priodas yn gyfreithlon (ac felly'n 'briodas ddi-rym'):

  • os oedd y naill neu'r llall a briododd o dan 16 oed ar adeg y briodas
  • os oedd y briodas rhwng dau ddyn neu ddwy ddynes (byddai hyn yn bartneriaeth sifil)
  • os oedd y naill berson neu'r llall yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda rhywun arall ar adeg y briodas (sef 'bigami')
  • os oedd y briodas rhwng perthnasau agos

Perthnasau agos na allwch eu priodi'n gyfreithlon

Os byddwch yn priodi aelod agos o'r teulu, bydd y briodas yn ddi-rym, hyd yn oed os nad ydych yn ymwybodol o'r berthnynas deuluol rhyngoch

Ymhlith y perthnasau agos na allwch eu priodi'n gyfreithlon mae:

  • mam neu dad - gan gynnwys mam neu dad mabwysiedig, neu gyn-fam neu gyn-dad mabwysiedig
  • merch neu fab - gan gynnwys merch neu fab mabwysiedig, neu gyn-ferch neu gyn-fab mabwysiedig
  • brawd, chwaer, hanner brawd neu hanner chwaer
  • nith, nai, modryb neu ewythr
  • mam-gu, tad-cu, ŵyr neu wyres

Caiff y rhain eu galw'n 'graddau gwaharddedig i briodi ynddynt' weithiau.

Os byddwch yn priodi aelod agos o'r teulu, bydd y briodas yn ddi-rym, hyd yn oed os nad ydych yn ymwybodol o'r berthynas deuluol rhyngoch.

Er enghraifft, os cafodd brawd a chwaer eu mabwysiadu gan deuluoedd gwahanol yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni a'u bod yn cwrdd pan fyddant yn hŷn, ni allent briodi'n gyfreithlon. Petaen nhw'n priodi, byddai'r briodas yn 'ddi-rym' ac ni fyddai'n cael ei chydnabod o dan y gyfraith.

Gall llys-rieni a llysblant briodi weithiau. Ond mae'n rhaid eu bod yn 21 oed o leiaf a heb fyw yn yr un cartref cyn bod y llysblentyn yn 18 oed.

Os ydych am gael cyngor ar ba un a fyddai priodas bosibl rhwng aelodau o'r teulu'n gyfreithlon, gofynnwch i'ch swyddfa gofrestru leol.

Priodi mwy nag un wraig

Priodas 'amlwreiciol' yw pan fydd gan ŵr fwy nag un wraig.

Ni allwch gael priodas amlwreiciol gyfreithlon yn y DU. Byddai unrhyw briodas a gynhelir pan fydd y gŵr eisoes wedi priodi yn ddi-rym.

Os cynhelir priodas dramor a bod y gŵr a'r wraig yn y byw yn y DU, byddai hefyd yn ddi-rym petai un ohonynt eisoes yn briod â rhywun arall.

Gall priodas amlwreiciol ond gael ei chydnabod yn y DU:

  • os cynhaliwyd y briodas mewn gwlad lle caniateir priodasau amlwreiciol
  • os oedd y gŵr a'r wraig ill dau'n byw dramor ar adeg y briodas

Os credwch fod priodas yn 'ddi-rym'

Os credwch fod priodas yn 'ddi-rym' oherwydd unrhyw un o'r rhesymau uchod, yn dechnegol nid oes rhaid i chi wneud dim byd i'w dwyn i ben o dan y gyfraith, a hynny am nad oedd yn bodoli o gwbl dan y gyfraith.

Ond efallai y bydd yn fuddiol cael gwaith papur cyfreithlon i brofi nad oedd y briodas yn bodoli o gwbl.

Er enghraifft, os ydych am briodi eto bydd angen i chi allu profi nad ydych wedi priodi eisoes.

Efallai eich bod yn torri'r gyfraith os yw eich priodas yn ddi-rym oherwydd eich bod eisoes wedi'ch priodi â rhywun arall (sef 'bigami').

Os gwnewch gais i gael eich priodas wedi'i dirymu, gallwch hefyd wneud cais i'r llys i'ch helpu i roi trefn ar eich arian fel petaech wedi'ch priodi. Gallwch wneud hyn drwy ofyn i'r llys wneud 'archddyfarniad dirymu'. Gweler 'Sut i ddod â phriodas sy'n 'ddi-rym' neu 'y gellir ei dirymu' i ben' am fwy o wybodaeth.

Pan fo priodas yn un 'y gellir ei dirymu'

Nes bod y llys yn dirymu priodas 'y gellir ei dirymu', byddwch wedi'ch priodi o hyd

Mae rhesymau penodol pam y gellir datgan bod priodas yn un 'y gellir ei dirymu'. Mae hyn yn golygu y gallwch ddod â'r briodas i ben drwy ei dirymu yn hytrach na thrwy ysgariad.

Os ydych am wneud hyn, bydd yn rhaid i chi ofyn i'r llys ei 'dirymu'. Bydd hyn yn golygu na fyddai'r briodas wedi bodoli o gwbl dan y gyfraith.

Ond nes i'r llys ddirymu priodas 'y gellir ei dirymu', byddwch wedi'ch priodi o hyd.

Gall priodas fod yn un 'y gellir ei dirymu':

  • os nad yw'n briodas 'gyflawn' (nad ydych wedi cael rhyw â'r person y gwnaethoch ei briodi ers y briodas), naill ai oherwydd bod un ohonoch yn dewis peidio neu na all wneud hynny'n gorfforol
  • os na chytunodd un ohonoch i'r briodas yn gywir - er enghraifft os buoch dan bwysau i gytuno i'r briodas
  • os oedd gan un ohonoch haint a drosglwyddir gan ryw pan wnaethoch briodi ac nad oedd y person arall yn ymwybodol ohoni
  • os oedd un ohonoch mewn cyflwr meddyliol a oedd yn anaddas i ymrwymo i briodas ar adeg y briodas
  • os oedd y ferch yn feichiog â phlentyn rhywun arall ar adeg y briodas ac nad oedd y dyn yn gwybod nad ei faban ef ydoedd

Gellir hefyd ddirymu priodasau os oes un ohonoch wedi newid, neu'ch bod am newid, eich rhywedd gyfreithiol.

Gallwch ddechrau'r broses o gael priodas 'y gellir ei dirymu' wedi'i dirymu unrhyw bryd ar ôl y briodas.

Bydd y barnwr yn ystyried pa mor hir y buodd ers:

  • cynnal y briodas
  • i chi ddarganfod y rheswm eich bod am ddirymu'r briodas

Os yw'r barnwr yn credu eich bod wedi cymryd rhy hir i wneud y cais efallai na chewch ddirymu'r briodas. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried cael ysgariad.

Beth i'w wneud os credwch fod eich priodas yn un 'y gellir ei dirymu' a'ch bod am ei dwyn i ben

Bydd angen i chi ofyn i'r llys gyflwyno 'archddyfarniad dirymu'. Gallwch gael gwybod sut i wneud hyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Cyfryngu i deuluoedd

Gall ddefnyddio cyfryngwr arbed amser, arian a straen i chi os yw’ch perthynas yn dod i ben

Allweddumynediad llywodraeth y DU