Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Fideo: Cyfleoedd ym maes trafnidiaeth

Gwyliwch fideo o bobl go iawn yn sôn am eu swyddi boddhaus yn maes trafnidiaeth. Dysgwch pa gymorth y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn ei gynnig, a sut y gwnaeth dilyn cyrsiau hyfforddiant a brwdfrydedd personol helpu pobl i gyflawni.

Methu gweld y fideo?

DWP jobcentre videos transport employee.jpg

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, pa gyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd yn y diwydiant trafnidiaeth.

Rob Patterson, rheolwr Streamline Taxis: "Rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad â'r Ganolfan Gwaith i hysbysebu pob un o'n swyddi ac maent yn bennaf ar gyfer gyrwyr a chynhaliodd y Ganolfan Gwaith Ffair Swyddi a'n gwahodd ni yno. Roedd y Ffair Swyddi yn wirioneddol wych gan fod pobl ar gael sy'n meddwl nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i godi ar ei gyfer a gallan nhw gerdded heibio a dod i gael sgwrs gyda ni a byddwn ni'n dweud wrthyn nhw beth yw'r opsiynau o ran gyrru tacsis neu fod yn rheolydd ac maen nhw'n ein gadael mewn hwyliau da ac yn meddwl 'wel, mae rhywbeth yno i mi beth bynnag'."

Ann-Marie Lloyd, gyrrwr bysiau, First in Manchester: "Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod o unrhyw werth os nad oeddwn yn gweithio. Dwi wedi gweithio bob amser felly oherwydd salwch doeddwn i ddim yn gallu gweithio ac roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i'm busnes fy hun. Felly roedd dychwelyd i'r gwaith yn bwysig iawn i mi. Roedd y Ganolfan Gwaith yn gymorth mawr. Byddwn yn mynd yno bob diwrnod, a byddent yn chwilio am swyddi ac yn dweud wrthyf ddod nôl ac y cawn unrhyw gymorth y byddai ei angen arnaf."

Jim Donovan, rheolwr hyfforddi a datblygu, First in Manchester: "Er mwyn ein cynorthwyo wrth nodi a dod o hyd i ymgeiswyr, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn hidlo ein hymgeiswyr ar ein rhan, ac yna fel arfer yn eu cyfeirio at y prif gontractwyr neu un o'r prif gontractwyr yn yr ardal. Yn yr achos hwn maent yn gweithio'n agos gyda chwmni TNG. Yna byddai TNG yn cyfweld â'r ymgeisydd o ran pa mor addas yw i gael ei gyflogi gan First in Manchester. Os yw'n addas, mae'n dilyn cwrs cyn-dewis pum niwrnod sy'n cynnwys nifer o bynciau sy'n ymwneud â diogelwch yn bennaf. Ceir hefyd elfen sy'n ymroddedig i wasanaeth cwsmeriaid ac os yw pobl ar y cwrs hwnnw'n cael trafferth â rhifedd a llythrennedd ceir cymorth a chanllawiau yn y pynciau hynny. Pan fyddant yn cwblhau'r cwrs, byddant yn dilyn ein proses dewis a chyfweld ac o hynny ymlaen yn cael hyfforddiant fel y byddai unryw ymgeisydd arferol.

Ann-Marie Lloyd: "Rhoddodd y Ganolfan Byd Gwaith gymorth i mi pan ddywedais wrthynt fod gennyf gais ar gyfer First in Manchester. Gwnaethant ddweud wrthyf ddod yn ôl ac y byddent yn eistedd i lawr gyda mi, yn sôn am y cyflog, h.y. oriau a gweld a oedd yn werth fy amser o safbwynt ariannol a hefyd pa fudd-daliadau y gallwn eu cael h.y. credydau treth gwaith, a chefais gymorth i gwblhau'r ffurflenni.

Jim Donovan: "Mae ein cysylltiad â'r Ganolfan Byd Gwaith a'i phrif gontractiwr, TNG, yn galluogi ymgeiswyr i ddilyn hyfforddiant cyn-gyflogaeth, lle maent yn canolbwyntio ar nifer o bynciau rydym ni fel cyflogwr yn eu hystyried yn hanfodol i gyflawni swydd gyrrwr bws proffesiynol."

Ann-Marie Lloyd: "Rydym yn dilyn NVQ gyrru mwy diogel a fydd yn arwain at gwrs gyrru uwch, er budd diogelwch y criw a sgiliau gyrru gwell."

Tankya Marsh, gyrrwr bysiau London Central a London General: "Cefais fudd mawr oherwydd fy mod wedi bod yn ddi-waith yn ysbeidiol ers pum mlynedd nawr ac rwyf bob amser wedi bod eisiau gyrru bysiau. Roeddwn mor benderfynol fy mod am gael y swydd hon, a cheisiais amdani tua theirgwaith a'i chael ar y trydydd tro."

Ann-Marie Lloyd: "Roedd wedi bod allan o'r diwydiant gyrru bysiau am 13 o flynyddoedd cyn dod yn ôl i First in Manchester. Yn amlwg, roedd angen hyfforddiant gloywi arnaf gan nad oeddwn wedi gyrru bws ers cyhyd.Felly roedd yn rhaid i mi fynd allan gyda'r dysgwyr i ddod yn gyfarwydd â maint y cerbyd unwaith eto."

Tankya Marsh: "Bellach mae gennyf yrfa lawn amser i edrych ymlaen ati. Mae o fudd i mi mewn sefyllfaoedd ariannol ac wedi gwneud i mi lwyddo."

Jim Donovan: "Y sgiliau rydym yn gofyn amdanynt gan unigolion yw eu bod yn llawn cymhelliant, yn ymwybodol o ddiogelwch, yn weithiwyr hyblyg ac yn amlwg yn bobl sydd â diddordeb mewn gyrru ac sy'n yrwyr da, sy'n hoffi ac yn mwynhau cwrdd ag aelodau'r cyhoedd."

Ann-Marie Lloyd: "Dewisais weithio yn y sector hwn gan fy mod yn hoffi gweithio gyda'r cyhoedd ac yn hoffi bod ar grwydr. Cewch gwsmeriaid rheolaidd sy'n edrych ymlaen at eich gweld. Rydych yn gwneud eu diwrnod yn werth chweil."

Jim Donovan: "Er ein bod mewn diwydiant sy'n cael ei reoleiddio'n fawr, mae gyrwyr yn mwynhau bod ar eu pen eu hunain a rheoli cerbyd yn ogystal â chwrdd ag aelodau'r cyhoedd."

Ann-Marie Lloyd: "Dwi'n fos arnaf fy hun ar y ffordd. Dwi'n gyfrifol am fy nheithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd ond y rhyddid sy'n bwysig."

Jim Donovan: "Mae'r mathau o bobl a ddaw drwy gynllun y Partneriaeth yn cynrychioli trawstoriad o bobl mewn cymdeithas. Mae gennym ni rieni unigol, pobl sydd wedi ymddeol i ryw raddau, pobl mor ifanc â 18 neu 19 oed. Mae gennym ni hefyd gryn dipyn o bobl o leiafrifoedd ethnig ac rydyn ni'n cydweithio â Remploy i ddod â phobl ag anableddau ac sy'n cael anhawster i gael gwaith yn ôl i'r gweithle."

Rob Patterson: "Rydych chi'n cael llawer o bobl gan y Ganolfan Gwaith. Llawer o rieni unigol sydd eisiau gweithio 10 awr, 16 awr yr wythnos yn unig gan fod eu plant yn yr ysgol a bod angen iddyn nhw fynd i'w casglu. Dyma'r swydd ddelfrydol iddyn nhw ond yr hyn sy'n dychryn llawer ohonyn nhw yw bod yn rhaid iddyn nhw dalu am eu bathodynnau eu hunain, a all fod rhwng £70 a £100 am eich prawf meddygol. Rydych chi'n talu £37 am wiriad yr heddlu ac mae'n rhaid i chi hefyd dalu £60 am eich bathodyn pan fydd hynny i gyd wedi'i wneud, ond mae Canolfan Gwaith Hartlepool yn ein hariannu ni bellach ar gyfer y bobl hyn. Mae arian yno iddyn nhw fynd allan i'w gael. Os byddan nhw'n dod i Streamline Taxis byddwn ni'n llofnodi'r llythyr yn gwarantu swydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n cael eu bathodyn."

Ann-Marie Lloyd: "Dwi'n eithaf mwynhau gyrru ar hyn o bryd, ond dwi ddim yn ifanc bellach felly wrth i mynd fynd yn hŷn efallai y bydda i'n ceisio am swydd rheolwr."

Ian Ralph, rheolwr gweithrediadau: "Dwi wedi bod gyda'r cwmni hwn ers 22 o flynyddoedd bellach gan ddechrau fel gyrrwr. Bellach, dwi'n Rheolwr Gweithrediadau. Dwi wedi mynd drwy'r broses o gael cyfweliadau. Mae'r cwmni yn cynnig swyddi i bobl frwd, fel y gallant ddatblygu yn y cwmni, hyd at fod yn rheolwr gyfarwyddwr. Mae pobl wedi gwneud hynny. Fe ddechreuon nhw fel gyrwyr, ac mae un ohonynt bellach yn rheolwr gyfarwyddwr. Mae wedi datblygu yn y cwmni."

Rob Patterson: "Rhaid i chi fuddsoddi er mwyn cael canlyniadau, fel pob swydd arall. Os oeddech chi'n hapus yn mynd i'r gwaith ac yn hapus gyda'r cwsmeriaid, dwi'n meddwl yr ewch adref yn hapus."

Gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth

Dysgwch pa sgiliau sydd eu hangen arnoch, y cyfleoedd a gynigir a sut i gael cymorth wrth chwilio am swydd yn y diwydiant trafnidiaeth.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU